Written on 06-06-2018 by Craig Owen
Ym mis Mehefin, lansiwyd ‘Taith derfynol Arddangosfa Cymru dros Heddwch’ WCIA, yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi rhwng 6 Mehefin – 8 Gorffennaf 2018.
Mae’r arddangosfa, sydd yn cael ei hariannu gan y Loteri Treftadaeth, yn dwyn ynghyd gwaith sydd wedi cael ei wneud dros y bedair blynedd diwethaf gan gymunedau, ysgolion a grwpiau ieuenctid, i ddatgelu treftadaeth heddwch Cymru – ac yn edrych ar y cwestiwn “Yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch? “
Gweithredu dros Heddwch, Bryd Hynny a Nawr
Mae saith thema yn edrych ar ‘weithredoedd dros heddwch’ drwy’r cenedlaethau, a’u perthnasedd i faterion yn y byd heddiw, gan dynnu ar hanesion ‘rhyngwladolwyr ysbrydoledig’ a sut y ceisiodd pob un adeiladu byd gwell. Mae defnyddio lliwiau Baner Heddwch y 1960au i lywio dyluniad a themâu’r arddangosfa wedi cynhyrchu arddangosfa liwgar dros ben, gyda thapestri cyfoethog o hanesion gan wirfoddolwyr yn cael eu harddangos, yn cynnwys dyfais sgrin gyffwrdd ddigidol a llyfr o flogiau.
DOWNLOAD VISITORS GUIDE English
Cymraeg
Celf Heddwch ‘Heddychwyr’ Ifanc
Mae WCIA yn falch dros ben o fod wedi cael y cyfle i weithio gydag Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, i arddangos ymatebion artistig o’r ‘Gwobrau Heddychwyr Ifanc’ diweddar. Ar sail y rhain, mae myfyrwyr wedi cynhyrchu llyfryn gwych i rannu’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w gwaith.
DOWNLOAD ‘HEART OF PEACE’ BOOKLET – YMATEBION ARTISTIG HEDDYCHWYR IFANC
Dathlu Rhyngwladolwyr Lleol
Mae sawl sefydliad lleol o Ynys Môn a Gwynedd yn cael eu dathlu yn yr arddangosfa hefyd am eu cyfraniad tuag at ryngwladoliaeth Gymreig, gan gynnwys y grŵp ymgyrchu UNA Menai (Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig), Cyswllt Lesotho Cymru Dolen Cymru, Gwerin y Coed / the Woodcraft Folk, a Cymdeithas y Cymod / the Fellowship of Reconciliation
Taith Arddangosfa Cymru Gyfan
Yn dilyn yr arddangosfa yng Nghaergybi, bydd yr arddangosfa yn symud ymlaen i’r lleoliadau canlynol:
• Abertawe ym mis Medi,
• Merthyr Tudful ym mis Hydref, a’r
• Deml Heddwch yng Nghaerdydd trwy Fis Rhagfyr 2018
• Storiel ym Mangor ym mis Mawrth 2019.
• Aberystwyth ym mis Mai 2019
Bydd arddangosfeydd ‘dros dro’ hefyd yng:
• Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Conwy / Sir Ddinbych (Mawrth-Mai 2018)
• Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Gorffennaf 2018
• Machynlleth, Canolfan Owain Glyndŵr, Awst 2018