Mae ein rhaglen MockCOP yn mynd o nerth i nerth, yn dilyn llwyddiant diweddar
Mae’r cyfle i ehangu’r rhaglen wedi bod yn bosibl drwy gymorth caredig ScottishPower Foundation.
Beth ydy MockCOP?
Mae Maint Cymru a WCIA wedi bod yn rhedeg MockCOP ers 2015. Digwyddiad ydy MockCOP sy’n cael ei fodelu ar Gynhadledd y Pleidiau (COP) y Cenhedloedd Unedig, lle mae cynrychiolwyr o bob gwlad yn cyfarfod i drafod cynigion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae grwpiau o dri o fyfyrwyr rhwng 14-18 oed o bob rhan o Gymru yn cael gwlad i’w chynrychioli. Maen nhw’n ymchwilio ac yn paratoi eu safbwynt ac yna, yn cynrychioli’r wlad a ddyrannwyd iddynt drwy gyflwyno eu hachos, gyda’r nod o ddod i gytundeb â’r gwledydd eraill.
Yn 2018, dyfarnwyd Canmoliaeth Uchel i’r rhaglen yng Ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru.
Ac yn mis Medi eleni, dyfarnwyd Canmoliaeth Uchel i’r rhaglen yng Ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru.
Sut mae’r rhaglen yn ehangu?
Yn y gorffennol, dim ond un digwyddiad sydd wedi cael ei gynnal bob blwyddyn, yng Nghaerdydd. Nawr, diolch i gefnogaeth ScottishPower Foundation, bydd sawl digwyddiad MockCOP rhanbarthol yn cael eu cynnal ar draws Cymru, a fydd yn diweddu gyda digwyddiad terfynol yn y Siambr Drafod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhedeg fersiwn llawer mwy o’n rhaglen MockCOP eleni mewn partneriaeth â WCIA a chyda chymorth caredig ScottishPower Foundation. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc gamu i esgidiau gwledydd eraill, i feddwl am newid yn yr hinsawdd o sawl persbectif, ac i ddatblygu eu sgiliau siarad a dadlau cyhoeddus. “meddai Elspeth Jones, Cyfarwyddwr Maint Cymru.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd Maint Cymru yn ceisio datblygu a chefnogi hyrwyddwyr ifanc newid yn yr hinsawdd ar draws Cymru.
Meddai Ann McKechin, Ymddiriedolwr a Swyddog Gweithredol ScottishPower Foundation: “Mae’r genhedlaeth nesaf yn arwain y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ar draws ein gwlad. Dyna pam mae ScottishPower Foundation yn falch o gefnogi’r rhaglen gyffrous hon sy’n dod â phobl ifanc at ei gilydd o bob rhan o Gymru, i drafod sut i ymateb i’r heriau a fydd yn effeithio ar eu dyfodol ac ar yr un pryd, deall gwahanol safbwyntiau o bedwar ban byd.”
Sut gall ysgolion gymryd rhan?
Mae pob digwyddiad am ddim.
Bydd MockCOP y flwyddyn nesaf yn cael ei gynnal ddydd Gwener 5 Mawrth a dydd Mawrth 23 Mawrth.
Fel arall, cofrestrwch ar gyfer MockCOP yn Gymraeg ar Fawrth 5ed drwy Eventbrite YMA
Cofrestrwch i gymryd rhan yn y rhaglen drwy’r iaith Saesneg YMA
Eleni, rydym yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Rhynghinsawdd i ddatblygu adnoddau newydd gwych i ysgolion gynnal eu fersiynau mewn ysgol eu hunain o uwchgynhadledd ar y newid yn yr hinsawdd.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol WCIA, Susie Ventris-Field: “Mae MockCOP yn gyfle gwych, sy’n meithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder dysgwyr fel eu bod yn gallu gweithredu ar y pwnc hollbwysig o newid yn yr hinsawdd, ac mae’r cyllid hwn yn golygu y gallwn gyrraedd mwy o bobl ifanc ar draws Cymru. Yn ogystal â chydweddu’n wych â’r cwricwlwm newydd o ran datblygu dinasyddion gwybodus moesegol, mae’n amserol iawn hefyd wrth i bobl ifanc streicio i berswadio ein harweinwyr i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. “