Global Natters: 2021/2022

Cynhaliwyd rhifyn olaf Globar Natters 2021/2022 ar ddydd Iau 21 o Orffennaf yn y Secret Garden Cafe ym Mharc Bute (Caerdydd).

Y tro hwn, roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar ein cymdeithas. Dechreuodd y sesiwn drwy wneud sylwadau ar erthygl oedd yn canolbwyntio ar sut mae’r platfform cyfryngau cymdeithasol, Tik Tock, wedi cyfrannu at gamwybodaeth yn ystod etholiadau Kenya. Yn ddiweddarach, symudodd y sgwrs i ddadlau am sgil-effeithiau mwy cyffredinol y cyfryngau cymdeithasol trwy ddadansoddi mewnbwn cyfweliad David Bowie.

Er mai’r cytundeb cyffredinol yn y grŵp oedd bod y cyfryngau cymdeithasol yn ffynhonnell newyddion ffug neu/ac yn arf i lywodraethau reoli eu poblogaeth, nododd rhai cyfranogwyr hefyd, y gallai’r rhain fod wedi cael budd penodol i bobl yn y gorffennol. Yn y gwledydd hynny lle’r oedd gan wladwriaethau reolaeth gadarn dros gyfryngau prif ffrwd, gall y rhyngrwyd ddarparu mannau rhydd a mwy diogel i bobl esbonio eu straeon a dianc o bropaganda. Er enghraifft, rhoddwyd sylwadau ar rôl y cyfryngau cymdeithasol wrth drefnu protestiadau yn ystod y Gwanwyn Arabaidd. Er gwaethaf, fel y nodwyd gan un o’r cyfranogwyr, y dyddiau hyn, ni ellid efelychu’r rhain mor hawdd â hynny. Mae llywodraethau wedi bod yn dyst ac wedi sylweddoli grym y we a’r llwyfannau cymdeithasol. O ganlyniad, maen nhw bellach wedi datblygu eu sgiliau newydd a chynyddu eu gallu i ddylanwadu ar y byd ar-lein a’i reoli.

Daeth y noson i ben gyda ffarwel gan drefnydd Global Natters, Chris Marinov, a fydd yn gadael tîm gwirfoddolwyr WCIA fis Medi nesaf, ac yn trosglwyddo’r gwaith o drefnu’r digwyddiad i wirfoddolwyr y dyfodol.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *