Galwad am bapurau – cynhadledd ‘Iechyd a Heddwch’, Mawrth 31ain 2022.

Ym 1938, cwblhawyd y gwaith o adeiladu’r Deml Heddwch ac Iechyd ym Mharc Cathays, Caerdydd. Wyth deg tair blynedd yn ddiweddarach, mae enw’r adeilad yn fwy perthnasol nag erioed yn wyneb problemau byd-eang cynyddol.

Adnabyddir y sefydliadau sy’n byw yno fel y Deml, mae yna dwy adain (fel y gwelir uchod) – yr adain ‘Heddwch’, a’r adain ‘Iechyd’.

Ar Fawrth 31ain, 2022, bydd Academi Heddwch yn cynnal cynhadledd ar-lein i drafod ‘Iechyd a Heddwch’ mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, a gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y gynhadledd yn edrych ar y cysylltiadau rhwng Byd Iach a Byd Heddychlon; siaradwr y cyfarfod llawn ar gyfer y gynhadledd fydd Dr. Rowan Williams.

Rydym yn croesawu cynigion ar gyfer papurau 25 munud, drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Dylid anfon crynodebau (yn cynnwys dim mwy na 200 gair) at Mererid Hopwood (meh64@aber.ac.uk) erbyn Ionawr 31ain.

Am mwy o fanylion, darllenwch y pdf isod.