Fe ddylem groesawu ffoaduriaid
Neithiwr, er gwaethaf gwrthwynebiad o bob rhan o’r gymdeithas sifil a Thŷ’r Arglwyddi, pasiwyd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau drwy’r Senedd.
Mae’r bil yn troseddoli’r rheini sydd wedi teithio i’r DU drwy lwybrau peryglus, ond nid yw’n cynnig unrhyw lwybrau diogel i ffoaduriaid o sawl rhan o’r byd.
Fel Llofnodwyr i’r Adduned Fight the Anti-Refugee Pledge, mae pawb yn WCIA yn hynod siomedig â’r canlyniad hwn. Mae angen llwybrau diogel ar bobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth i’r DU, a phroses gyflym, syml a charedig pan fyddant yn cyrraedd. Mae cymaint o bobl a chymunedau ar draws Cymru a’r DU sy’n barod i groesawu ffoaduriaid, ac sydd eisiau i ni gynnig lloches, yn hytrach na dangos gelyniaeth.
Yn ôl ymchwil gan y Groes Goch Brydeinig, mae 62% o’r cyhoedd yn cytuno y dylai’r DU groesawu ffoaduriaid. Yng Nghymru, mae llawer yn cefnogi’r uchelgais i fod yn Genedl Noddfa. Ond bydd hyn yn mynd yn anos fyth yng ngoleuni’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf hon. Dylai’r DU weithio gyda phartneriaid ar draws y byd i gefnogi a gofalu am ffoaduriaid, nid eu cosbi.
Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Mewn cam a gafodd ei wrthwynebu gan yr UNHCR, mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu anfon rhai pobl sy’n ceisio lloches i Rwanda i gael eu ‘prosesu y tu allan i’r wlad’, er iddi fynegi ei phryderon yn flaenorol am yr hanes hawliau dynol yno.
Beth mae pobl yn gallu gwneud i helpu?
Yn WCIA, rydym yn cefnogi dinasyddiaeth fyd-eang weithredol – mae hyn yn golygu rhannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn y byd ond hefyd, darparu ffyrdd i bobl weithredu os ydynt eisiau gwneud gwahaniaeth. Er bod y bil wedi cael ei basio, mae’r ymgyrch yn erbyn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau wedi galfaneiddio pobl, sefydliadau ac ASau ar draws y DU, ac mae’n dal yn bosibl gwneud gwahaniaeth.
Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
1. Ysgrifennwch at eich AS i fynegi eich pryderon
2. Codwch ymwybyddiaeth ynghylch y mater – mae Together with Refugees yn cynhyrchu diweddariadau a gwybodaeth reolaidd y gallwch eu rhannu
3. Cefnogwch neu codwch arian i elusennau sy’n cefnogi ffoaduriaid yma yng Nghymru ac ar draws y byd
4. Os oes gennych ystafell sbâr, cynigiwch gynnal ffoaduriaid
5. Cynigiwch groeso cynnes i bobl sy’n ceisio lloches yn eich cymuned
Sefydliadau ffoaduriaid a dolenni defnyddiol eraill
- Together with Refugees
- Dinas Noddfa
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru
- Displaced People in Action
- Oasis Cardiff
- Refugee Action
Lloches i Ffoaduriaid
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cynigiodd cymunedau Cymru loches i fwy na 4,000 o ffoaduriaid o Wlad Belg oedd yn dianc rhag yr achosion o wrthdaro yng Nghaeau Fflandrys.
Yn y 1930au, croesawyd plant o Wlad y Basg oedd yn ffoi rhag rhyfel sifil Sbaen o Sir Gaerfyrddin i Sir Ddinbych, i Gasnewydd ac Abertawe; a daeth ‘kindertransport’ Iddewig oedd yn ffoi rhag ymddyrchafiad Hitler cyn yr Ail Ryfel Byd, o hyd i loches ym Mhowys a Chonwy.
Byddai llawer yn dychwelyd i’w cartrefi, neu’n dechrau bywydau o’r newydd, ar ôl i’r gwrthdaro erchyll hyn ddod i ben. Fe wnaeth llawer gyfraniadau enfawr i gymdeithas a chymunedau Cymru – a dewisodd rhai aros, ac maen nhw wedi dod yn rhan o wead cymdeithas Cymru.
Mae tonnau olynol o ddioddefwyr gwrthdaro – hyd at argyfwng Syria heddiw – nid yn unig wedi cael cynnig lloches, ond wedi cyfrannu at gymdeithas Cymru ac wedi’i siapio. Beth allwn ni ei ddysgu o’r agwedd hon ar dreftadaeth heddwch Cymru? Ydy Cymru heddiw yn le heddwch – ac a allai Cymru ddod yn ‘Genedl Noddfa’ gyntaf y byd?
Barn plentyn 15 oed ar Argyfwng Ffoaduriaid Syria: “Tears of the Mediterranean” sydd yn cael ei arddangos yn arddangosfa ‘Cymru dros Heddwch’ Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn Oriel Pendeitch, Caernarfon (Hydref 2016), ac yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi (Haf 2018).