Cymru dros Heddwch yn yr Wcráin

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ochr yn ochr â phartneriaid a chymunedau ar draws Cymru, yn gresynu at yr achosion o wrthdaro yn yr Wcráin, yn dilyn ymosodiad milwrol Rwsia y bore yma. Mae Cymru a’r gymuned ryngwladol yn ymestyn ein cefnogaeth a’n hundod dyfnaf gyda phobl yr Wcráin a Rwsia ar yr adeg bryderus hon – ac yn annog ein gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol i fynd ar drywydd camau cadarn, sy’n canolbwyntio ar heddwch, i stopio unrhyw fath o ymddygiad treisgar, ac i gefnogi pobl gyffredin yr effeithir arnynt ar lawr gwlad.

Galwodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, yr hyn a ddigwyddodd y “foment dristaf” yn ei ddeiliadaeth, ac apeliodd i Putin ac i Rwsia o’r Cynulliad Cyffredinol: “Yn enw dynoliaeth, anfonwch eich milwyr yn ôl i Rwsia. Yn enw dynoliaeth, i beidio â dechrau beth allai fod y rhyfel mwyaf dinistriol ers dechrau’r ganrif.”

Digwyddiadau a Lleisiau

12.30-2.00pm, 1 Mawrth Cymru dros Heddwch yn Wcráin – digwyddiad a gynhelir mewn partneriaeth rhwng WCIA ac Academi Heddwch Cymru – Rhagor o wybodaeth neu sut i gofrestru.

Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cefnogi digwyddiad gan Gymdeithas y Cymod ar ddydd Iau 3 Mawrth am 6pm, lle bydd Ymgyrchwyr Heddwch yr Wcráin yn siarad am eu profiad ar lawr gwlad, ac yn ysgogi trafodaeth ynghylch sut y gall y Cymry gefnogi. Bydd manylion am sut i ymuno ar gael ar y dudalen hon yn fuan.

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gobeithio cyhoeddi a chefnogi digwyddiadau eraill dros y dyddiau nesaf hefyd, gan alluogi pobl a chymunedau Cymru i gymryd rhan mewn trafodaeth, a llunio camau gweithredu posibl. Bydd manylion am sut i ymuno ar gael ar y dudalen hon yn fuan.

Mae nifer o grwpiau cymunedol ledled Cymru yn trefnu digwyddiadau cydsefyll lleol:

  • Voice of Ukraine Wales – ‘Sefyll gydag Wcráin‘ yn y Mwmbwls, Abertawe, ddydd Sul 27 Chwefror
  • Cymdeithas yr Wcreiniaid ym Mhrydain Fawr a datganiad ynglŷn â’r ymosodiad
  • Cymuned Wcreiniaid Cymru – Hayley Doroshenko
  • Grŵp Facebook Cysylltiadau Wcreiniaid Cymru 

Polisi a Gweithredu

Er bod y prif gyfrifoldeb ar gyfer polisi tramor mewn perthynas ag Wcráin a Rwsia yn gorwedd gyda Llywodraeth Prydain, mae modd i Lywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd chwarae rhan hollbwysig nid yn unig wrth ddangos arweiniad tosturiol, ond hefyd wrth estyn cydsafiad a chymorth ymarferol i bobl Wcráin – yn ogystal ag i’r miliynau o Rwsiaid sydd hefyd yn ofni rhyfel, fel y dangosir trwy ddyfarnu Gwobr Heddwch Nobel i’r papur newydd Rwsiaidd, Novaya Gazeta.

Mae Cymru yn falch o gael bod yn Genedl Noddfa – cenedl sy’n cydnabod y realiti a wynebir gan bobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro, a chenedl sy’n gwrthod y modd y caiff ffoaduriaid eu camgyfleu a’r cambortreadu fel mudwyr anghyfreithlon neu economaidd. Erfyniwn ar newyddiadurwyr a llefarwyr sefydliadau i fynd ati mewn modd gonest, agored a thosturiol i ddarlunio’r rhai sy’n dioddef gwrthdaro. Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi mynd ati’n gyhoeddus i gynnig lloches i Ffoaduriaid Wcráin yng Nghymru, ac mae wedi gofyn i Lywodraeth y DU agor trywydd cyfreithiol – sydd wedi’i atal ar hyn o bryd.

Pe bai’r gwrthdaro’n dwysáu, mae hi’n hanfodol i lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wneud eu gorau glas i gynnig cymorth dyngarol a lloches i Wcreiniaid a gaiff eu gorfodi i adael eu cymunedau a’u mamwlad, ynghyd â rhoi camau amlochrog, cydgysylltiedig ar waith trwy’r Cenhedloedd Unedig.

Ymhellach, rhaid i Brydain gydnabod ei chyfrifoldebau fel canolfan gyllido hirdymor i elitiaid Rwsia sy’n gysylltiedig ag amlhau arfau a rhyfelgarwch yn erbyn Wcráin, fel y nodir gan Oliver Bullough yn ‘Moneyland’, sef mater a ymchwiliwyd ac y lluniwyd adroddiad amdano gan Bwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch Senedd y DU.

Gweithredwch – > Ysgrifennwch at eich AS

Rhyfel yr Wcráin Rwsia: Ffyrdd o Helpu

Ffyrdd o Gefnogi Wcreiniaid

Ymunwch â Chofrestr Llywodraeth Cymru er mwyn helpu ffoaduriaid sy’n ceisio Noddfa yng Nghymru

Yn dilyn yr ymosodiad, rhannodd Timothy Snyder, Athro Hanes yn Yale, flog o’r enw ‘Ways to help Ukrainians’, lle ceir dolenni ar gyfer darparu offer a all achub bywydau milwyr; cynorthwyo elusennau ysbytaidd rheng flaen, merched, ffoaduriaid mewnol a phlant mewn trawma; a darparu gofal iechyd ac addysg. Yn ôl Snyder: “Dyw Wcráin ddim yn wlad gyfoethog. Mae’r aelwyd arferol yn ennill llai na $7000 y flwyddyn. Gall ychydig o arian wedi’i dargedu at y lle iawn wneud gwahaniaeth ystyrlon. Gallwch ddangos eich cydsafiad. Gallwch roi rhywfaint o arian i ryw sefydliad. Ni fydd hyn yn rhoi stop ar y rhyfela. Ond bydd yn helpu Wcreiniaid i’w helpu eu hunain. Ac fe allai achub bywydau.”

Mae Cymdeithas yr Wcreiniaid ym Mhrydain Fawr wedi llunio Y Rhyfel rhwng Rwsia-Wcráin: Ffyrdd o Helpu, sy’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: y gwrthdaro, adnoddau addysgol, cefnogaeth i’r gwrthsafiad, cyflenwadau meddygol, gwirfoddolwyr, cyn-filwyr, plant a newyddiaduraeth.

Nid yw’r WCIA yn cymeradwyo’r dolenni hyn yn benodol, ond rydym yn rhannu awgrymiadau gydag ewyllys da a byddwn yn ychwanegu rhai eraill y tynnir ein sylw atynt – e-bostiwch walesforpeace@wcia.org.uk.

Cymru a’r Wcráin: Hanes o Undod

Mae gan Gymru hanes hir o undod â phobl yr Wcráin. Enw gwreiddiol dinas Donetsk ei hun oedd Hugheskova, a sefydlwyd ym 1870 gan y meistr haearn o Ferthyr John Hughes gyda 100 o weithwyr mudol o Gymru, a wnaeth gyda’i gilydd,  ddatblygu diwydiant meteleg Rwsia. Heddiw, mae’n gartref i 1 miliwn o bobl ac wrth wraidd y gwrthdaro, yn dilyn cydnabyddiaeth a chydfeddiannaeth Rwsia i Weriniaeth y Bobl Donetsk.

Gareth Jones’, 1933

Ym 1933, datgelodd y newyddiadurwr o Gymru Gareth Jones newyn HolodomorStalin yr Wcrain, lle bu farw 7-10 miliwn o bobl yr Wcrain yn nwylo Gwladwriaeth Rwsia, a gafodd ei gydnabod fel hil-laddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn 2006. Cafodd Gareth Jones ei ladd ym 1935 yn Tsieina, y diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 30 oed; ond mae ei stori a’i heffaith wrth roi llais i bobl yr Wcráin wedi cael ei hadrodd yn ffilm Agnieska Holland yn 2020 ‘Mr Jones’ – a gafodd ei hysbrydoli gan ymchwil Margaret Siriol Colley ei nith, a’i goffáu yn ddiweddar yn y Barri ym mis Tachwedd 2021.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn cadw Archifau Gareth Jones tra bod y Deml Heddwch yn falch o gadw ei gasgliad personol o lyfrau yn Llyfrgell y Deml – wedi’u rhoi gan rieni Gareth, Ann ac Edgar Jones Roedd Ann wedi byw yn yr Wcráin fel tiwtor i deulu John Hughes (uchod); tra bod ei dad Edgar yn ymwneud yn fawr â mudiad Heddwch Cymru drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, a hi oedd Warden cyntaf Teml Heddwch Cymru drwy gydol yr Ail Ryfel Byd.

Ym 1986, ysgogodd y drychineb niwclear yn Chernobyl yng Ngogledd yr Wcráin gefnogaeth fawr gan y cyhoedd ar draws Cymru, gydag elusennau a grwpiau undod – gan gynnwys llawer oedd yn cael eu cefnogi gan CND Cymru – gyda rhai ohonynt yn parhau drwy fentrau fel Llinell Bywyd Plant Chernobyl.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o wirfoddolwyr rhyngwladol wedi cyfnewid rhwng Cymru, yr Wcráin a Rwsia drwy UNA Exchange, sy’n parhau heddiw drwy raglen Gwirfoddoli Rhyngwladol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Twitter / Mick Antoniw, via Wales Online feature

Dros y dyddiau diwethaf, mae aelodau Senedd Cymru Mick Antoniw ac Adam Price wedi teithio i Kyiv mewn swydd breifat, i weld yn uniongyrchol y sefyllfa ar lawr gwlad mewn ‘Ymweliad Gwrthryfel‘. Dywedodd Mick Antoniw , AS Pontypridd – sydd â theulu yn yr Wcráin:

“(Wrth i lywodraethau a) chynulleidfaoedd ddechrau anfon eu holl bobl allan, roedd pobl yr Wcráin wedi teimlo eu bod yn cael eu hanghofio. Maen nhw’n gwybod yn barod sut mae’n teimlo i gael eu hanghofio pan fydd materion rhyngwladol yn codi. Maen nhw’n gallu dweud wrthym beth sy’n digwydd, sut maen nhw’n teimlo… a pha mor bwysig yw hi fod pobl yn cefnogi ac yn cydnabod y sefyllfa yma. Fel y dywedodd un person yn gynharach ‘rydym o bosibl ar drothwy’r Trydydd Rhyfel Byd – mae mor dda eich bod chi yma, fel y gallwn siarad a dweud wrthych am yr hyn sy’n digwydd yn y wlad hon’.”

Mae arsylwyr yn tynnu tebygrwydd amlwg rhwng triniaeth Rwsia o’r Wcráin yn y 1930au, a heddiw. Sut allwn ni ddysgu o’r gorffennol, i ddefnyddio gwersi ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol?

Diolch am Heddwch – Dioddefwyr y Rhyfel yn Wcráin, Ysbyty Kyiv – Wikimedia Commons (Diana Vartanova / Still Miracle Photography)

Rhagor o wybodaeth