Mae Sam Ward wedi ail-ymuno â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru fel Rheolwr Climate Cymru, i alw am ddegawd o weithredu teg, brys, i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Y llynedd, arweiniodd Sam ymgyrch Climate Cymru i fynd â 13,500+ o leisiau amrywiol o gymunedau ar draws Cymru i Gynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP26 yn Glasgow. Ochr yn ochr â’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, mynnodd Climate Cymru bod gwleidyddion yn gweithredu, a sicrhau bod lleisiau Cymru’n cael eu cynrychioli yn y digwyddiad byd-eang hwn.
Dechreuodd Climate Cymru fel syniad ar gyfer ymgyrch llawr gwlad, ac mae bellach wedi tyfu i fod yn fudiad gweithredol gyda mwy na 250 o sefydliadau sy’n ymwybodol o’r hinsawdd fel rhanddeiliaid, tua 50 o lysgenhadon, a rhwydwaith cynyddol o gynghreiriaid o bob rhan o Gymru, gan gynnwys undebau, busnesau, grwpiau cymunedol, prifysgolion, cyrff anllywodraethol a mentrau cymdeithasol.
Nawr, gyda chyllid o’r newydd am y ddwy flynedd nesaf, bydd Sam yn gweithio gyda phartneriaid newydd a phresennol, Stop Climate Chaos Cymru (SCCC) a llysgenhadon, i gryfhau a pharhau i adeiladu mudiad pwerus ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd a natur o Gymru.
Dywedodd 95% o’r rheini a ymatebodd i’n gwerthusiad ôl-COP bod gan Climate Cymru rôl bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Meddai Sam:
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chymunedau lleol, partneriaid ac arweinwyr Cymreig. Mae llawer o waith da eisoes yn cael ei wneud gan gymunedau a sefydliadau yng Nghymru. Rwy’n gobeithio gweld mwy o gymunedau yng Nghymru yn gallu llunio dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain – aer glanach, ynni mwy fforddiadwy, bwyd iach, bwyd wedi’i dyfu’n lleol, mynediad i natur, cymunedau mwy cysylltiedig a gwydn. Mae’n ysgogiad cryf i lwyddo, yn enwedig o’i gymharu â’r caledi y mae ‘busnes fel arfer’ eisoes yn ei ddwyn i lawer, a bydd yn effeithio arnom i gyd os na fyddwn yn gweithredu.
Meddai Cadeirydd y glymblaid Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, Mari McNeill: ‘Llynedd bu Climate Cymru chwarae rôl mor ganolog yn dod â chymunedau yng Nghymru at ei gilydd cyn COP26 ac wedi hybu egni a chefnogaeth gref ar gyfer gweithredu ar newid hinsawdd. Heb weithred brys a thrawsnewidiol, wyddem oll y caiff y rhai sydd ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd eu bwrw fwyfwy i dlodi a newyn. Rydym yn gyffrous bod Sam yn ail-ymuno â Climate Cymru yn yr amser allweddol hwn, wrth inni fanteisio ac adeiladu ar fomentwm COP26, ehangu ac amrywio’r rhwydwaith, a sicrhau bod gan Gymru arweiniad dilys ar gyfiawnder hinsawdd oddi fewn i’r DG a’r byd.’
I unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â Climate Cymru yn y bennod newydd hon, hoffem eich gwahodd i gysylltu â ni drwy e-bost: helo@climate.cymru
Yn y pen draw, rhwydwaith o unigolion a sefydliadau o bob sector yng Nghymru yw Climate Cymru, sy’n cydnabod bod angen gweithredu teg, brys ar yr argyfwng hinsawdd a natur, dan arweiniad y dystiolaeth orau sydd ar gael a lleisiau pobl ar draws Cymru. Mae Climate Cymru yn gweithio dros newid, yn unol â’r egwyddorion hyn, drwy ysbrydoli, cysylltu, dysgu a rhannu gwybodaeth â chymdeithas yng Nghymru, yn ogystal â rhoi pwysau ar y rheini sydd â’r pŵer i wneud y newidiadau.
Mae Climate Cymru yn cael ei letya gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) ar ran Stop Climate Chaos Cymru (SCCC).
Gwefan: Climate.Cymru
Twitter: @ClimateCymru
Instagram: @Climate.Cymru
Ebost: helo@climate.cymru
29 Ebrill 22