Diwrnod Gweithredu Cynnes y Gaeaf hwn
Ar 3 Rhagfyr 2022, cynhaliwyd y diwrnod Gweithredu, Cynnes y Gaeaf hwn yn y Senedd. I symboleiddio cynhesrwydd, roedd y cyfranogwyr wedi gwisgo mewn melyn. Cafwyd camau tebyg mewn llawer o ddinasoedd ym Mhrydain ar y diwrnod.
Mae pobl yn profi argyfwng costau byw, argyfwng hinsawdd ac argyfwng ynni ac mae’r argyfyngau hyn yn gysylltiedig.
Mae’r ymgyrch Gynnes y Gaeaf hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau cyfun hyn.
Ar y Diwrnod Gweithredu, bu’r cyfranogwyr yn trafod cefnogaeth frys i aelwydydd sy’n agored i niwed, rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy cost isel a rhyddhau pobl o danwydd ffosil drud.
Dywedodd Cydlynydd Ymgyrchu Climate Cymru, Bethan Sayed: “Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn stryglo yn ystod yr amseroedd hyn ac mae’n well gennym beidio â gorfod bod yma i ddweud bod angen mwy o gefnogaeth arnom ar gyfer rhywbeth mor sylfaenol â hawliau dynol fel cael cartrefi cynnes yn ystod y tymor hwn, ond dyna beth sydd yn rhaid i ni wneud.”
Cafodd deiseb ei lansio ar y diwrnod gweithredu i ofyn i Lywodraeth Cymru weithredu nawr a chadw pobl yn Gynnes y Gaeaf Hwn.