Bu farw cyn gadeirydd y WCIA, Gareth Price yn 78 mlwydd oed. Bu Gareth yn Gadeirydd y WCIA rhwng 2008 a 2012 a chyn hynny bu’n ymddiriedolwr am lawer o flynyddoedd.
Dywedodd Cadeirydd presennol y WCIA, Daniel Davies, “Roedd Gareth yn Gadeirydd gwych o’r WCIA. Llwyddodd i arwain y sefydliad drwy gyfnod anodd gyda’i awdurdod pwyllog amlwg a helpodd i sicrhau rhai newidiadau pwysig ac rydym yn elwa ohonynt hyd heddiw. Daeth Gareth â’i angerdd at ryngwladoli i’r WCIA, a ddatblygwyd drwy ei waith yn Sefydliad Thomson, gan helpu i hyfforddi newydiadurwyr o bob rhan o’r byd. Roedd yn gymeriad hoffus ac yn cael ei barchu’n fawr iawn gan yr Ymddiriedolwyr a’r staff.
Addysgwyd Gareth Price yn Aberaeron, Ceredigion ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn dod yn ddarlithydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Queen’s, Belfast. Ymunodd â’r BBC yn 1964, cyn dod yn Rheolwr BBC Wales. Gadawodd y BBC yn 1990 i ddod yn Gyfarwyddwr Sefydliad Thomson, sy’n codi safonau newyddiaduraeth a chyfathrebu ledled y byd.
Dywedodd Prif Weithredwr presennol y WCIA, Susie Ventris-Field, “mae sefyllfa gadarn WCIA heddiw yn rhan o etifeddiaeth arweinyddiaeth Gareth Price. Estynnwn ein meddyliau a’n cydymdeimlad i’w deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.”