Dathlu un o Ysgolion Heddwch cyntaf Cymru

Jane Harries – Cydlynydd Addysg Heddwch

23/3/2022

Mae Ysgol Uwchradd Cyfarthfa Ym Merthyr Tudful yn un o chwe ysgol yn Lloegr  Chymru sydd yn ymddangos mewn cyfres o ffilmiau byrion a grëwyd gan y Crynwyr ym Mhrydain i ddangos grym addysg heddwch.   

Roedd Ysgol Uwchradd Cyfarthfa yn un o’r ysgolion cyntaf i ymuno â’r Cynllun Ysgolion Heddwch a lansiwyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn 2018. Mae’r cynllun yn cefnogi ysgolion i gymryd agwedd ysgol gyfan tuag at heddwch, gan hyrwyddo cydweithredu, parch at wahaniaeth a datrys problemau yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth o dreftadaeth heddwch Cymru a chefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gweithredol, moesegol. 

Mae agwedd Cyfartha wedi’i ddylanwadu gan grŵp o ddisgyblion sydd yn gweithredu fel Llysgenhadon Heddwch .  Meddai Pennaeth Cynorthwyol, Tracey Griffith: “Roedd ymweliadau ag Amgueddfa Cyfarthfa i ddysgu am wrthwynebwyr cydwybodol a ffigyrau pwysig yn ein hanes lleol megis Keir Hardie yn allweddol. Cawsant eu hysbrydoli hefyd gan y Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol oddi wrth blant yng Nghymru at blant y byd.”

Roedd yn bwysig bod disgyblion yn deall heddwch ar bob lefel, meddai: yn bersonol, yn yr ysgol ac ar y lefel rhyngwladol fel dinasyddion byd-eang.  

“Mae myfyrwyr yn frwdfrydig am ddysgu am a deall eu treftadaeth heddwch lleol,” meddai Jane Harries sydd yn cydlynu’r Cynllun Ysgolion Heddwch. “Yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa mae materion yn ymwneud â heddwch a chyfiawnder bellach yn cael eu hystyried o fewn nifer o wahanol feysydd yn y cwricwlwm.”

Creodd Llysgenhadon Heddwch Cyfarthfa argraff fawr ar Isabel Cartwright o’r Crynwyr ym Mhrydain, a ymwelodd â’r ysgol gyda Breaking Waves Films

“Roeddynt yn glir bod ysgol heddwch yn lle i bawb deimlo’n ddiogel ac o werth, lle gall pawb helpu i greu awyrgylch parchus a chydweithredol,” meddai. “Roedd eu gwylio yn ail-greu tribiwnlys gwrthwynebwr cydwybodol yn uchafbwynt, ac yn dangos eu gallu i roi eu hunain yn esgidiau eraill. 

“Wrth i ni siarad mae miloedd o bobl yn y Wcráin a Rwsia wedi’u gorfodi i benderfynu sut i ymateb i ryfel,  ai trwy ddidreisedd neu ymladd, trwy ufuddhau i orchmynion neu anufuddhau.  Mae’n bwerus i weld pobl ifanc yn myfyrio ar sut mae’r un cwestiynau wedi wynebu pobl yng Nghymru, ac yn datblygu eu safbwynt eu hun fel dinasyddion gwybodus.” 

Mae’r ffilm yn dangos dysgwyr yn ymweld â’u cofgolofn lleol, sydd yn cofio am bobl o Ferthyr Tudful a laddwyd yn y Rhyfel Boer.  Maen nhw hefyd yn ymweld â’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd, a agorwyd yn 1938 gan Minnie James, menyw o Ferthyr a gollodd dri mab yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Adeiladwyd y Deml i goffáu’r rhai a laddwyd yn y rhyfel hwnnw – hefyd fel canolfan i waith dros heddwch ac iechyd.

“Agorodd Minnie James y Deml Heddwch hon yn y Gobaith o greu heddwch i’r dyfodol, ar gyfer y genhedlaeth iau.” meddai un o’r dysgwyr, “Rydym ni, y genhedlaeth iau, yn sefyll yma – yn gobeithio gwneud yr un peth ar gyfer ein hysgol ni.”

Mae ffilmiau’r Crynwyr yn amlygu ysgolion cynradd ac uwchradd sydd yn buddsoddi mewn adeiladu heddwch, trwy hyfforddi disgyblion i ddatrys gwrthdaro, archwilio hunaniaeth a chynhwysiad, neu dod i’r afael â materion dinasyddiaeth fyd-eang. Leolir yr ysgolion eraill yn y gyfres yn Llundain, Staffordshire, Leeds a Birmingham.

Cyhoeddir y gyfres o ffilmiau gan y Crynwyr ym Mhrydain yn y cyfnod yn arwain at adroddiad newydd ‘Peace at the Heart, a relational approach to education in British schools,’ a gaiff ei lansio ar 11 Mai 2022.

Nodiadau I’r Golygydd:

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Tracey Griffith, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ar 01685 725222 neu griffitht@cyfarthfahigh.merthyr.sch.uk

Ceir dangosiad cyntaf y ffilm ar Sianel YouTube y Crynwyr ym Mhrydain ar Ddydd Sul 27 Mawrth

Cewch fwy o wybodaeth am sut i ddod yn Ysgol Heddwch gan JaneHarries@wcia.org.uk

Arianwyd y ffilmiau gan Network for Social Change.

Rhagor o wybodaeth ar www.quaker.org.uk/our-work/peace/peace-education/peace-education-case

Dilynwch @PeaceEduQuaker ar Drydar

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *