Y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn lansio Apêl Daeargryn Twrci-Syria

Bydd y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) yn lansio apêl fory (dydd Iau, Chwefror 9) i godi arian ar frys i helpu pobol sydd wedi eu heffeithio gan y daeargrynfeydd dinistriol yn Nhwrci a Syria, sydd wedi lladd mwy na 11,000 o bobol ac anafu llawer mwy.

Mae miloedd o adeiladau, gan gynnwys ysbytai ac ysgolion, wedi’u dymchwel ac mae seilwaith wedi’i ddifrodi’n ddifrifol.

Mae’r gwasanaethau brys lleol yn chwilio’r rwbel am oroeswyr.

Mae nifer fawr o bobol wedi cael eu gadael heb gysgod mewn amodau gaeafol rhewllyd, ac mae disgwyl y bydd mwy o anghenion dyngarol dros y dyddiau nesaf.

Mae cyrraedd dŵr glân yn debygol o fod yn her, gan gynyddu’r risg o glefydau dŵr budr, ac roedd achos o golera yng ngogledd-orllewin Syria cyn y daeargryn.

Tarodd y daeargryn cyntaf heb rybudd yn yr oriau mân, tra bod pobol yn cysgu.

Yn Nhwrci, mae mwy na 20,000 o bobol wedi’u hanafu.

Yn ôl Llywodraeth Twrci, mae angen lloches mewn gwestai neu lochesi’r llywodraeth ar 380,000 o bobol.

Cafodd llawer o adeiladau eu chwalu yng ngogledd-orllewin Syria hefyd, lle mae llawer o bobol wedi ffoi yn dilyn y gwrthdaro yn y wlad, ac mae cyfleusterau meddygol yn gyfyngedig.

Dywed gweithwyr dyngarol fod pobol sydd wedi’u dadleoli o ganlyniad i’r gwrthryfel, sy’n byw mewn pebyll, yn croesawu teuluoedd y mae eu cartrefi wedi’u dinistrio i’w pebyll.

Blaenoriaethau

Mae elusennau DEC a’u partneriaid lleol ymhlith yr ymatebwyr cyntaf, ac yn gweithio gyda chriwiau achub lleol.

Y blaenoriaethau yw triniaeth feddygol i’r rhai sydd wedi’u hanafu, lloches i’r rhai sydd wedi colli eu cartrefi, yn ogystal â blancedi, dillad cynnes a gwresogyddion ar gyfer mannau diogel.

Maen nhw hefyd yn sicrhau bod pobol yn cael digon o fwyd a dŵr glân.

Mae’r DEC yn dod â phymtheg o elusennau cymorth blaenllaw at ei gilydd ar adegau o argyfwng dramor, ac mae pob un namyn un ohonyn nhw’n ymateb yn Nhwrci a Syria, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig, ActionAid ac Achub y Plant.

Bydd apeliadau i godi arian i gefnogi’r gwaith hwn yn cael eu darlledu ar S4C, BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky heddiw (dydd Iau, Chwefror 9) yn dilyn y newyddion gyda’r nos.

Bydd DEC Cymru yn cyhoeddi lansiad yr apêl ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd am 12 o’r gloch.

‘Torcalonnus’

Dywedodd Prif Weithredwr DEC, Mr Saeed: “Mae’r dinistr yn Nhwrci a Syria yn dorcalonnus, gyda miloedd o bobl yn colli anwyliaid yn sydyn yn y ffyrdd mwyaf ysgytwol,” meddai Saleh Saeed, Prif Weithredwr DEC.

“Mae angen arian ar frys i gefnogi teuluoedd gyda chymorth meddygol, lloches brys, bwyd a dŵr glân mewn tywydd gaeafol, rhewllyd.

“Mae 14 o’n elusennau yn ymateb yn Nhwrci a Syria a gallan nhw wneud mwy gyda’ch help chi.”

Mae Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru, wedi ategu’r apêl.

“Yn Nhwrci yn unig, mae 6,000 o adeiladau gan gynnwys ysgolion a chanolfannau iechyd wedi dymchwel, gyda seilwaith sy’n hanfodol i fywyd bob dydd fel glanweithdra a chyflenwadau dŵr wedi’u difrodi’n ddifrifol,” meddai.

“Rydym yn gwybod fod arian yn brin i lawer o bobol yma yn y Deyrnas Unedig wrth i’r argyfwng costau byw barhau, ond os gallwch chi, plis cyfrannwch i gefnogi pobol sydd wedi’u dal yn y drychineb ddychrynllyd yma.”

Y neges o Dwrci

“Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw achub bywydau trwy glirio’r rwbel,” meddai Salah Aboulgasem o Islamic Relief, sydd wedi’i leoli yn Gazientep yn Nhwrci.

“Y flaenoriaeth wedyn fydd cefnogi pobol sydd wedi colli eu cartrefi ac sydd wedi mynd trwy drawma enfawr.

“Mae angen meddyginiaethau a chynhesrwydd ar bobol.

“Mae yna lawer o sgrechian, a phobol yn ceisio dod o hyd i berthnasau.

“Mae llawer o bobol yn cysgu mewn ceir oherwydd eu bod yn ofni mynd yn ôl i mewn i’r adeiladau gyda’r ôl-gryniadau.

“Mae’r ceir yn rhewi oer.

“Mae gan Islamic Relief lawer o staff lleol a rhaglen sydd wedi’i hen sefydlu yn yr ardal.

“Maen nhw’n gweithio gyda mosgiau ac ysgolion i agor llochesi.”

Arian cyfatebol

Bydd pob punt gaiff ei rhoi i’r apêl gan y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn cael ei chyfateb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy gynllun ‘Aid Match’ hyd at £2m.

Bydd y cymorth hwn yn dyblu rhoddion y cyhoedd ac yn sicrhau bod elusennau sy’n gweithio ar lawr gwlad yn gallu cyrraedd y rhai sydd mewn angen dybryd.

Mae’r holl ddatblygiadau o ran yr apêl i’w gweld ar dudalennau Twitter a Facebook DEC Cymru.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *