Bu disgyblion ysgolion Cymraeg yn trafod a trio datrys y broblem o newid hinsawdd, yn ystod sesiynau MockCOP wythnos ddiwethaf.
Roedd disgyblion 14-18 oed o ysgolion de a gorllewin Cymru, yn cynrychioli gwledydd o bob cwr o’r byd yn Mock COP (Cynhadledd y Pleidiau) a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Mae Mock COP yn brosiect Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), sydd yn cael ei ariannu gan ScottishPower Foundation. Mae’r digwyddiadau yn gyfle i ddisgyblion fwynhau’r profiad o fynychu Cynhadledd Model y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, a chael cyfle i fod yn Hyrwyddwyr Hinsawdd.
Dywedodd Sarah Wynne, 17, disgybl o Ysgol Porthcawl: “Roeddwn i yn cynrychioli’r Unol Daleithiau, a doeddwn i ddim yn sicr beth i ddisgwyl o’r diwrnod. Ond rydw i’n mwynhau trafod gydag eraill, ac rydw i wedi mwynhau gwrando ar beth mae cynrychiolwyr eraill wedi rhannu heddiw.”
Bu Rita Singh, Arweinydd Cynaliadwyedd Rhanbarthol Kingspan Insulation, yn cadeirio’r digwyddiad MockCOP yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe.
Dywedodd: – “Mae’r gwaith paratoi y mae’r myfyrwyr wedi’i wneud wedi creu argraff fawr arnaf, ac maen nhw wedi gwneud eu gorau glas i gynrychioli’r gwledydd gwahanol a’u barnau, boed yn eu credu neu beidio.
“Chwaraeodd disgyblion rolau angerddol – roedd yn amlwg eu bod nhw’n sympathetig, a’u bod nhw’n cefnogi’r achos. Fe wnaethant gydnabod pwysigrwydd rolau eraill hefyd, a gorau oll, yr angen i ddod at ei gilydd i ddatrys her fyd-eang fel newid yn yr hinsawdd.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad MockCOP rhanbarthol yn cael y cyfle i wneud cais i gymryd rhan mewn digwyddiad terfynol dros yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2019. Bydd hyn yn cynnwys digwyddiad MockCOP yn y Senedd, a’r cyfle i dreulio noson yn cael eich ysbrydoli, ac i aros dros nos am ddim.
Dargafyddwch mwy am MockCOP yma