Ganol dydd ar y 7fed o Orffennaf, bydd pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cael eu dathlu am eu cyfraniadau cadarnhaol i heddwch a dinasyddiaeth fyd-eang.
Bydd y seithfed seremoni Gwobrwyo Heddychwyr Ifanc yng Nghymru, sydd yn cael ei threfnu ar y cyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod ac ar-lein. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobrau am waith celf, ysgrifennu creadigol a ffilm a hefyd, am eu gwaith positif fel dinasyddion lleol a byd-eang. Mae’n amlwg o geisiadau eleni, bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn teimlo’n angerddol am erchyllterau rhyfel, am weithredu ar yr argyfwng hinsawdd, ac am bwysigrwydd cydraddoldeb rhyw a hil. Mae’n amlwg hefyd – er gwaethaf y pandemig, yr argyfwng hinsawdd a’r rhyfel yn Ewrop ac mewn mannau eraill yn y byd, eu bod yn fodlon torchi eu llewys a gwneud i bethau ddigwydd.
Roedd nifer o geisiadau eleni yn cynnwys rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn greadigol ar yr Argyfwng Hinsawdd. Creodd dau brosiect ifanc gan bobl ifanc yn Aberconwy a Chasnewydd argraff arbennig ar y beirniaid. Creodd a rhannodd ‘Aberconwy Allies’ gyfres o ffilmiau creadigol ar y thema troseddau casineb a gwahaniaethu. Trefnodd ‘Solidarity Stories’ yng Nghasnewydd gystadleuaeth posteri mewn ysgolion lleol ynghylch croesawu ffoaduriaid a chodi arian i greu murlun o’r ymgeisydd buddugol mewn parc cymunedol lleol.