MERCHED O WYNEDD YN LANSIO YMGYRCH HEDDWCH AR DDYDD RHYNGWLADOL Y MERCHED

Written on 01-03-2018 by Awel Irene

A world-wide campaign is being launched by a group of Gwynedd women to commemorate thousands of women who signed a peace petition following the First World War. The ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ (Grandma’s Peace) launch will be held to celebrate I

ae ymgyrch byd-eang ar fin cael ei lansio gan grwp o ferched o Wynedd, er mwyn coffau y miloedd o ferched a lofnododd ddeiseb heddwch wedi’r Rhyfel Mawr. Cynhelir lansiad ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ i ddathlu Dydd Rhyngwladol y Merched ar yr 8fed o Fawrth trwy arddangosfa ffotograffiaeth “Merched Rhyfel a Heddwch” a gweithdai yn Oriel Caffi Croesor, Croesor, Llanfrothen.

TAFLENNI

Rhwng 1923-4, llofnododd dros 390,000 o ferched Cymru ddeiseb i’w hanfon i ferched America i ofyn iddynt ddylanwadu ar y wlad i ddod yn rhan allweddol o Gynghrair y Cenhedloedd ac i gyfrannu at y nod o fyd heb ryfel. Yn ddiweddarach, ym 1926, gorymdeithiodd dros 2,000 o ferched o Ogledd Cymru i ddangos eu gwrthwynebiad i erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf cyn i’r pererindod heddwch hwn o bob cwr o Brydain ymgynnull yn Hyde Park, Llundain.

Cymru dros Heddwch, prosiect sy’n rhan o’r Ganolfan Gymreig ar Faterion Rhyngwladol sydd wedi tynnu sylw i’r gweithredoedd rhyfeddol hyn. Nawr mae grwp o ferched o Wynedd –  Ifanwy Williams o Borthmadog, Iona Price o Danygrisiau, Anna Jane o Gaernarfon ac Awel Irene o Lanfrothen – wedi dod ynghyd i ffurfio ymgyrch ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ fydd yn brosiect 7 mlynedd i geisio gwireddu ymhellach ymdrechion y merched a fu’n gweithio’n galed yn enw heddwch. Maent eisoes wedi creu Deiseb Heddwch o’r newydd sydd wedi derbyn dros 1,000 o lofnodion o bob rhan o Gymru. Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio yn swyddogol ddechrau mis Mawrth ym mhentref Croesor.

Meddai Iona Price, un o drefnwyr ‘Heddwch Nain/Mam-gu’: “Syfrdandod oedd fy ymateb cyntaf o ddod ar draws y ddeiseb ryfeddol yma ac anghredinedd nad oeddwn erioed wedi clywed amdani. Dyna yw ymateb y mwyafrif o bobl.  Felly daeth grwp ohonom at ein gilydd i wneud yn siwr na fydden ni fyth yn anghofio lleisiau’r merched yma a na fyddai erfyn am heddwch a byd di-ryfel byth yn dod yn angof na chael ei dawelu.”

Bydd Arddangosfa Merched, Rhyfel a Heddwch yn aros yn Caffi Croesor trwy Gwyliau’r Pasg.

Ar y noson cyn y lansiad, nos Fercher 7fed o Fawrth am 7.30 o’r gloch, bydd ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ yn cynnal cyflwyniad gan y ffotograffydd o Swydd Efrog, Lee Karen Stow a fydd yn trafod ei phrofiad yn teithio’r byd yn ffotograffu merched sydd wedi eu heffeithio gan ryfel a’u hymgais am heddwch.

Ar yr 8fed o Fawrth, bydd yr artist yn cynnal gweithdy gyda phobl ifanc yr ardal. Am 2.30 o’r gloch, bydd ymgyrch ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ yn cael ei lawnsio’n swyddogol. Bydd merched yr ardal yn ymgynnull am 6yh yn CellB, Blaenau Ffestiniog sy’n cynnal trafodaeth agored ar gyfer Dydd Rhyngwladol y Merched.Bydd croeso i bawb ymuno a’r merched yn CellB, Blaenau Ffestiniog am pan fydd trafodaethau pellach i ddathlu’r dydd yn ogystal a dangosiad o’r ffilm ‘Dolores’.

7fed Mawrth, 7.30 yh, Oriel Caffi Croesor –Cyflwyniad gan y ffotograffydd, Lee Karen Stow

8fed Mawrth, 2.30yh, Oriel Caffi Croesor – Lansiad swyddogol ‘Heddwch Nain/Mam-gu’

8fed Mawrth, 6yh, CellB, Blaenau Ffestiniog – Trafodaeth agored am Ddydd Rhyngwladol y Merched gan Shan Jamil Ashton cyn dangos y ffilm ‘Dolores’.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch a: awelirene@wcia.org.uk

Mwy ar-lein @ http://www.cymrudrosheddwch.org/menywodrhyfelheddwch

Cefnogir Cymru dros Heddwch gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i reoli gan y Ganolfan Materion Rhyngwladol, gyda 10 o sefydliadau partne

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *