Datganiad gwerthoedd ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol Cymreig
Hwyluswyd creu’r datganiad hwn gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Pwrpas y datganiad hwn yw cefnogi ein hymgysylltiad â digwyddiadau, ymgysylltiadau a gweithgareddau Rhyngwladol o fewn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r uchelgais i fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Cyd-destun
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys nod i Gymru fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae hwn hefyd yn llinyn allweddol sy’n rhedeg drwy Strategaeth Ryngwladol Cymru. Rhan o fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang yw ymgysylltu’n rhyngwladol â phobl, cymunedau, sefydliadau a llywodraethau ar draws y byd.
Mae ymgysylltu rhyngwladol yn gyfle i Gymru rannu a hyrwyddo ei gwerthoedd, ei dyheadau a’i straeon ar lwyfan byd-eang, i lwyfannu ein partneriaid byd-eang, i wneud cysylltiadau newydd a dysgu gan eraill, a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i Gymru. Mae’n gyfle hefyd i bobl yng Nghymru ymgysylltu â phobl a diwylliannau o bob rhan o’r byd, a chreu perthnasau parhaol o bosibl sy’n hyrwyddo heddwch ac undod. Heb ymgysylltu’n rhyngwladol, mae cydweithredu ar y myrdd o heriau rydyn ni’n eu hwynebu gyda’n gilydd yn amhosib.
Fodd bynnag, gall ymgysylltu rhyngwladol, yn enwedig lle mae teithio dan sylw, gyflwyno rhywfaint o heriau:
- Ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â theithio, yn enwedig os ystyrir bod teithio yn ddiangen
- Arferion mewn gwahanol wledydd sydd yn gallu niweidio pobl a’r blaned, gan gynnwys cam-drin hawliau dynol a gyflawnir gan lywodraethau
Mae’r datganiad gwerthoedd hwn yn ceisio rhoi rhywfaint o ganllawiau i gefnogi ymgysylltu rhyngwladol sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Mae Cymru ei hun yn dal ar daith i fod yn genedl gynaliadwy, gyfrifol a chynhwysol ar lefel fyd-eang, felly pwrpas rhannu gwerthoedd a straeon yw ysbrydoli eraill ond hefyd, dysgu oddi wrthynt.
Gwerthoedd
- Yn ein holl ymgysylltiadau rhyngwladol, byddwn yn ymgorffori ein hymrwymiadau mewn cytundebau, safonau ac egwyddorion rhyngwladol fel y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol a Chytundeb Hinsawdd Paris 2015. Bydd y rhain yn gweithredu fel meincnod ar gyfer ein hymddygiad a’n disgwyliadau ein hunain o ymddygiad pobl eraill.
- Bydd gennym bwrpas clir ac amcanion ar gyfer ein hymgysylltiadau rhyngwladol, a byddwn yn dryloyw ynghylch y rhain, ac yn cydnabod cymhlethdodau a chyfaddawdau. Bydd ymgysylltu rhyngwladol yn ymarferol, gyda phwrpas clir.
- Nod Cymru yw bod yn gynhwysol – yn wrth-hiliol, ac yn gymdeithas ffeministaidd, sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+, sy’n hyrwyddo hawliau anabledd, ac sy’n gynhwysol o grefyddau a chredoau. Byddwn yn rhannu straeon am ein gwaith ar gydraddoldeb rhywiol a chynwysoldeb, ac yn sicrhau ein bod yn llwyfannu lleisiau amrywiol o bob rhan o Gymru wledig a threfol yn ystod ymgysylltiadau rhyngwladol, boed hyn dramor neu yng Nghymru, ac yn canolbwyntio’n benodol ar rannu lleisiau sy’n aml yn cael eu tangynrychioli.
- Byddwn yn cymryd cyfleoedd i godi ein llais gyda phartneriaid o bob cwr o’r byd, ac yn canolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd â llai o gyfleoedd i leisio eu barn ar y llwyfan rhyngwladol (e.e. Pobl Frodorol, partneriaid mwyafrif byd-eang)
- Byddwn yn defnyddio cyfleoedd ymgysylltu rhyngwladol i adeiladu undod byd-eang, i wneud cysylltiadau gyda gwledydd ar draws y byd i rannu a dysgu – ac yn cynnwys artistiaid,addysg a mudiadau llawr gwlad. Mae dysgu o ddiwylliannau eraill a deall eu gwerthoedd yr un mor bwysig â siarad am ein gwerthoedd, ac rydym yn cydnabod budd y perthnasoedd hyn. Mae ymgysylltu rhyngwladol yn gyfle i ddatblygu cyfeillgarwch a phartneriaethau parhaol ond hefyd, i ddangos undod tuag at yr heriau a rennir sy’n ein hwynebu, fel anghydraddoldeb, cyfiawnder hinsawdd a thlodi.
- Byddwn yn rhannu stori a dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Mae Cymru yn dyheu am fod yn genedl groesawgar, ac mae’n unigryw o ran ei huchelgais i fod yn genedl noddfa. Ar adeg o heriau sylweddol yn y byd, fel gwrthdaro a’r argyfwng hinsawdd, mae cynnig croeso cynnes i bawb sy’n dod i Gymru ac sy’n rhyngweithio â Chymru yn allweddol i’n hunaniaeth genedlaethol, ac yn stori gadarnhaol i’w rhannu.
- Byddwn yn gwahaniaethu rhwng pobl a llywodraethau, ac yn cymryd gofal i beidio â chymhwyso stereoteipiau neu dybiaethau sy’n ymwneud â phobl.
- Rydym yn falch o fod yn ddwyieithog, a byddwn yn dathlu hyn, a byddwn yn dathlu’r ieithoedd a’r diwylliannau amrywiol ehangach yng Nghymru hefyd, ac yn sicrhau bod y rhain yn cael eu cynrychioli trwy ein cyhoeddusrwydd a’n rhyngweithiadau. Byddwn yn gwella’r Gymraeg fel iaith genedlaethol yng Nghymru, ac yn dathlu ac yn dysgu o ieithoedd frodorol eraill ar draws y byd.
- Byddwn yn lleihau ein hôl troed carbon mewn ymgysylltu rhyngwladol. Lle mae angen teithio (h.y. os na ellir cyflawni amcanion trwy ddulliau eraill), byddwn yn dryloyw ynghylch yr ôl troed a sut rydym yn rheoli ein hôl troed yn gyffredinol. Lle mae angen teithio, byddwn yn cydnabod y niwed y mae hyn yn ei achosi. Efallai y byddwn yn rhoi rhodd i elusen hinsawdd neu gyfiawnder cymdeithasol fel rhan o’r gydnabyddiaeth hon. Byddwn yn gwerthfawrogi ymgysylltu ar draws sectorau mewn gweithgareddau rhyngwladol, ac yn cydnabod gwerth y celfyddydau a’r sectorau diwylliannol, chwaraeon, economaidd, addysgol a’r trydydd sector.
- Rydym yn cydnabod ein bod yn freintiedig i ymgysylltu a theithio’n rhyngwladol. O ganlyniad, byddwn yn sicrhau y bydd yr holl staff a gwirfoddolwyr sy’n ymgysylltu’n rhyngwladol yn cynrychioli’r gwerthoedd hyn, ac y byddant yn derbyn hyfforddiant priodol cyn mynd dramor ac ôl-drafodaethau, gan sicrhau diogelwch staff, gwirfoddolwyr a’r unigolion hynny yr ydym yn ymgysylltu â nhw ar draws y byd.