COP28 Efelychu Cyd-drafod Hinsawdd

Ar drothwy’r 28ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP28) yn Dubai, cymerodd dros 80 o fyfyrwyr oed 16-18 o 10 ysgol yn Ne Cymru rhan mewn Efelychiad Newid Hinsawdd COP 28.  Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Senedd ar 23ain o Dachwedd, a chafodd ei noddi gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS.  Trefnwyd y gynhadledd gan y Cyngor Prydeinig mewn partneriaeth â WCIA. 

Yn ystod y dydd, roedd y myfyrwyr brwdfrydig yn cynrychioli gwledydd gwahanol, ac yn chwarae rhan newyddiadurwyr, actifyddion hinsawdd a lobïwyr tanwyddau fossil.  Roeddynt yn trafod i geisio cytuno ar strategaeth hinsawdd fyd-eang a fyddai’n cyfyngu cynnydd yn y tymheredd byd-eang i ddim mwy na 2 gradd Celsius.  I weld eu cynnydd tuag at y targed, roeddynt yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol ‘C-Roads’ a ddatblygwyd gan ‘Climate Interactive’ a ‘MIT’.  Roedd hyn yn dangos efelychiad o’r effaith y byddai eu cynigion yn debygol o gael ar yr hinsawdd yn go-iawn. Cefnogwyd y myfyrwyr gan Dan Boyden a Dr Caroline Wainwright, darlithydd yn newid hinsawdd ym Mhrifysgol Caerdydd.  Yn ogystal, cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, neges ysbrydoledig ar y dylanwad fedrai’r bobl ifanc cael ar ymdrin â’r argyfwng hinsawdd. 

Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus dros ben, gyda myfyrwyr ac athrawon yn cytuno faint yr oeddynt wedi dysgu a chymaint yr oeddynt wedi mwynhau cydweithio gydag ysgolion eraill.  Adroddodd y staff hwyluso pa mor uchel ei safon oedd cyfraniadau’r disgyblion a pha mor frwdfrydig oeddynt yn eu swyddogaethau.  Ffurfiwyd perthnasoedd newydd rhwng nifer o’r ysgolion a WCIA, ac wrth ddiolch iddynt am eu gwaith caled, dywedodd Amber Demetrius (Rheolwr Dysgu Byd-eang, WCIA):

“Gwnaeth lefel y paratoi yr oedd myfyrwyr wedi’i wneud cyn y digwyddiad argraff fawr arnom, a hefyd lefel y proffesiynoldeb a’r ddealltwriaeth a ddangoson nhw ar y diwrnod. Roedd y ffordd y gwnaethon nhw fynd i’r afael â’r trafodaethau cymhleth a oedd yn rhan o’r rolau a ddyrannwyd yn wych i’w gweld ac roedd eu rhyngweithio ag ysgolion eraill yr un mor ffrwythlon.” 

Fedrwch wylio adroddiad S4C o’r diwrnod gan ddilyn y ddolen isod: 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *