Rydym yn recriwtio Llywodraethwyr!
A yw creu byd tecach a mwy heddychlon yn bwysig i chi? Oes gennych chi ychydig o amser rhydd? Gwnewch gais i fod yn ymddiriedolwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a dewch â’ch arbenigedd i’n Bwrdd.
Rydym yn chwilio am ddau ymddiriedolwr sydd â sgiliau/profiad/gwybodaeth ynghylch unrhyw rai o’r canlynol:
- Cyfathrebu a Marchnata
- Cyllid
- Adnoddau Dynol
- Codi arian
ac un i ymgymryd â rôl benodol ar Fwrdd Partneriaeth y rhaglen Hwb Cymru Affrica, gan chwilio am unigolyn sydd â phrofiad a diddordeb mewn gwaith datblygiad rhyngwladol neu ddatblygu polisi.
Hwb Cymru Affrica
Rydym eisiau recriwtio Ymddiriedolwr i weithredu fel un o ddau o gynrychiolwyr WCIA ar Fwrdd Partneriaeth y rhaglen Hwb Cymru Affrica. Mae Hwb Cymru Affrica yn cynnig cefnogaeth ar gyfer y sector datblygiad rhyngwladol yng Nghymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a FCDO Llywodraeth y DU. Mae’r rhaglen Hwb Cymru Affrica’n cael ei chynnal gan WCIA, ac yn uno tri sefydliad partner: SSAP, Masnach Deg Cymru ac WAHLN.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i gyfrannu at waith yr Hwb wrth iddo geisio gosod a darparu strategaeth newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn gyda phrofiad a diddordeb mewn gwaith datblygiad rhyngwladol neu ddatblygu polisi, sy’n medru cyfrannu at gyfeiriad strategol yr Hwb yn ogystal â helpu i oruchwylio’r gwaith o’i lywodraethu.
E-bostiwch secretary@wcia.org.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Dyddiad cau: 6 Medi 2021