Mae ymddiriedolwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) wedi penderfynu bod newid statws yr elusen o ymddiriedolaeth elusennol i sefydliad corfforedig elusennol (CIO) yn hyrwyddo lles yr elusen. O ganlyniad, ym mis Mai 2014, cafodd asedau, busnes a materion yr elusen WCIA wreiddiol (rhif elusen gofrestredig 259701), eu trosglwyddo i CIO a grëwyd o’r newydd gyda’r un enw a logo (rhif elusen gofrestredig 1156822).
Mae CIO yn ffurf gyfreithiol newydd ar gyfer elusennau. Er ei fod yn sefydliad corfforedig, nid yw’n gwmni ac mae’n rhaid iddo gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau ac nid Tŷ’r Cwmnïau. Mae gan y Comisiwn Elusennaufwy o wybodaeth.
Yn ôl Martin Pollard, ein Prif Weithredwr, prif fanteision y CIO o gymharu â’r ymddiriedolaeth elusennol draddodiadol yw:
“Mae’r WCIA bellach yn meddu ar ei bersonoliaeth gyfreithiol ei hun, sy’n golygu y gall gynnal busnes yn ei enw ei hun yn hytrach nag yn enw’r ymddiriedolwyr.
Hefyd, fel rheol mae ymddiriedolwyr CIO yn cael eu diogelu’n bersonol rhag rhwymedigaethau ariannol yr elusen. Nid yw hyn yn wir fel rheol ar gyfer elusennau anghorfforedig.
Ni chaiff ein newid mewn statws unrhyw effaith allanol ar waith y WCIA. Ni fydd dod yn CIO yn effeithio ar ein nodau, ein cynlluniau gweithgareddau, ein strwythurau aelodaeth, ein trefniadau cyfrifyddu na’n gallu i godi arian; nid yw ychwaith yn effeithio ar ein gallu i weithredu dan yr enwau ar wahân, sef WCIA ac UNA Cymru.
Mae hwn yn amser cyffrous i’r WCIA gyda’n cais am arian Treftadaeth y Loteri i gefnogi ein prosiect Cymru dros Heddwch.
Mae’r WCIA yn dra diolchgar i Martyn Robinson o swyddfa Caerdydd Geldards LLP am ei holl waith caled a’i gymorth wrth gyflawni trosglwyddiad ein gweithrediadau’n llyfn, ac am ei haelioni yntau, a’i gwmni, yn darparu gwasanaethau cyfreithiol pro bono.”
Dywedodd Giselle Davies (Pennaeth y Gyfraith Elusennau a Mentrau Cymdeithasol yn Geldards LLP) “I am delighted that my team was able to support the work of WCIA by dealing with their transition to a corporate body in order to provide a safe platform for the future development of the organisation and the excellent work they undertake for the people of Wales”.
Mae gan Geldards adran Elusennau a Mentrau Cymdeithasol sy’n gweithredu ar ran pob math ar sefydliadau elusennol.