Written on 14-09-2019 by Craig Owen
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cynigiodd Cymru loches i fwy na 4,500 o ffoaduriaid oedd wedi ffoi rhag y gwrthdaro ar gaeau Fflandrys. 100 mlynedd yn ddiweddarach, rhannodd Rheolwr Rhaglen Cymru dros Heddwch WCIA, Craig Owen, y stori hon gydag ymchwilwyr ym Mrwsel yn y Symposiwm ar Ffoaduriaid o Wlad Belg’ – (Saesneg yn unig) – ond gyda ffocws arbennig ar archwilio tonnau olynol o loches o’r Rhyfel Byd Cyntaf hyd heddiw, sydd wedi arwain at ymgyrch bresennol Cymru i ddod yn ‘genedl noddfa ‘ gyntaf y byd’.
Yn dilyn darlith yn Aberystwyth ym mis Mawrth 2016, datblygodd Cymru dros Heddwch thema Ffoaduriaid a Lloches, gyfan fel rhan o’r prosiect. Roedd hyn yn cynnwys nifer o gymunedau a oedd yn archwilio’r pwnc Ffoaduriaid o Wlad Belg o fewn treftadaeth Heddwch Cymru.
Cafodd cyflwyniad Craig, fel rhan o safbwyntiau’r ‘Ŵyl Ymylol Geltaidd’, ei ategu gan ddau gyfraniad cymunedol:
Janet Bradshaw ar Ffoaduriaid o Wlad Belg yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin (Saesneg yn unig)
Tony Vitti ar Ffoaduriaid o Wlad Belg yn y Rhyl a Gogledd Cymru (Saesneg yn unig)
Roedd y symposiwm ym Mrwsel yn digwydd yn sgil Symposiwm ar Ffoaduriaid o Wlad Belg a gynhaliwyd yng Nghaerdydd (Saesneg yn unig) ym mis Tachwedd 2017. Tynnodd symposiwm Brwsel safbwyntiau o bob rhan o’r DU ynghyd, yn ogystal â rhai Gwlad Belg ei hun; a gosododd y sylfeini ar gyfer cyfuno’r wybodaeth a gasglwyd, ac ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Yn ddiweddar, bu WCIA yn gweithio gyda’r Rhaglen Dysgu Byd-eang i ddatblygu cyfres o adnoddau ar gyfer ysgolion sy’n addysgu ar y themâu ffoaduriaid a lloches, a ddylai’r rhain fod ar gael ar yr Hwb yn ystod tymor yr hydref 2018.
Cyflwyniad WCIA
Refugees and Sanctuary in Wales – PDF (Saesneg yn unig)
Adnoddau Dysgu
Refugees & Sanctuary learning resources to follow from Hwb.
Gallwch weld yr Albwm Lluniau ar Flickr – https://flic.kr/s/aHsmsFkgzT