Adnoddau newydd i Ysgolion Heddwch

Mae nifer o adnoddau newydd yn barod i chi eu defnyddio, i helpu i ddod yn ysgol Heddwch

Adnodd cyntaf: Sut i ddod yn Ysgol Heddwch

Mae’r pecyn yma yn helpu ysgolion trwy’r proses o ddod yn Ysgol Heddwch. Mae’r pecyn yn cynnwys ffurflenni angenrheidiol, offer i gynllunio, yn ogystal â chanlyniadau awgrymiadol a chysylltiadau ag adnoddau a mentrau ategol

Mae’r pecyn  hefyd yn cynnwys esiamplau ar beth mae ysgolion heddwch wedi cyflawni trwy’r cynllun.

 

Adnodd 2: Creu newid er mwyn heddwch 

Mae’r pecyn yma yn cefnogi pobl ifanc o Gyfnod Allweddol 3 ymlaen, ac yn helpu nhw i feddwl a beth mae heddwch yn eu golygu iddyn nhw, a sut maen nhw yn gallu newid eu cymuned leol er gwell.

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys help i staff gyda digwyddiadau i gefnogi pobl ifanc i greu newid.

 

Darganfyddwch mwy o adnoddau yma

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *