Ydy Gofal Iechyd Cyffredinol yn Gynaliadwy?

“Mae’n dibynnu beth ydych chi eisiau.” atebodd yr Athro Helen Stokes-Lampard, Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol sy’n cynrychioli dros 50,000 o Feddygon Teulu, wrth siarad yn y Deml Heddwch ar 9 Ebrill mewn digwyddiad wedi’i noddi gan WCIA a Chymdeithas Ddysgedig Cymru fel rhan o gyfres o ddarlithoedd yn dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Roedd yr Athro Stokes-Lampard yn eiriol dros y gwerth am arian o ran meithrin capasiti ar y lefel gofal iechyd sylfaenol pan ddaw’n fater o leihau marwolaethau. Defnyddiodd yr enghraifft o stôl deircoes: rhaid i ofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol gydbwyso. Mae unrhyw straen neu ddiffyg mewn un rhan yn effeithio ar y system gyfan.

Mae’r “Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal,” a ddaeth i rym gyntaf yn y 1970au, yn dal mewn grym heddiw: mae’r angen am ofal iechyd yn wrthdroadol gymesur â’r ansawdd a ddarperir. Hynny yw, mae pobl dlawd angen gofal iechyd da ond ar y cyfan, ansawdd gwael sydd yn cael ei ddarparu. Mae ychwanegu grymoedd y farchnad at ddarpariaeth gofal iechyd yn gwneud hyn yn waeth. Defnyddiodd yr Athro Stokes Lampard luniau hefyd o’r math o gymysgeddau ariannu a ddefnyddir gan wahanol wledydd gan nad oes dim, hyd yn oed y GIG, yn defnyddio arian cyhoeddus yn unig – mae pob un yn defnyddio rhyw fath o swm atodol ar ffurf ffioedd. Mae’r anghydraddoldebau mwyaf ym maes yswiriant preifat mewn gofal iechyd, sy’n arwain at ofal iechyd yn cael ei wrthod i’r bobl fwyaf agored i niwed. Disgrifiodd Linnet Mesuoh, myfyrwraig meddygaeth blwyddyn 2, y ddarlith fel “hynod ddiddorol a mewnweledol.”

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *