Written on 05-09-2018 by Craig Owen
Mae arddangosfa sy’n archwilio adeilad treftadaeth heddwch Cymru wedi agor yn Amgueddfa Abertawe, cyn y cynhyrchiad celfyddydol nodedig hwn ym mis Medi gan Marc Rees a 14-18NOW – ‘Nawr yr Arwr’, sef cynhyrchiad theatr epig o ryfel, heddwch a phrotest.
Fel rhan o ‘raglen o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ‘Nawr am Fwy’ Abertawe, sy’n dathlu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae ‘Cymru dros Heddwch’ yn edrych ar weithredoedd heddychwyr o’r gorffennol a’r presennol, yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, trwy gyfrwng saith thema – ac yn gwneud y cysylltiadau â hanesion a chasgliadau lleol a gedwir yn Amgueddfa Abertawe, yn ogystal â phaentiad eiconig y Rhyfel Byd Cyntaf ‘the Battle of Mametz Wood’gan Christopher Williams, sydd ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Mae benthyciadau WCIA yn cynnwys fersiwn Gymraeg o Lyfr y Cofio y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal â Deisebau Arweinwyr Ffydd a Menywod o’r casgliadau yn y Deml Heddwch, ymhlith dogfennau hanesyddol eraill o’r mudiad heddwch.
I gyd fynd â’r arddangosfeydd, mae 20 o artistiaid o Abertawe wedi cyfrannu eu hymatebion eu hunain i’r themâu rhyfel a heddwch – yn amrywio o’r gosodiad sain ‘Locus’ sy’n cofio cyfansoddwr y Rhyfel Byd Cyntaf, Morfydd Owen, i gerflun weiar o’r unigolyn cyntaf a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Owen Owen,
a chabinet hen yn llawn lluniau a storïau gan Heddychwyr Abertawe (‘achos dros heddwch’):
View article about Women War & Peace in Swansea
View photo album of Women War & Peace at Swansea Library
Download Flyer for Wales for Peace Exhibition (PDF)
Ynghyd â’r arddangosfa ‘Cymru dros Heddwch’ yn Amgueddfa Abertawe, mae WCIA yn arddangos yr arddangosfa ffotograffiaeth eiconig ‘ Menywod, Rhyfel a Heddwch ‘ hefyd gan Lee Karen Stow yn Llyfrgell Canolfan Ddinesig Abertawe.
Rhyfel, Heddwch, Protest a Barddoniaeth
Bydd Nawr yr Arwr yn cael ei berfformio dros bum noson o 25-29 Medi – ‘requiem ymdrochol’ sy’n ymchwilio i ryfel, heddwch, protest a rhyddiaith.
“Mae cynhyrchiad beiddgar Marc Rees sy’n adrodd tair stori rhyfel, yn dod yn fyw gyda gwrthbwynt o heddwch a gobaith. Mae’n cymryd ei ysbrydoliaeth o gerdd epig, portread agos o filwr sy’n gwasanaethu Abertawe a Phaneli Ymerodraeth Prydain.
Mae Requiem yng nghanol pob perfformiad, gyda libreto gan yr ysgrifennwr Owen Sheers, sydd wedi ennill Bafta. Mae’n cael ei ganu gan Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton. Mae’r gerddoriaeth yn cael ei chyfansoddi gan Owen Morgan Roberts, a honno’n deillio o waith gwreiddiol, Jóhann Jóhannsson, a enwebwyd am Oscar.
Mae’r digwyddiad yn rhan bwysig iawn o flwyddyn olaf rhaglen 14-18 NOW, sef comisiwn celfyddydol y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma uchafbwynt hefyd Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2018.”
BUY TICKETS