Fe wnaeth Teml Heddwch Cymru oleuo mewn Undod ar gyfer yr Wcráin ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth 2022
Dydy gweithgareddau Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, yn ddealladwy, ddim wedi cael cymaint o sylw oherwydd y rhyfel sy’n datblygu’n gyflym yn yr Wcráin a’i ganlyniadau dyngarol ofnadwy, wrth i fenywod a phlant ffoi rhag yr ymladd mewn niferoedd na welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.
Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, #IWD2022 yw #BreaktheBias; ac er mai’r bwriad oedd wynebu llu o anghydraddoldebau ar draws y byd, yn anffodus nid yw hyn yn fwy amlwg nag yn wyneb rhyfel. Fel yn y rhan fwyaf o argyfyngau dyngarol, mae menywod a merched yn cael eu heffeithio’n anghymesur ar draws y byd: fel dioddefwyr rhyfel; fel ffoaduriaid sy’n ceisio noddfa; lleisiau wedi’u heithrio o brosesau gwneud penderfyniadau gwleidyddol a milwrol – bron yn gyfan gwbl gan ddynion – ac fel lleisiau sy’n hanfodol i frocera unrhyw ddarpar lwybrau heddwch.
Menywod #BreakingtheBias, o’r gorffennol…
100 mlynedd yn ôl eleni, menyw o Gymru oedd y cyntaf i #BreaktheBias yn erbyn menywod mewn diplomyddiaeth ryngwladol. Ym 1922, daeth Winifred Coombe Tennant o Gastell-nedd yn gynrychiolydd benywaidd cyntaf erioed Prydain i Gynghrair y Cenhedloedd yng Ngenefa. Roedd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth ag Academi Heddwch yn bwriadu marcio #IWD2022 yn wreiddiol drwy ddathlu menywod o Gymru mewn diplomyddiaeth; Arloesodd Coombe Tennant yr hyn a ystyriwyd yn ddull newydd radical o adeiladu heddwch a chysylltiadau rhyngwladol yn sgil yr Ail Ryfel Byd, wrth iddi fynd i ‘senedd dynion‘ Genefa i ddadlau, nid yn unig i lais menywod gael ei glywed fel ‘hanner y byd’ – ond yn benodol, dros safbwynt mamau. Mae ei ‘haraith menyw’ yng Ngenefa yn parhau i fod yr un mor berthnasol i geisio heddwch a chysoni heddiw:
“This [League of Nations] will not reach its full authority and its full power, until it has become in some real sense a League of Mothers – for it is from the Mothers of the World that it will receive a dynamic power, a driving force, which is essential to it if it is to accomplish successfully a task which has hitherto baffled all ages and all races – the task of establishing an enduring peace.”
…i’r presennol
100 mlynedd yn ddiweddarach, wrth i ni brosesu’r cynnydd cyflym a’r cwymp yn sgil ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn galw ar bawb yng Nghymru i #BreaktheBias a gwneud ymdrech i glywed lleisiau menywod a mamau o bob ochr i’r gwrthdaro: cryfhau leisiau, a rhannu pontydd.
Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn trefnu ein Panel Menywod nesaf ar y rhyfel yn yr Wcráin ar 23 Mawrth 2022, ac rydym yn croesawu’r cyfranogiad ehangaf posibl – Cofrestrwch yma.
Gallwch archwilio ystod o safbwyntiau menywod ar y rhyfel yn yr Wcráin:
• Women Peace & Security– Menywod y Cenhedloedd Unedig
• Statement on Russian attacks on Ukraine – Cronfa Fyd-eang y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Menywod
• Ukraine conflict compounds Women’s vulnerabilities – Cronfa Poblogaeth y Cenhedloedd Unedig
• Protecting women and girls in Ukraine – Cyngor Ewrop
• Russian Feminists against the war in Ukraine (o Chwefror 24)
• IWD 2020 Statement from Russia’s Feminist Anti-War movement (Mawrth 8).
• Global Network of Women Peacekeepers
A beth am ymuno â menywod ar draws y byd i wneud eich ymrwymiad eich hun i #BreaktheBias – a chynnwys lle gallwch chi, teulu, ffrindiau, gweithleoedd, cymunedau, eich cyfryngau lleol a chynrychiolwyr gwleidyddol: