Written on 08-11-2017 by Craig Owen
Mae Llyfr y Cofio Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf, trysor cenedlaethol sydd yn cael ei gadw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, wedi cael ei ddigido a bellach, gellir ei gyrchu gan y cyhoedd ar-lein yn BookofRemembrance.Wales, yn dilyn prosiect dwy flynedd oedd yn cynnwys dros 150 o wirfoddolwyr o gymunedau ar draws Cymru. Bu’r gwirfoddolwyr hyn yn gweithio gyda Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri
Llyfr y Cofio
Mae’r Llyfr y Cofio hyfryd, â chlawr lledr yn cynnwys memrwn felwm, sydd wedi’i addurno â dail aur, inc mân a chaligraffi – yn cynnwys enwau dros 40,000 o ” ddynion a merched o Gymru ynghyd ag aelodau o gatrodau Cymreig, a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf rhwng 1914-1918”.
Mae’r llyfr, a ymchwiliwyd iddo ac a’i grëwyd â llaw yn y 1920au gan fenywod oedd yn gweithio gyda’r caligraffydd enwog Graily Hewitt o Lincoln’s Inn a Gwasg Gregynog, yn Rhestr o Wroniaid i gyd-fynd â Chofeb y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mharc Cathays, a agorwyd gan y Brenin Edward VII ym 1928. Gyferbyn â Chofeb Rhyfel Cymru, adeiladwyd y Deml Heddwch – a agorwyd ym 1938 – i gartrefu’r llyfr, ac er cof am y rheiny a gollodd eu bywydau, i weithredu fel symbol o benderfyniad Cymru i geisio cyfiawnder a heddwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ‘. Dywedwyd y geiriau hyn ym 1938 gan Minnie James, mam o Ferthyr Tudful a oedd wedi colli tri mab yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gofynnwyd iddi agor y Deml Heddwch ar ran mamau a gweddwon y byd sydd wedi colli eu hanwyliaid yn y rhyfel.
Dod o hyd i Unigolion yn Llyfr y Cofio Ar gyfer Dydd y Cofio 2017, mae’n bleser gan WCIA a’r Llyfrgell Genedlaethol lansio’r Llyfr y Cofio digidol ar-lein yn:
www.BookofRemembrance.Wales/
www.LlyfyryCofio.Cymru
Cyfleuster sy’n galluogi defnyddwyr a’r cyhoedd i chwilio a gweld y trawsgrifiadau sy’n anrhydeddu milwyr unigol, nyrsys, perthnasau ac aelodau o’r gymuned a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am y tro cyntaf, trwy deipio enwau unigolion, trefi cartref neu gatrodau i mewn i’r blwch ‘chwilio’ ar y gwaelod. Wedyn, gall defnyddwyr weld y trawsgrifiadau yn unigol.
Meddai Syr Emyr Jones Parry, Llywydd WCIA: “Mae’n iawn ein bod ni’n cofio’r aberthau a wnaed gan gymaint o ddynion a menywod yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r atsain yn barhaus a nawr, mae Llyfr y Cofio Cenedlaethol Cymru ar gael ar-lein er mwyn i ddisgynyddion, haneswyr a’r rheiny sydd â diddordeb gael mynediad at fanylion y rheiny a fu farw yn enw dyfodol heddychlon. ”
Gellir gweld Casgliadau y Catrodau o enwau ar Gasgliad y Werin Cymru hefyd.
Hanes y Trawsgrifio: Ymdrech Gwirfoddolwyr
Cafodd y 40,000 o enwau eu trawsgrifio dros ddwy flynedd gan wirfoddolwyr yn Aberystwyth, Caerdydd, Caernarfon a Bangor, ynghyd â phobl ifanc o nifer o ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol, fel ‘gweithred cofio digidol’. Nawr, hoffai, WCIA a LlGC dalu teyrnged i wirfoddolwyr y mae eu hymdrechion wedi sicrhau bod y trysor cenedlaethol hwn ar gael ar-lein ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Y llyfr yng Nghastell Bodelwyddan, Sir Ddinbych; gwirfoddolwr, Mared, yn trawsgrifio yn yr Eisteddfod ym Môn; pant ysgol yn Wrecsam yn cymryd rhan mewn ‘trawsgribathon’
“Roedd fy nhad-cu yn beiriannydd unwaith yn y Llynges Fasnachol a chafodd ei long, y Memon S.S, ei tharo gan dorpedo. Fel teulu, roeddem bob amser yn sôn amdano fel bod wedi marw yn y rhyfel, ond dim byd arall. Wrth edrych trwy hen focsys, darganfyddais rhywfaint o’i fedalau, a thrwy gymryd rhan yn y trawsgrifiad, cefais fy nghymell i wneud mwy o ymchwil i’w hanes “.
Gwenno Watkin, Aberystwyth – cafodd hanes ei thaid ei arddangos yn arddangosfa WCIA yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Data Ffynhonnell Agored
Mae’r cofnodion hefyd ar gael fel set o ddata ffynhonnell agored sy’n seiliedig ar y gwahoddiad – a’r her – i sefydliadau, myfyrwyr a rhaglenwyr i ddatblygu adnoddau ar y we sy’n galluogi pobl i ddarganfod mwy am y rheiny a gollodd eu bywydau. Bydd y set ddata ar gael o fewn yr wythnosau nesaf trwy gyfrwng offer Ymchwil ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol (data LlGC):
https://www.llgc.org.uk/en/collections/activities/research/nlw-data/
Un sefydliad sy’n cymryd rhan yn yr her ddata yw Amgueddfa Ryfel Ymerodraethol y DU, a fydd yn integreiddio’r prosiect WCIA i’w Cofrestr Cofebion Rhyfel IWM, sy’n ceisio cofnodi pob cofeb rhyfel, sydd mewn bodolaeth ac wedi’i golli, yn y Deyrnas Unedig, ynghyd ag enwau’r dynion a’r menywod sy’n cael eu coffáu arnynt. Mae cwblhau Llyfr y Cofio Cymru yn galluogi IWM i gyrraedd eu targed o filiwn o gofebion, y maen nhw wedi bod yn gweithio tuag ati ers 1989.
Cofio dros Heddwch: Taith yr Arddangosfa
I nodi cyfnod canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r Llyfr wedi bod yn teithio i Gymru fel prif atyniad arddangosfa ‘Cofio dros Heddwch’ WCIA. Mae’r arddangosfa’n rhedeg ochr yn ochr â’r cerfluniau ‘Poppies: Weeping Window’, sydd yng Nghastell Caernarfon trwy gydol tymor yr Hydref 2016, a Bae Caerdydd yn nhymor yr Hydref 2017, Bydd yn ymddangos yng Nghastell Bodelwyddan, Sir Ddinbych, Amgueddfa Arberth, Sir Benfro, ac Oriel Ynys Môn hefyd..
Lansiwyd y daith yn y Senedd ar Ddydd y Cofio 2015, fel rhan o raglen ddigwyddiadau “Cofio” y Cynulliad Cenedlaethol. Nawr, gallwch weld yr arddangosfa Cofio dros Heddwch ar-lein ac yn ystod yr wythnos yn lobi mynediad y Deml Heddwch yng Nghaerdydd; a gellir gweld y Llyfr y Cofio gwreiddiol drwy fynd ar un o ‘Deithiau Tywys’ rheolaidd WCIA, sydd yn cael eu hysbysebu ar wefan WCIA.
HLF Cymru, 2015
Cofnod Cywir neu Arwydd Symbolaidd?
Drwy gydol y dauddegau – gan nad oedd cofnodion canolog dibynadwy – lansiwyd ymgyrch genedlaethol, gyda chymorth sylweddol mudiadau merched, i geisio casglu enwau pawb a fu farw. Fodd bynnag, roedd teimladau llawer o deuluoedd ynghylch natur cofio yn gymysg ac yn gignoeth. Roedd llawer yn teimlo nad oedd eu hanwyliaid wedi bod yn ddim ond ysglyfaeth i lywodraethau mewn rhyfel gwastraffus a diangen – ac fe wrthododd llawer adael i’w henwau gael eu defnyddio ar gofebion sefydliadol a oedd yn eu tyb nhw yn clodfori rhyfel, neu a allai gyfiawnhau recriwtio rhagor i’r fyddin yn y dyfodol. Yn sgil trafodaethau o’r fath y daeth symbolau pwerus y pabi coch a’r pabi gwyn (gweler isod), y ddau babi sy’n cael eu ffafrio gan y fyddin a mudiadau heddwch. Mae arwyddocâd symbolaidd y llyfr yn aml yn cael ei weld fel rhywbeth sydd yr un mor bwysig â’i swyddogaeth fel cofnod o’r lladdedigion:
“Roedd casglu’r enwau.. yn waith o faint sylweddol… ac er na ellir honni bod y rhestr yn gwbl gywir na chyflawn, bu gofal mawr i ymdrechu at hynny.” Darn o Raglen Defod Ddadorchuddio Cofeb Genedlaethol Cymru.
Rhannu Storïau Milwyr
Ar gyfer perthnasau sy’n ceisio cofio un o’u hanwyliaid, neu ysgolion sy’n ceisio ymgymryd â phrosiectau sy’n cysylltu â’r bobl y tu ôl i’r enwau yn y llyfr, mae WCIA a LlGC yn parhau i apelio am storïau y gellir eu cyfrannu at gofnodion milwyr yng Nghymru
http://www.walesatwar.org/en/individual
Mae Storïau Milwyr yn gallu bod ar ffurf darnau byr o ymchwil, blogiau neu brosiectau amlgyfrwng, ac maen nhw’n ffordd ddwys iawn o gofio’r rheiny a gollodd eu bywydau 100 mlynedd yn ôl.
- • Alfred Howell, Aberystwyth – Mynediad ymchwil yng Nghymru yn y Rhyfel
• Welsh among the ANZACs of Palestine – Prosiect blog
• Preifat Allen Price, Swydd Henffordd – Prosiect amlgyfrwng
Video Shorts produced with the Wales for Peace Project
Llandrillo College, 2016
Ysgol Cym Rhymni, 2017
Passchendaele100, 2017
Ymholiadau’r Cyfryngau am y prosiect Cymru dros Heddwch / Llyfr y Cofio
Os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch walesforpeace@wcia.org.uk neu cysylltwch â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar 02920228549, neu Bennaeth Cymru dros Heddwch Craig Owen ar 07876638846.