Protestiadau Swdan

Mae’r byd wedi cael ei galonogi’n gyntaf, gan y protestwyr heddychlon yn Khartoum. yn galw am ddiwedd cyfundrefn unbenaethol Omar al-Bashir yn Swdan, a arweiniodd at ymddiswyddiad yr Arlywydd ac at Gyngor Milwrol Trosiannol yn cymryd rheolaeth.  Y ddelwedd eiconig o’r chwyldro oedd dynes, wedi’i gwisgo mewn gwyn i ddynodi heddwch, yn sefyll ar do car yn annerch y torfeydd. Mae’r trais eithafol ar brotestwyr heddychlon ar 3 Mehefin gan filwyr Janjaweed yn ol pob sôn (Rapid Support Services), a arweiniodd at tua 200 o farwolaethau a llawer mwy o anafiadau, wedi achosi dicter, ac mae’r Undeb Affricanaidd wedi gwahardd Swdan rhag bod yn rhan ohono.

Mae protestiadau heddychlon yn erbyn yr unbennaeth 30 mlynedd yn aml wedi arwain at drais.  Ers mis Rhagfyr 2018, mae protestwyr wedi meddiannu rhannau o ganolbarth Khartoum, yn galw am gael dychwelyd at reolaeth sifil.  Mae’r proffesiwn meddygol wedi cael ei dargedu’n arbennig gan awdurdodau, oherwydd eu bod yn cofnodi’r anafiadau a’r mathau o arfau a ddefnyddir.  Mae staff meddygol wedi cael eu curo mewn ysbytai, eu llusgo allan a’u cadw yn erbyn eu hewyllys, a’u lladd hd yn oed.  Yn ddiweddar, mae ysbytai wedi dweud bod staff meddygol wedi cael eu treisio hefyd.  Ceir adroddiadau hefyd, am gyrff protestwyr yn cael eu taflu yn y Nîl i gelu’r gwir am nifer y marwolaethau. Mae defnyddio’r milwyr Janjaweed, sy’n enwog am yr erchyllterau a gyflawnont ar sifiliaid yn Nhalaith Darfur, yn dacteg i ledaenu arswyd a trawmateiddio’r protestwyr. Adroddodd Fergal Keane ar gyfer y BBC ar ôl yr ymosodiadau ar brotestwyr. Mae’n ysgrifennu “Sudan has been driven backwards by the conspiracy of a military elite whose priority is the survival of their power and privilege.”

Mae rhyddid mynegiant hefyd wedi’i gwtogi, yn sgil y ffaith bod y rhyngrwyd wedi cael ei gau i lawr yn Swdan ers 3 Mehefin.  Er gwaethaf hyn, mae adroddiadau wedi cyrraedd y tu allan i Swdan, ac mae pobl yn parhau i ymfyddino y tu mewn. Cynhaliodd pobl ifanc yng Nghaerdydd brotest ddramatig yn Heol y Frenhines, yn cerdded tra wedi’u gorchuddio â gwaed ffug. Mae’r gymuned Sudaneaidd yng Nghymru yn galw am undod, ac mae protest byd-eang yn cael ei gynnal ar 30 Mehefin yn erbyn y distawrwydd ynghylch y digwyddiadau yn Swdan. Ar 30 Mehefin, bydd hi’n 30 mlynedd ers i Omar al-Bashir ddod i rym.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *