‘Gallwn i gyd helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ond mae’n rhaid i’r llywodraeth weithredu’ – Newidwyr a’r byd y maent am ei weld

Siaradodd myfyrwyr o bob cwr o Gymru am sut y gall Cymru a’r byd wella o’r pandemig mewn Senedd Enghreifftiol ar-lein.

Yn y prosiect trawsgwricwlaidd hwn, byddwch chi a’ch dysgwyr yn archwilio effeithiau COVID ar fyfyrwyr ac ar bobl o bob cwr o’r byd.

Mae’r prosiect hwn yn ffordd wych o ymgysylltu myfyrwyr â diben dinasyddiaeth foesegol y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru. Mae’n gyfle gwych i Gynghorau Ysgol gydweithio i greu newidiadau, neu byddent yn gweithio fel cyfle i gefnogi dealltwriaeth o’r pandemig yr ydym ni a’n myfyrwyr yn byw drwyddo.

Roedd y myfyrwyr a gymerodd ran yn y digwyddiad hwn yn dod o Ysgol Gyfun Plasmawr yng Nghaerdydd, Ysgol Westbourne ym Mhenarth, Ysgol Bryngwyn yn Llanelli ac Ysgol Gyfun Y Pant ym Mhontyclun.

Ysgol Plasmawr oedd y cyntaf i siarad

Amlinellodd cynrychiolwyr o Ysgol Plasmawr eu datganiad safbwynt drwy alw am bolisi a fydd yn amddiffyn pobl sy’n mynd yn sâl wrth i’r pandemig barhau, gan gynnwys tâl ynysu ac amddiffyn rhent. Fe wnaethon nhw hefyd godi’r pryderon parhaus yn ymwneud â myfyrwyr mewn addysg.  

Dywedodd y tîm: “Mae’r sector addysg wedi cael ei effeithio, gan fod ysgolion wedi bod ar gau am rannau helaeth o’r cyfnod. Nid oedd rhai o’r dysgwyr yn gallu derbyn unrhyw addysg a fydd yn effeithio’n ddifrifol ar eu dyfodol. Credwn fod pob plentyn yn haeddu’r cyfle i gael addysg lawn.”

Yna, yn eu tro, trafododd y myfyrwyr oblygiadau Covid-19 ar amrywiaeth o faterion o dlodi i hiliaeth.

Galwodd myfyrwyr Ysgol Bryngwyn am eglurder ynghylch y cyfyngiadau cyfredol yn y DU. Soniodd y cynrychiolwyr am sut mae busnesau teuluol wedi cael eu heffeithio, eu bod yn teimlo bod newid hinsawdd wedi cael ei roi o’r neilltu yn ogystal ag awgrymu y dylai mwy o bobl fod yn ymwybodol o bwysigrwydd materion digartrefedd.

Dywedon nhw: “Rwy’n credu bod angen neilltuo mwy o arian i ymdrin â digartrefedd, fel bod pobl yn fwy ymwybodol ohono, a buddsoddi mewn cyfleusterau fel ceginau cawl, a lleoedd eraill lle gallant aros, er mwyn iddynt deimlo’n ddiogel. Mae angen i’r llywodraeth roi mwy o arian i elusennau iechyd meddwl.”

Wrth fynd i’r afael â materion cyd-gysylltiedig, bu myfyrwyr yn trafod effaith y pandemig Covid-19 ar eu datblygiad addysgol, a sut mae’r datblygiad hwn yn cael ei effeithio o safbwynt trefniadau e-ddysgu a/neu’r modd y mae’n cael ei weithredu.

Dywedodd cynrychiolydd o Ysgol Westbourne: “Mae addysg yn flaenoriaeth ac mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar iechyd meddwl ac adnoddau digidol. Mae trefn yn broblem i ni gan fod terfynau amser yr holl waith cartref ar yr un diwrnod ac weithiau nid oes digon o amser.”

Wrth feddwl am sut maen nhw’n ymdopi â gorgyffwrdd posibl rhwng oriau ysgol ac amser hamdden, roedden nhw i gyd yn cytuno bod angen creu lleoedd diogel ar wahân er mwyn cymdeithasu’n ddigidol.

Wrth i’r digwyddiad ddod i ben, derbyniodd y myfyrwyr gyngor amhrisiadwy gan Raphael Esu, ymddiriedolwr a bargyfreithiwr WCIA, ar sut y gallwn ni i gyd helpu i wneud gwahaniaeth.

Dywedodd: “Peidiwch byth â meddwl eich bod chi’n rhy ifanc i wneud gwahaniaeth. Sicrhewch eich bod yn helpu’r gymuned am y rhesymau cywir. Mae cydweithredu gydag eraill yn bwysig iawn.”

Ychwanegodd y myfyrwyr a oedd yn cynrychioli Ysgol Gyfun Y Pant bwyntiau diddorol ar yr angen i fod yn empathig ac yn barchus i’r gymuned gyfan, a’r buddion o alldaflu’r gwerthoedd hynny ymhellach, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Dywedodd y Rheolwr Dysgu Byd-eang, Amber Demetrius: “Diolch i’r holl fyfyrwyr am eich cyfraniad gwerthfawr ac am y gwaith caled a wnaethoch chi i gyd wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad. Edrychaf ymlaen at weld eich prosiectau a dathlu llwyddiannau pan fyddwn i gyd yn cwrdd eto ym mis Mehefin.”

Mae’r prosiect yma yn rhan o Raglen Addysg Ryngwladol y Cyngor Prydeinig a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Gan Santi Carrasco – wirfoddolwr hir dymor , a Bethan Hâf Marsh – Swyddog Cyfathrebu.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *