Arweinwyr yn “ysbrydoli cynulleidfa” yng nghynhadledd Dinasyddiaeth Fyd-eang 2021

globalCitizenship 2021

Siaradodd arweinwyr iechyd, y Llywodraeth a’r trydydd sector yn y gynhadledd Dinasyddiaeth Fyd-eang gan Rwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica a Hub Cymru Affrica ar 3-4 Tachwedd.

Dywedodd Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru: “Roedd y gynhadledd yn ysbrydoli cynulleidfaoedd – roedd yn creu cysylltiadau rhwng rhyngwladoldeb y gorffennol a gweithgarwch presennol, ac yn meithrin cydweithrediad ar draws ffiniau a chamau gweithredu ar y cyd sy’n arwain at fyd tecach. Roedd yn ysbrydoledig clywed gan siaradwyr ar draws Cymru ac ar draws y byd, ac rwy’n credu bod pawb wedi gadael yn llawn brwdfrydedd a syniadau.”

Agorodd y digwyddiad gyda Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, a Dr Kit Chalmers, Pennaeth Polisi a Dysgu THET, a rannodd eu gwybodaeth am y Partneriaethau Iechyd Byd-eang rhwng Cymru a chyfandir Affrica. Pwysleisiodd Dr Chalmers y galluoedd a’r cryfderau niferus sydd gan Lywodraeth Cymru i gymryd rhan weithredol mewn cyllid Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) ar draws y byd – gwnaeth hyn yn alwad i weithredu.

Yn y prynhawn, siaradodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, am gyfiawnder cymdeithasol a rôl Cymru mewn cydweithredu iechyd rhyngwladol.

Yn ddiweddarach, archwiliodd Craig Owen, Cynghorydd Treftadaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, undod byd-eang yng Nghymru dros y 100 mlynedd diwethaf, a thynnodd sylw at y berthynas rhwng heddwch ac iechyd. Ysgogodd y rheini oedd yn bresennol i feddwl: “Beth allwn ni ei ddysgu o’n hanes?”

Craig Owen o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cyflwyno yng Nghynnhadledd #DinasyddiaethFyd-eang2021 ar Rwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica

Daeth dydd Mercher i ben gyda’r Athro Edward Kunonga a Dr Kelechi Nnoaham yn trafod yr effaith y mae Covid-19 wedi’i chael ar bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn ystod ac ar ôl pandemig 2020 a 2021.

Agorodd Diwrnod 2 gyda Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru. Yn ystod ei haraith, pwysleisiodd bwysigrwydd nyrsys a bydwragedd a’r cysylltiadau rhwng y gweithwyr proffesiynol hyn yn Affrica a Chymru.

Cafodd ei haraith ei dilyn gyda digwyddiad lansio modiwlau e-ddysgu newydd mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang ar gyfer staff y GIG. Eglurodd Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Susie Ventris-Field, Dr Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus a Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Dr Gill Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru (brechlynnau) y modiwlau, ac ateb cwestiynau.

Hub Cymru Afica health
Professor Rhiannon Beaumont-Wood and Professor Dianne Watkins presenting in the #GlobalCitizenship2021 Conference on Wales and Africa Health Links Network

Yn y prynhawn, archwiliodd yr Athro Dianne Watkins a Rhiannon Beaumont-Wood, arweinwyr nyrsio yn Affrica.

Siaradodd Dr Choolwe Jacobs o Zambia ar y cynnydd mewn iechyd mamau. Soniodd yn benodol am effeithiau Covid-19 ar gymdeithas Zambia, a sut mae cyd-destun rhyngwladol toriadau i’r gyllideb cymorth a dirywiad mewn safonau iechyd wedi cael effaith.

Siaradodd yr Athro Kamila Hawthorne o Brifysgol Abertawe am ymagwedd ei phrifysgol at wrth-hiliaeth, gan gynnwys y rhwystrau.

Daeth y gynhadledd i ben gydag arddangosfa o gysylltiadau iechyd rhwng Kenya, Lesotho, Cymru a Liberia.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *