Crëwyd y datganiad hwn mewn sesiwn a hwyluswyd gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru gyda sefydliadau CBDC a Chymdeithas Sifil Cymru.
Mae rhestr o’r rhai sydd wedi ymrwymo i’r datganiad ar waelod y datganiad ac rydym yn cyfeirio atynt gyda’n gilydd yma fel Tîm Cymru, term cydweithredol a chynhwysol a ddefnyddir gan bartneriaid ar gyfer rhaglenni sy’n hyrwyddo Cymru’n rhyngwladol gydag ysbryd hael. Pwrpas y datganiad yw tanategu ein hymwneud â Chwpan y Byd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn cydnabod nad oedd pob llais yn y drafodaeth i greu’r datganiad ac felly byddwn yn cynnal mwy o allgymorth o amgylch y datganiad.
Rydym hefyd yn cydnabod, oherwydd cylch gwaith unigolion, bod gan rai aelodau’r gydweithfa sydd wedi llofnodi’r datganiad fwy o gyfleoedd ac awdurdodaeth i gyflawni ar rai o’r camau gweithredu penodol y soniwyd amdanynt isod. Wedi dweud hynny, pleser gennym yw gwahodd amrywiaeth eang o bartneriaid i lofnodi er mwyn grymuso egwyddorion y gydweithfa a gyflwynir yma a defnyddio’r llwyfannau sydd ganddynt i rannu’r gwerthoedd hynny pan mae hynny’n bosibl.
Cyd-destun
Qatar yw gwlad gyntaf y Dwyrain Canol i gynnal Cwpan y Byd.
Achosodd penderfyniad FIFA i ddyfarnu Cwpan y Byd i Qatar beth dadlau ymhlith cefnogwyr a sefydliadau am 3 rheswm bras:
- Hawliau dynol yn Qatar – roedd hyn yn cyfeirio’n benodol at weithwyr mudol sy’n ymwneud â phrosiectau adeiladu a fyddai’n cynnwys seilwaith Cwpan y Byd. Mae’r ffigurau’n destun dadl ond mae adroddiadau wedi cynnwys dros 6,500 o farwolaethau gweithwyr mudol yn Qatar ers dyfarnu Cwpan y Byd. Mae adroddiad manylach gan Amnesty yn tynnu sylw at y diffyg ymchwiliadau i achosion marwolaethau gweithwyr mudol. Mae pryderon hawliau dynol hefyd i fenywod a phobl LHDTQ+ yn Qatar a phryderon cyffredinol am ddiffyg rhyddid mynegiant.
- Diogelwch/croeso i gefnogwyr, yn enwedig y rhai sy’n LHDTQ+ (mae cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon yn Qatar) a menywod
- Effeithiau amgylcheddol, yn enwedig yr angen am aerdymheru i oeri stadia o ystyried y tymheredd yn Qatar (ochr yn ochr â’r pryderon amgylcheddol ehangach sy’n gysylltiedig ag unrhyw Gwpan y Byd)
Mae rhai cefnogwyr a grwpiau cefnogwyr wedi penderfynu boicotio’r gemau gyda chefnogwyr a sefydliadau eraill sy’n bwriadu ymgyrchu trwy eu hymwneud â’r gemau.
Cymhwysodd Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Mai, y tro cyntaf ers 1958. Ers cymhwyso, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi mynegi ei safbwynt ar y materion hyn mewn datganiad. Mae hyn yn cysylltu â gwaith ehangach CBDC ar gynaliadwyedd.
Rhannu gwerthoedd a straeon Cymreig yng Nghwpan y Byd
Mae Cwpan y Byd yn gyfle i Gymru rannu a hyrwyddo ei gwerthoedd, ei dyheadau a’i straeon ar lwyfan byd-eang ac i amlygu bod pêl-droed i bawb, ym mhobman. Mae’n gyfle i gefnogwyr ymgysylltu â phobl a diwylliannau o bob cwr o’r byd, gan greu perthnasoedd parhaol o bosibl sy’n hyrwyddo heddwch ac undod.
Mae Cymru a phêl-droed Cymru ei hun yn dal i fod ar daith i fod yn gynhwysol ac yn agored i bawb, felly pwrpas rhannu gwerthoedd a straeon yw ysbrydoli eraill ond hefyd dysgu oddi wrthyn nhw.
Wrth ryngweithio yng Nghwpan y Byd, bydd Tîm Cymru yn achub ar gyfleoedd i rannu’r straeon am:
- Undod rhyngwladol – “Cryfach Gyda’n Gilydd” yw’r egwyddor sy’n uno – byddwn yn defnyddio’r gemau i wneud cysylltiadau â gwledydd ledled y byd i rannu a dysgu – gan gynnwys artistiaid, addysg a chwaraeon ar lawr gwlad. Mae dysgu o ddiwylliannau eraill a deall eu gwerthoedd yr un mor bwysig â siarad am ein gwerthoedd. Mae Cwpan y Byd yn gyfle i ddatblygu cyfeillgarwch a phartneriaethau parhaol ond hefyd i ddangos undod ar yr heriau sy’n ein hwynebu fel anghydraddoldeb, cyfiawnder hinsawdd a thlodi.
- Mae Cymru yn genedl o groeso, ac yn unigryw fel cenedl noddfa. Ar adeg o heriau sylweddol yn y byd megis gwrthdaro ac argyfwng hinsawdd, mae cynnig croeso cynnes i bawb sy’n dod i Gymru ac yn rhyngweithio â hi yn allweddol i’n hunaniaeth genedlaethol ac yn stori gadarnhaol i’w rhannu.
- Nod Cymru yw bod yn gynhwysol – cymdeithas wrth-hiliol a LHDTQ+ cyfeillgar sy’n hyrwyddo hawliau anabledd. Byddwn yn rhannu straeon am ein gwaith ar gydraddoldeb rhywiol (mewn chwaraeon a thu hwnt) a chynwysoldeb, gan wneud yn siŵr bod lleisiau amrywiol yn cael eu clywed yn ystod cwpan y byd a bod parthau cefnogwyr yn gynhwysol.
- Byddwn yn gwahaniaethu rhwng pobl a llywodraeth, gan godi materion hawliau dynol lle bynnag y gallwn gyda’r llywodraeth, ond heb gymhwyso stereoteipiau neu ragdybiaethau yn ymwneud â phobl Qatar.
- Byddwn yn ymdrechu’n frwd i ddileu rhwystrau i bobl anabl ac yn annog ymgyrchoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol i fod yn hygyrch i bobl anabl
- Rydym yn falch o fod yn ddwyieithog a byddwn yn dathlu hyn, ond byddwn hefyd yn dathlu’r diwylliannau amrywiol ehangach yng Nghymru gan sicrhau bod y rhain yn cael eu cynrychioli trwy ein cyhoeddusrwydd a’n rhyngweithiadau.
- Gyda’n nodau sero net, bydd Tîm Cymru yn gwrthbwyso ein cyfranogiad yng Nghwpan y Byd o ran carbon trwy gynlluniau achrededig, cyfeillgar i natur sy’n parchu bywoliaethau, drwy flaenoriaethu sefydliadau a leolir yng Nghymru
- Byddwn yn rhannu stori a dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Byddwn yn amlygu hawliau sylfaenol i ffoaduriaid, gweithwyr mudol a cheiswyr lloches yng Nghymru a’r DU ac o gwmpas y byd a byddwn yn cefnogi iawndal ar gyfer teuluoedd gweithwyr mudol a’u teuluoedd. Byddwn yn cofio’r gweithwyr sydd wedi colli eu bywydau ar y daith i Gwpan y Byd.
- Manteisio ar y cyfle hwn i amlygu gwerthoedd cydraddoldeb a thegwch, a defnyddio ein diwylliant i chwyddo’r lleisiau hynny sydd angen eu clywed yn ystod y twrnamaint.
- Byddwn yn rhannu syniadau am sicrhau gwell cynaliadwyedd mewn pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol, gan gynnwys sut i sicrhau bod perchnogion a chyfarwyddwyr yn parchu hawliau dynol.
- Byddwn yn gwneud ac yn cadw at ymrwymiad hirdymor i’r materion a godwyd yng Nghwpan y Byd hwn ar draws ein hymgysylltiad rhyngwladol, ac yn ymrwymo i ymgysylltu a monitro parhaus unwaith y bydd Cwpan y Byd wedi dod i ben.
- Rydym yn cydnabod bod Cwpan y Byd yn digwydd mewn argyfwng costau byw nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd – byddwn yn ymwybodol o hyn yn ein cyfathrebiadau
- Byddwn yn achub ar gyfleoedd i amlygu pwysigrwydd rhyddid mynegiant ac i osgoi anffafriaeth.
Beth ddylai Tîm Cymru ei wneud i sicrhau bod y straeon hynny’n ddilys?
- Hyrwyddo diwylliant Cymru a defnyddio’r iaith Gymraeg yn aml. Defnyddio ieithoedd eraill wrth gyfathrebu â phobl o wledydd eraill.
- Nodi ôl troed carbon cyfranogiad a’i wrthbwyso â chynlluniau achrededig sy’n diogelu natur a bywoliaethau lleol
- Parhau i gefnogi cefnogwyr yn eu hymagwedd groesawgar, gynhwysol, gan ddarparu ffeithiau ac awgrymiadau fel y bo’n briodol
- Rhannu cynlluniau monitro ac atebolrwydd – gan gynnwys sefydliadau sydd yn partneriaid a grwpiau hawliau dynol.
- Chwarae rôl wrth ddwyn FIFA i gyfrif am weithredu eu Polisi Hawliau Dynol drwy hyrwyddo gwerthoedd a rennir.
- Tynnu sylw at droseddau yn erbyn hawliau dynol mewn gwledydd sydd yn croesawu digwyddiadau chwaraeon a’r ffyrdd y gall llywodraethau sydd yn croesawu yn medru defnyddio digwyddiadau chwaraeon i dynnu sylw oddi ar y troseddau hyn.
- Rhoi ymyriadau ar waith i sicrhau bod gweithgareddau sydd yn ymwneud â Chwpan y Byd yn gynhwysol ac yn hygyrch, gydag opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy, a chanolfannau cynnes i bobl fwynhau’r gemau yn ystod argyfwng costau byw.
Beth all cefnogwyr pêl-droed dinasyddion byd-eang ei wneud?
Rydym yn cydnabod bod llawer o gefnogwyr a grwpiau cefnogwyr yn teimlo gwrthdaro ynghylch cynnal Cwpan y Byd yn Qatar. Dyma ychydig o ffyrdd y gall cefnogwyr gefnogi Cymru a gwneud gwahaniaeth.
- Mae yna nifer o ymgyrchoedd sy’n ceisio dal FIFA i gyfrif am eu hymrwymiadau i hawliau dynol yn y rhanbarth ac yn gyffredinol – mae gan FIFA Bolisi Hawliau Dynol y gellir ei ddwyn i gyfrif arno.
- Gall cefnogwyr fwynhau’r gemau mewn Parthau Cefnogwyr fel ffordd fwy cynaliadwy a fforddiadwy o ymuno â’r gemau na theithio. Gall y rhai sy’n teithio i’r gemau wrthbwyso eu cludiant gan ddefnyddio cynlluniau achrededig.
- Mae cronfa ar gael i’r gweithwyr mudol sydd wedi marw yn Qatar a’r rhanbarth ehangach y gallwch ei roi iddynt. Gallwch hefyd ymgyrchu am welliannau i hawliau gweithwyr yn y rhanbarth ac o gwmpas y byd.
- Yn eich ymddygiad eich hun, byddwch yn gynhwysol ac yn chwilfrydig – dewch i adnabod cefnogwyr o wledydd eraill. Cymryd agwedd dim goddefgarwch tuag at hiliaeth, abliaeth, homoffobia, Islamoffobia a mathau eraill o wahaniaethu.
Arwyddwyd gan
- Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
- Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
- Noel Mooney, Prif Weithredwr, FA Wales
- Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru
- Lowri O’Donovan, Wales Representative, Amnesty International UK
- Sian Lewis, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru
- Paul Glaze, Prif Weithredwr, CWVYS
- Grant Poiner, Prif Weithredwr, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
- David Anderson, Prif Weithredwr, Amgueddfa Cymru – Museum Wales
- Guy Lacey, Cadeirydd, ColegauCymru