Mae ymgyrch wedi cael ei lansio i anfon 50,000 o leisiau ar draws Cymru i Gynhadledd Newid Hinsawdd y CU (COP26) eleni yn Glasgow.
Caerdydd, 8 Mawrth 2021 – Mae Climate Cymru, clymblaid o ddinasyddion, cymdeithas sifil a busnes ar draws Cymru yn lansio ymgyrch i ddod â 50,000 o leisiau ynghyd o bobl Cymru i fynd i Glasgow ym mis Tachwedd.
Bydd cefnogwyr ar draws y wlad yn cael eu grymuso i ychwanegu eu llais at wefan Climate Cymru, i fynnu gweithredu cryf ac ystyrlon gan arweinwyr newid hinsawdd. Ar ôl ychwanegu eu llais, bydd cefnogwyr wedyn yn gallu creu eu neges bersonol eu hunain, fydd yn mynd i gyfarfod COP26 eleni yn Glasgow, ac i’w rhannu ymysg eu rhwydweithiau eu hunain.
Mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn bygwth cymunedau Cymru, eu ffyrdd o fyw, a’r byd naturiol. Mae’n digwydd nawr, ac mae llawer eisoes yn ei weld yn eu bywydau bob dydd. Mae llifogydd difrifol, oedd ar un adeg yn ddigwyddiad prin, bellach yn ddigwyddiad blynyddol mewn llawer o gymunedau yng Nghymru. Bydd newid hinsawdd ond yn gwaethygu hyn.
Mae arweinwyr y byd yn cyfarfod yn Glasgow ym mis Tachwedd ac mae Climate Cymru yn galw arnynt i wneud ymrwymiadau cryf ac ystyrlon i ddiogelu’r pethau sydd yn annwyl i ni ac i greu dyfodol gwell i bawb.
Mae Climate Cymru yn casglu lleisiau ar draws Cymru, lleisiau sydd yn poeni’n fawr am Gymru, ei phobl, ei hamgylchedd naturiol, ond hefyd, yn hollbwysig, am y byd y tu hwnt i’w ffiniau. Mae’r ymgyrch yn galw ar bobl o bob cefndir i ddatblygu mudiad amrywiol ar draws ffiniau gwleidyddol, diwylliannol, crefyddol, demograffig a sectoraidd.
Gan ddefnyddio llesiau Cymru, nod yr ymgyrch yw rhoi’r pwyslais ar lywodraethau ac arweinwyr gwleidyddol i ddangos arweinyddiaeth ac i sicrhau bod ymdrechion unigolion a busnesau’n cael eu cefnogi gan bolisïau effeithiol.
Wrth gynnal COP26, mae’n arbennig o bwysig i Lywodraeth y DU ddangos arweinyddiaeth ryngwladol i bwyso am ymrwymiadau cryf ac ystyrlon gan y gymuned ryngwladol i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Ymunwch â’r ymgyrch. Ychwanegwch eich llais yn climate.cymru.
Dywedodd Poppy Stowell-Evans, aelod o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru a Llysgennad Climate Cymru:
“Fel sefydliad o bobl ifanc sy’n ymgyrchu dros y newid yn yr hinsawdd, rydym yn cydnabod y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau yn rhyngwladol ac yng Nghymru. Mae’n rhaid, felly, ei gymryd o ddifrif fel mater byd-eang.
Mae gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn hanfodol i ddiogelu’r blaned a dyfodol cenedlaethau’r dyfodol. Mae gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn gam cadarnhaol ymlaen i’n gwlad a’r byd a dyma pam y mae mor bwysig eich bod yn defnyddio eich llais!
Dim ond cyfnod byr o amser sydd gennym i weithredu, dylai Llywodraethau fod yn ymrwymo i ddiogelu dyfodol y blaned ac yn gweithredu cyn ei bod yn rhy hwyr.”
Dywedodd Susie Ventris-Field, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Climate Cymru:
“Mae Climate Cymru yn bartneriaeth o unigolion, busnesau a chymdeithas sifil sydd o’r farn ei fod yn hanfodol bod lleisiau amrywiol o Gymru’n cael eu clywed yn COP26. Mae pawb sydd yn gysylltiedig yn cyflwyno safbwyntiau gwahanol ond rydym yn unedig yn ein galwad i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Roedd Cytundeb Paris yn 2015 yn gam mawr ymlaen yn y frwydr i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae angen i’n harweinwyr ddatblygu’r sylfeini hyn a gwneud ymrwymiad cryf ac ystyrlon i ddiogelu’r pethau sydd yn annwyl i ni.”
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Phartner Climate Cymru:
“COP26 yw ein hunig gyfle mewn cenhedlaeth i ymrwymo, paratoi a gweithredu. Mae gan Gymru stori unigryw i’w rhannu trwy ei Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol unigryw. Mae COP26 yn rhoi llwyfan i ni rannu ein gweledigaeth.
“Mae cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru ac ar draws y byd yn gofyn i ni gymryd yr adeg hon o ddifrif. Mae’r mudiad dros newid yn cynyddu! Wrth i ni geisio ailgodi’n gryfach – dewch i ni ganolbwyntio ar adferiad gwyrdd.”