Gwobrau Heddwchwyr Ifanc 2021 – Cyfle olaf gyflwyno cais!

Os ydych yn byw yng Nghymru a rhwng 5 a 25 blwydd oed, peidiwch â cholli cyfle i fod yn rhan o’r Gwobrau cyffrous hyn! TFe gyhoeddir enillwyr y Gwobrau pwysig hyn mewn seremoni arbennig ar-lein yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ystod yr wythnos yn dechrau 6 Gorffennaf. 

Dyddiad cau newydd – mae gennych tan 25 Mehefin, 2021 i anfon eich ceisiadau atom – ysgrifennu creadigol a beirniadol, gwaith celf, perfformiadau, ffilm, cyflwyniadau ar weithredu i greu newid. Peidiwch â bod yn swil – anfonwch eich cais heddiw!  

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion am y categorïau, ffurflen cais a thelerau ac amodau, ewch i’r dudalen Gwobrau Heddychwyr Ifanc ar wefan y WCIA neu cysylltwch â: centre@wcia.org

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *