Creu Heddwch – Dyfodol Tecach– Y byd yn 2100

Cafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu’r sgiliau a fydd yn eu galluogi i ddychmygu’r byd maen nhw eisiau ei greu yn 2100. 

Daeth cynrychiolwyr o bob ysgol a gymerodd ran ar 18 Tachwedd i gynrychioli barn eu gwlad ar sut i adeiladu dyfodol gwell. Y nod oedd cefnogi pobl ifanc i weithredu ar wahanol faterion byd-eang. 

Datblygodd y cyfranogwyr benderfyniadau gwahanol i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol, ac archwilio ffyrdd o wneud y byd yn lle gwell. Dyma ddau bwnc a drafodwyd yn ystod y sesiwn: 

1. Bydd pob unigolyn yn llysieuwr erbyn y flwyddyn 2030. 

2. Mae’n rhaid i bob gwlad gydymffurfio â “Phrotocol Newid yn yr Hinsawdd” sydd â chyfreithiau llym am ynni, addysg ac economeg. 

Ar ôl y digwyddiad ar-lein hwn, byddwn yn cefnogi myfyrwyr i gymryd camau i greu newid er gwell yn eu cymunedau, ac yn dod yn ôl at ein gilydd ar 9 Mawrth i rannu newidiadau sydd wedi cael eu gwneud ac i archwilio syniadau hirdymor am sut y gallai’r dyfodol edrych. 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *