Allech chi ysbrydoli pobl Cymru i greu byd tecach a mwy heddychlon? Ymgeisiwch i ymuno â thîm WCIA. Rydym yn dymuno llenwi dwy swydd newydd:
Cynorthwyydd prosiect
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Prosiect sy’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n gyfeillgar ac sy’n agos-atoch, i fod yn bwynt cyswllt rheolaidd i’r rheiny sy’n cymryd rhan yn ein prosiectau, yn enwedig ysgolion a sefydliadau ieuenctid. Bydd y cynorthwyydd prosiect yn cynorthwyo gyda digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb hefyd, felly bydd angen iddo fod yn hyderus yn defnyddio technoleg.
Cydlynydd Academi Heddwch
Rydym yn recriwtio ar gyfer cydlynydd Academi Heddwch Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gydlynu rhaglen waith Academi Heddwch yn ei blwyddyn gyntaf, ac i ddatblygu cynlluniau, blaenoriaethau a phrosiectau ar gyfer y tymor hirach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ardderchog am feithrin a chynnal perthnasau â rhanddeiliaid amrywiol yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac am gydlynu digwyddiadau a gweithgareddau i safon uchel a chyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.