Mae’r pandemig byd-eang wedi effaith enfawr ar elusennau ledled y byd, ac er ein bod yn siŵr o wynebu mwy o heriau yn y flwyddyn i ddod, rydym yn benderfynol o barhau i weithio ar greu byd teg a mwy heddychlon.
Mae wedi bod yn ysbrydoledig i gweld faint o bobl sydd wedi cymryd camau tuag at gyfrifoldeb byd-eang. Mae ein adroddiad yn cynnwys 760 o bobl sydd wedi dangos hyn drwy leihau eu hôl troed carbon, dewis i siopa’n foesegol a gweithio tuag at adeiladu Heddwch yn eu cymunedau.
Mae ein hadroddiad blynyddol 2019 – 2020 yn son am ein cyflawniadau a’r hyn rydym wedi’i ddysgu eleni.
Penderfynwyd symud Gwobrau Heddywchwyr Ifanc a’r Chynhadledd Heddwch ar lein eleni, a welodd un ysgol yn cyrraedd statws Ysgol Heddwch lefel 1 a thair ysgol arall yn gweithio tuag at statws lefel 2.
Dywedodd ein Prif Weithredwr, Susie Ventris-Field: “Rydym wedi gweld llawer o bobl yng Nghymru a ledled y byd yn dangos caredigrwydd, undod ac arloesedd mewn ymateb i’r argyfwng.”