Mae croeso i chi!

Gan Wirfoddolwr WCIA, Teresa Morandini

“Mae croeso i chi”, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn nigwyddiad Coffáu’r Holocost, “Rhwygo o’u Cartref” yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ar 28 Ionawr 2019.

Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Sefydliad Josef Herman a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn myfyrio ar golli lle diogel o ganlyniad i erledigaeth a hil-laddiad, a’r angen am loches.
Ychwanegodd Eluned Morgan: “Yn gyffredinol mae pobl eisiau aros gartref. Os ydynt wedi ffoi o rywle, bydd ganddynt reswm da am wneud hynny.” Er mwyn teimlo bod croeso iddynt mae pawb angen help i integreiddio.

Mae stori’r arlunydd Josef Herman yn bwysig oherwydd y croeso a gafodd a’r cyfraniad a wnaeth wrth rannu bywyd Cymreig gyda’r byd drwy ei gelf: “Dim ond rhywun o’r tu allan a allai ein helpu i ddeall pwy ydym ni”.

Ganwyd Josef Herman ym 1911 i deulu Iddewig yn Warsaw, lle mynychodd yr Ysgol Gelf. Fodd bynnag, ar ôl 1938, gorfodwyd Josef i adael Gwlad Pwyl oherwydd Gwrth-Semitiaeth. Ym 1942, roedd Herman yn gweithio yng Nglasgow pan ddysgodd drwy’r Groes Goch fod ei deulu cyfan wedi marw yn Geto Warsaw. Ym 1944, pan oedd yn teithio yng Nghymru, cafodd gwaith celf Herman ei ddylanwadu gan ymweliad ag Ystradgynlais, tref lofaol yn ne Cymru, a drodd yn gartref iddo am 11 mlynedd. Mewn cyfnod byr, trodd yn wyneb cyfarwydd yn y gymuned a roddodd y ffug enw annwyl “Joe Bach” iddo. Canfu “gartref ymhell o adref”.

Ers cyfnod Herman, mae Ystradgynlais wedi bod yn noddfa. Roedd yn un o’r llefydd cyntaf i dderbyn ffoaduriaid o Syria. Yn ystod y noson dangoswyd tair ffilm fer a gefnogwyd gan Sefydliad Josef Herman , i gysylltu’r gorffennol â’r presennol. Crëwyd yr animeiddiadau drwy brosiect ar y cyd rhwng ysgolion lleol yn Ystradgynlais, teulu o ffoaduriaid o Syria, yr actor Michael Sheen, Y Neuadd Les, Ystradgynlais, Ffilm Cymru a’r cwmni animeiddio wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Winding Snake. Clywodd y gynulleidfa hefyd straeon personol ffoaduriaid, sydd bellach yn byw yng Nghymru.

Dywedodd Joseff, ceisiwr lloches o Côte d’Ivoire, sydd bellach yn siaradwr Cymraeg: “mae dysgu’r Gymraeg wedi bod yn help i deimlo’n rhan o’r gymuned, i gwrdd â phobl eraill ac, yn bwysicach, i deimlo bod croeso yma”. Roedd ei araith gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg, a dderbyniodd gryn gymeradwyaeth. Anogodd Joseff, sydd yn ei 40au i ffoaduriaid eraill edrych ar Gymru fel cartref newydd, dechrau newydd yn rhydd o drais ac erledigaeth. Siaradodd Gareth Morgan yn frwdfrydig am hanes tîm pêl-droed lleol yn Nhongwynlais sydd nid yn unig wedi llwyddo ar y cae pêl-droed, ond sydd hefyd wedi mwynhau cyfeillgarwch hir oes ers gwahodd grŵp o geiswyr lloches i ymuno â’r tîm. Rhannodd ceiswyr lloches a ffoaduriaid eraill eu straeon o gael trafferthion â’r system loches, gwahaniaethu ar brydiau, ond hefyd straeon o groeso wrth iddynt ymgartrefu yng Nghymru. Yn olaf, chwaraeodd y sielydd, Rosie Biss, ddarn teimladwy gan Bach wrth i’r gynulleidfa fyfyrio ar y straeon a rannwyd a sut y mae Cymru yn gweithio tuag at ddod yn Genedl Noddfa.

Cytunodd aelodau o’r gynulleidfa y dylid cyflwyno’r ffilmiau byr a ddangoswyd i’r cyhoedd ehangach, i annog pobl i ddysgu am sefyllfa’r ceiswyr lloches a stori Josef Herman. Dywedodd, Ffion, myfyrwraig Newyddiaduriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, fod y digwyddiad yn ysbrydoledig iawn. “Dysgais am safbwyntiau newydd a straeon personol. Rwyf nawr yn meddwl am beth allaf ei wneud yn y dyfodol”.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *