Disasters Emergency Committee (DEC) Achos dros Apel

Dyn yn cofleidio ei ferch a’i wyres ar ôl iddynt groesi’r ffin o Shehyni yn Wcráin i Medyka yng Ngwlad Pwyl. Mae nifer fawr o bobl Wcráin yn gadael y wlad er mwyn ffoi rhag y gwrthdaro.  

Mae dros 1.5 miliwn o bobl wedi ffoi o’u cartrefi i ddianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Maent wedi gadael swyddi, eiddo ac anwyliaid, ac mae angen cysgod, bwyd a dŵr arnynt.   

  • Mae’r wyth mlynedd o wrthdaro yn Wcráin wedi gwaethygu’n sylweddol. Mae canlyniadau ymladd trwm, ymosodiadau gan sieliau a chyrchoedd awyr ar draws Wcráin wedi bod yn ddinistriol.  
  • Ar adeg ysgrifennu hyn (y 6ed o Fawrth), mae cadarnhad bod o leiaf 1,058 o sifiliaid wedi cael eu hanafu, ac o leia 351 o’r rhain wedi eu lladd, ond y pryder yw y bydd y nifer gwirioneddol lawer yn uwch ac mae y bydd yn niferoedd yn cynyddu. 
  • Mae cynllunwyr dyngarol yn rhagweld y bydd 18 miliwn o bobl yn cael eu heffeithio, gan gynnwys hyd at 6.7 miliwn o bobl y rhagwelir y byddant newydd gael eu dadleoli’n fewnol.  
  • Mae dros 1.5 o bobl wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi eisoes i ddianc rhag y trais.  

Mae cyfleusterau iechyd, cyflenwadau dŵr ac ysgolion a mathau eraill o seilwaith allweddol wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio hefyd. Mae cartrefi wedi cael eu chwythu’n deilchion. Mae miloedd  wedi cyrraedd y croesfannau ar ffin y wlad gyda Gwlad Pwyl, Rwmania, Hwngari, Slofacia a Moldofa. Mae teuluoedd wedi’u gwahanu ac maent yn teithio heb fawr ddim wrth iddynt ffoi rhag yr ymladd.  

Mae grwpiau agored i niwed wedi’u dal yn y gwrthdaro  

Mae 30% o’r bobl sydd wedi’u dal yn y gwrthdaro dros 60 oed; y ganran fwyaf o bobl hŷn sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro mewn un wlad. Mae pobl hŷn yn wynebu heriau lu yn ystod argyfyngau fel hyn. Gall dianc i ddiogelwch, cario llwythi trwm, a disgwyl mewn ciwiau hir fod bron yn amhosibl i rai. Y rheswm am hyn yw y gallant fod yn wannach, yn llai abl i symud, yn byw ar eu pen eu hunain neu’n dioddef o gyflwr y mae pobl o’u hoedran yn fwy agored iddo, megis clefyd coronaidd y galon neu ddementia.  

Mae’r gwrthdaro presennol yn cael effaith sylweddol ar fywydau plant hefyd, llawer ohonynt wedi gorfod ffoi rhag ymladd ac wedi gweld perthnasau’n cael eu galw i wasanaeth milwrol. Bydd rhai wedi gweld gweithredoedd trawmatig o drais neu wedi cael eu dal mewn ymosodiadau gan sieliau neu gyrchoedd awyr. Mae ysgolion wedi cael eu meddiannu neu eu difrodi yn y gwrthdaro ac nid oes gan tua 350,000 o blant oed ysgol fynediad i addysg ar hyn o bryd. Bydd diffyg mynediad i fwyd maethlon, dŵr glân a lloches ddiogel a chynnes yn effeithio ar blant hefyd. Mae elusennau DEC yn pryderu hefyd y gallai plant gael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd neu eu gwneud yn amddifad.  

Mae effeithiau andwyol yr argyfwng yn cael eu dwysáu gan effeithiau economaidd-gymdeithasol ac iechyd pandemig Covid-19, sydd wedi rhoi straen sylweddol ar y teuluoedd a’r plant mwyaf agored i niwed. Mae gwasanaethau gofal iechyd hanfodol dan fygythiad yn awr. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud bod cyflenwadau ocsigen yn beryglus o isel, gyda lorïau’n methu â chludo ocsigen o weithfeydd i ysbytai ledled y wlad, gan gynnwys y brifddinas Kyiv. Gallai’r rhan fwyaf o ysbytai ddefnyddio eu holl gronfeydd ocsigen o fewn y 24 awr nesaf. Mae rhai wedi dod i ben yn barod, gan roi miloedd o fywydau mewn perygl.  

Ond mae’r ymdrech gymorth ar waith  

 Mae pedair elusen sy’n aelodau o DEC gan gynnwys Age International, y Groes Goch Brydeinig, CAFOD ac Achub y Plant yn ymateb yn uniongyrchol neu drwy bartneriaid lleol yn Wcráin; tra bod eraill gan gynnwys CARE International, Cymorth Cristnogol a’r International Rescue Committee yn gweithio mewn gwledydd cyfagos i helpu ffoaduriaid sy’n ffoi dros y ffiniau. Mae 13 o aelodau DEC yn ymateb i’r trychineb neu’n bwriadu gwneud hynny.  

Prif ffocws uniongyrchol yr ymdrech gymorth yw cynorthwyo pobl sydd wedi’u dadleoli’n fewnol a ffoaduriaid sy’n dianc rhag y gwrthdaro. Bydd elusennau DEC yn cynorthwyo teuluoedd gyda grantiau arian parod, pecynnau bwyd, dillad cynnes a lloches.   

Bydd elusennau DEC yn canolbwyntio ar sicrhau mynediad i Ddŵr, Glanweithdra a Hylendid hefyd. Byddant yn trwsio seilwaith dŵr hanfodol; ac yn trefnu pwyntiau dŵr i ddarparu ffynonellau dŵr glân sydd ar gael yn rhwydd i bobl sydd wedi’u dadleoli o’u cartrefi. Bydd elusennau DEC yn cynorthwyo ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd sylfaenol eraill drwy ddarparu dŵr, meddyginiaethau ac offer meddygol.   

Mae hwn yn argyfwng sy’n newid yn gyflym. Bydd digwyddiadau yn Wcráin a symudiad ffoaduriaid i wledydd cyfagos yn sgil hynny’n llywio’r asesiadau anghenion parhaus ac ymateb yr elusennau sy’n aelodau o DEC.  

Sut mae elusennau sy’n aelodau o DEC yn ymateb i’r argyfwng: 

Oherwydd ehangder aelodaeth DEC, gallwn gefnogi amrywiaeth o grwpiau sy’n agored i niwed yn effeithiol. Mae Age International yn ymateb yn Wcráin drwy bartneriaid lleol ac yn canolbwyntio eu gwaith ar gefnogi pobl hŷn (dros 60 oed); Mae Achub y Plant yn gweithio yn Wcráin ac mewn gwledydd cyfagos i helpu i roi cymorth ar unwaith i blant a theuluoedd, megis bwyd, dŵr, pecynnau hylendid, cymorth seicogymdeithasol a chymorth arian parod.  

Bydd llawer o’r cymorth dyngarol yn cael ei ddarparu drwy bartneriaid lleol. Mae CARE International wedi ffurfio partneriaeth â phartner lleol ‘People in Need’ i ddosbarthu cyflenwadau brys mawr eu hangen megis bwyd, dŵr, pecynnau hylendid ac arian parod i dalu am anghenion dyddiol. Mae World Vision yn gallu gweithio drwy bartneriaid yn Wcráin a gwledydd cyfagos i helpu i ddarparu pecynnau hylendid, amddiffyniad a chymorth seicogymdeithasol i blant a theuluoedd sy’n chwilio am hafan ddiogel gan gynnwys mannau sy’n ystyriol o blant.   

Mae gan elusennau eraill sy’n aelodau o DEC eu rhwydweithiau sefydledig eu hunain yn y rhanbarth eisoes. Mae’r Groes Goch Brydeinig yn gweithio gyda chydweithwyr yn Wcráin sydd wedi bod yn darparu cymorth cyntaf, dosbarthu parseli bwyd a hylendid, helpu pobl i ffoi, adfer pwyntiau dŵr a gwasanaethau hanfodol eraill. Mae’r Groes Goch yn helpu pobl sy’n ffoi rhag y gwrthdaro mewn gwledydd cyfagos hefyd.  

Cyfrannwch i helpu’r ymateb  

Lansiwyd Cynllun Ymateb Dyngarol Apêl Fflach y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Wcráin ar 1 Mawrth 2022. Mae Partneriaid y Cenhedloedd Unedig a Phartneriaid Dyngarol wedi gofyn am $1.1 biliwn ar gyfer gwaith y tu mewn i Wcráin a $550.6 miliwn ar gyfer yr ymateb rhanbarthol i ffoaduriaid. Cyfanswm cais apêl Argyfwng Wcráin yw $1.7 biliwn ar gyfer Wcráin a gwledydd cyfagos.  

Os gallwch chi gefnogi’r apêl frys hon, cyfrannwch drwy un o’r ffyrdd canlynol:  

  • Drwy ffonio 0370 60 60 90 i roi dros y ffon1 
  • Tecstiwch helpu i 70150 i roi dros y ffon 
  • Drwy Drosglwyddiad Banc: BARCLAYS BANK  

Enw’r Cyfrif: UKRAINE APPEAL    

Cod Didoli: 20-00-00  

Rhif y Cyfrif: 03042294  

Os yw’n well gennych bostio, anfonwch i: 17-21 Wenlock Road, London N1 7GT  

Gallai unrhyw roddion a dderbynnir ar ôl 31 Awst 2022 fynd i’n cronfa argyfwng.  

 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr argyfwng, yr apêl, neu sut mae’r DEC a’n haelod-elusennau’n ymateb, cysylltwch â Siân Stephen sstephen@dec.org.uk / 07483 247323 
07846 119 351  

Diolch am eich ystyriaeth.