Global Natters – Trafod yr Economi Fyd-eang
Fel bob mis, ar ddydd Mercher 13 Ebrill, cynhaliwyd pedwerydd sesiwn Global Natters y flwyddyn, y tro hwn mewn person. Ar yr achlysur hwn, roedd y ddadl yn canolbwyntio ar yr Economi Fyd-eang, a’r effaith y mae’r pwnc hwn yn ei chael ar bob agwedd ar ein bywydau.
Dechreuodd y drafodaeth drwy gyfeirio at y podlediad canlynol: The Bunker Daily: How Britain Embraced the Super-Rich.
Mae’r podlediad yn tynnu sylw at wahanol ddadleuon a safbwyntiau sy’n ymwneud â’r cwestiwn, pam mae Prydain n helpu pobl ofnadwy o gyfoethog? A sut y daeth y Deyrnas Unedig i gynorthwyo cleptocratiaid i’r graddau a welwn heddiw.
Gan ein bod yn wynebu pwnc cymhleth iawn, buom yn trafod ystod eang o faterion: gwleidyddiaeth, strwythur pŵer, newid hinsawdd, cyfleoedd anghyfartal, addysg, a heddwch a rhyfel. O ran y mater olaf hwn, mae’r podlediad yn siarad am rôl Prydain yn ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin hefyd.
“The problem isn’t Russian money, it’s money. And if it wasn’t Russian money it would be someone else’s money.”
Oliver Bullough, awdur Butler to the World.
Un o’r casgliadau a gafwyd o’r sesiwn, yw’r camau bach y gallwn eu gwneud fel dinasyddion a phobl. Ond fe wnaethom fyfyrio hefyd ar rôl hanfodol pob gwlad wrth fynd ar drywydd atebion cyffredin a chydweithredu byd-eang.
Os hoffech ymuno â ni yn y sesiwn sydd i ddod, cadwch mewn cysylltiad i wybod beth fydd y pwnc newydd ar gyfer ein digwyddiad Global Natters nesaf.
Twitter: @WCIA_Wales
Instagram: @wcia_wales
Facebook: Welsh Centre for International Affairs