
Rydym yn chwilio am hyd at 6 ysgol a hoffai dreialu’r adnoddau dwyieithog newydd a chyffrous hyn ar gyfer disgyblion 8 i 14 blwydd oed. Maent yn galluogi plant a phobl ifanc i archwilio grym gweithredu di-drais er mwyn creu newid ac yn cynnwys nifer o astudiaethau achos hanesyddol a chyfoes o’r DU, Denmarc yn yr Ail Ryfel Byd, yr India a Kenya. Mae astudiaethau achos o Gymru wedi’u hychwanegu fel y medr disgyblion archwilio enghreifftiau sydd yn rhan o’u treftadaeth eu hun.
Bydd yr ysgolion sydd yn rhan o’r prosiect peilot hwn yn cael mynediad i’r adnoddau uchod ac yn derbyn dau sesiwn hyfforddiant yn rhad ac am ddim, yn ogystal â chefnogaeth i redeg a gwerthuso gweithgareddau yn eu hysgolion.
Os hoffech chi i’ch ysgol fod yn rhan o’r prosiect peilot hwn, cysylltwch â janeharries@wcia.org.uk.