Cyfle cyffrous ar gyfer Ysgolion – Creu Newid

school kids

Rydym yn chwilio am ddwy ysgol a hoffai gymryd camau i greu dyfodol gwell fel rhan o’n prosiect Creu Newid.

Hoffem weithio gyda myfyrwyr i ddatblygu syniadau eu hunain ar sut mae dyfodol tecach yn edrych a chyflawni prosiect newid. Gallai’r prosiect hwn fod yn gystadleuaeth, codi ymwybyddiaeth drwy daflenni a gwasanaethau yn yr ysgol neu ymgysylltu â chymunedau lleol ar bwnc sy’n bwysig iddynt. Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn darparu adnoddau, addysgu a chymorth rheoli prosiectau ac mae angen rhai myfyrwyr ac athrawon parod a galluog arnom i weithio gyda ni!

Os oes gennych ddiddordeb, gyrrwch e-bost i amberdemetrius@wcia.org.uk

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *