Gwleidyddiaeth ryngwladol: Cuba ar ôl Covid-19

Ar y 31ain o Fai, cynhaliwyd cynhadledd olaf y mis a drefnwyd gan Cymru Cuba ac Ysgol Fusnes Caerdydd. Roedd gan y gynhadledd fformat hybrid, lle gwahoddwyd rhai o’r cynorthwywyr i fod yn bresennol mewn person; ac i’r rheiny nad oeddent yn byw yng Nghaerdydd, roedd ganddynt yr opsiwn o fynychu ar-lein.

Cafodd y gynhadledd ei chyflwyno gan Elizabeth Ribalta Rubiera, aelod o Cuban Institute for international Friendship, a chanolbwyntiodd ar gyflwr presennol Cuba a’i llywodraeth. Dechreuodd drwy ddangos fideo sy’n mynd i’r afael â sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol y wlad yn arena rhyngwladol heddiw. Ar ôl hynny, cyfeiriodd Mrs Elizabeth yn benodol hefyd at gysylltiadau’r Unol Daleithiau â Cuba a’u perthynas presennol, a’r effaith mae gweinyddiaeth Trump a Biden wedi ei chael ac yn dal i’w chael yng nghymdeithas a gwleidyddiaeth Cuba ar ôl pandemig Covid-19 2019/20.

Mewn cyfarfod gwleidyddol iawn, cyflwynodd y siaradwr ei barn ar Cuba a’i galluoedd, cyn i’r llawr agor i’r rheini oedd yn bresennol i ofyn eu cwestiynau. Ar ôl dwy awr, daeth y digwyddiad i ben am 8:30 gyda dadansoddiad terfynol gan y siaradwr am beth sydd i ddod ar gyfer pobl Cuba a’u gweriniaeth.

Hoffech chi helpu mewn mwy o ddigwyddiadau fel hyn? Peidiwch â cholli ein diweddariadau ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan!

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *