Apêl Daeargryn Myanmar DEC

dydd Iau 3ydd o Ebrill, WCIA: Fel un o aelodau gwerthfawr o rwydwaith DEC Cymru, byddwn yn lansio apêl codi arian brys ar gyfer y bobl ym Myanmar sydd wedi eu heffeithio gan y daeargrynfeydd difrifol.

Y daeargrynfeydd  

Dyma’r daeargrynfeydd cryfaf i daro’r wlad ers degawdau, gyda dirgryniadau mor bwerus nes bod difrod wedi ei wneud yng Ngwlad Thai a Tsieina, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.   Mae dros 2,800 o bobl wedi eu lladd ers y daeargryn ac mae disgwyl i’r rhif hwn godi eto. Mynediad cyfyngedig iawn sydd i newyddiadurwyr o fewn y wlad, ac mae’r gwasanaethau cyfathrebu wedi eu heffeithio yn fawr.  Roedd Myanmar eisoes yn wynebu argyfwng dyngarol difrifol gyda thraean o’r boblogaeth  angen cymorth dyngarol. Nawr mae’r sefyllfa yn drychinebus.    

Yr ymateb dyngarol   

Er yr heriau niferus, mae elusennau’r DEC yn barod. Mae arweinwyr milwrol Myanmar wedi datgan stad o argyfwng ac wedi gwneud cais prin am gymorth dyngarol rhyngwladol. 

Wedi blynyddoedd o weithio ym Myanmar, mae elusennau’r DEC eisoes ar lawr wlad yn y cymunedau sydd wedi eu heffeithio, ac mae ganddynt berthnasau cryf eisoes gyda phartneriaid lleol o fewn y cymunedau hyn. Maent nawr angen rhagor o arian ar frys er mwyn cynyddu eu gwaith a chyrraedd y rhai mwyaf bregus.  

Sut y gallwch gefnogi’r apêl  

  • Cyfrannu at yr apêl: plîs ystyriwch gyfrannu ar yr apêl. Mae angen cymorth ar frys: https://www.dec.org.uk/appeal/myanmar-earthquake-appeal
     
  • Cyfathrebu Mewnol: plîs rhannwch y wybodaeth am yr apêl gyda’ch staff ac unrhyw gysylltiadau neu rwydweithiau mewnol. Gellir rhannu negeseuon yn uniongyrchol o sianeli DEC Cymru: Facebook | Twitter  | Bluesky 
  • Bydd adnoddau pellach – gan gynnwys posteri, dyluniadau a phecyn cyfryngau cymdeithasol ar gael dros y dyddiau nesaf ar ein Hwb Partneriaid Allanol

Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi arian cyfatebol punt-am-bunt hyd at £5 miliwn a roddwyd gan y cyhoedd i’r apêl hon. Rhowch nawr.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *