Blog ac ymchwil gan Intern Archifau WCIA, Rob Laker, a oedd ar leoliad gyda Cymru dros Heddwch o Adran Hanes Prifysgol Abertawe dros gyfnod yr Haf 2019. Defnyddir deunyddiau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau’r Deml Heddwch; ac Adroddiadau Blynyddol Cynghrair Cenhedloedd Cymru 1922-45 ar wefan Casgliad y Werin Cymru, a ddigideiddiwyd gan WCIA (gyda chymorth myfyriwr doethurol o Abertawe, Stuart Booker), at ddibenion mynediad agored ac ymchwil i’r dyfodol. Golygwyd ddiwethaf gan Craig Owen, Cymru dros Heddwch.
Mae’r erthygl hon yn cael ei chyhoeddi fel #Peacemakers #FridayFeature WCIA i nodi Diwrnod Heddwch y Byd 2019, sy’n dathlu gweithredu byd-eang Cymru y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Stori Cymru ‘Diwrnodau Daffodil dros Heddwch’
Yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelwyd newidiadau enfawr yn y ffordd yr oedd pobl ym Mhrydain yn gweld materion rhyngwladol. Roedd penderfyniad cadarn wedi’i feithrin ar draws y Deyrnas Unedig: Nid dim ond delfryd fyddai ‘byth eto’, ond penderfyniad diriaethol bod yn rhaid i bawb weithio’n ddiwyd tuag at warchod heddwch y byd.
Yr awydd hwn a arweiniodd yn gyflym at fwy o ddiddordeb mewn ymgysylltu rhyngwladol, ac yn y pen draw, ysgogodd bobl pob dydd ar draws Cymru i ddechrau cynnal ‘ Diwrnodau Daffodil ‘ er budd Cynghrair Cenhedloedd Cymru. Yn un o’r ymatebion unigryw i Gymru, roedd y digwyddiadau hyn yn ymgorffori math o wladgarwch eangfrydig-balchder yn y darlun o gymwysterau rhyngwladol Cymru.
Yn ystod y pymtheg mlynedd y digwyddasant, trefnodd cefnogwyr y gynghrair o leiaf un Diwrnod y Daffodil mewn dros 600 o drefi a phentrefi Cymru, gan drawsnewid y digwyddiad yn arfer diwylliannol a oedd yn treiddio i bob cwr o’r genedl, hyd at ddechrau’r Ail Ryfel Byd.
Edrychwch ar Google Map of Communities a drefnodd y Diwrnodau Daffodil rhwng 1925-39, sydd wedi’u coladu gan fyfyriwr hanes Abertawe, Rob Laker (Closiwch, neu cliciwch ar PINS, i ddod o hyd i gymunedau yn agos atoch. Gellir cael gwybodaeth bellach am weithredu ar raddfa leol o adroddiadau Cynghrair Cenhedloedd Cymru, a ddigideiddiwyd gan WCIA ar wefan Casgliad y Werin Cymru).
Tarddiad, Datblygiad a Llwyddiannau yn y 1920au
Dechreuodd yr arfer o werthu daffodiliau ar gyfer achos rhyngwladol mor gynnar â 1922, pan aeth gwirfoddolwyr Cynghrair Cenhedloedd Cymru allan ar strydoedd
Caerdydd i godi arian i ryddhau’r newyn oedd yn effeithio ar gyfrannau mawr o Rwsia yn dilyn y rhyfel sifil diweddar.
Erbyn 1924, roedd gwerthu daffodil drwy’r haf i godi arian at waith y WLNU wedi dod yn draddodiad gwefreiddiol. Byddai Diwrnodau Daffodil yn aml yn parhau i ddigwydd tan ddiwedd mis Medi (er gwaethaf ymdrechion y pwyllgor gwaith i osod dyddiad cenedlaethol yng nghanol mis Mai – gan gysylltu â’r ‘Diwrnod Heddwch ‘ ar gyfer Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru sydd newydd ei sefydlu), ac atgyfnerthodd y digwyddiad ei hun yn gyflym fel rhan annatod o ddiwylliant Cymru rhwng y rhyfeloedd.
Byddai miloedd o focsys o flodau – cardboard a go iawn – yn cael eu cludo ar drên ar draws Cymru, gan gyrraedd pob pentref mewn pryd i’w dosbarthu ymhlith y gwirfoddolwyr lleol oedd yn ymwneud â Diwrnod y Daffodil. Byddai gweithwyr, pob un wedi cael basged o wiail, hambwrdd pren, neu weithiau, bocs cardboard yn rhodd gan siop melysion lleol, yn gadael canolfannau cydlynu cyfagos, yn barod i dreulio eu dydd Sadwrn yn gwerthu daffodiliau wedi’u pacio’n daclus.
Roedd plant ysgol yn arbennig – er iddynt gael eu ‘gwahardd ‘ yn swyddogol rhag cymryd rhan! – yn elfen allweddol o’r Diwrnodau Daffodil. Roedd y rhan fwyaf o drefnwyr yn mwynhau’r cyfle i gryfhau eu niferoedd gyda chymaint o wirfoddolwyr brwdfrydig. Cafodd eu hachos ei wneud yn glir gan y labeli ar draws ochr flaen pob un bocs – ‘er heddwch y byd’ – ac roedd eu hymroddiad yn glir i bawb i’w weld yn ôl eu presenoldeb ar y penwythnosau mwyaf glawiog hyd yn oed yn ystod yr haf yng Nghymru.
Nid damwain oedd dewis defnyddio symbol cenedlaethol Cymreig i hyrwyddo corff rhyngwladol. Roedd yn cyfleu neges fwriadol a grymus iawn: datganiad o hunaniaeth Cymru fel cenedl fodern, wedi’i hymrwymo, ar ei chraidd, i fynd ar drywydd heddwch a chydweithrediad rhyngwladol. Roedd yn ddatganiad o falchder cyhoeddus Cymru yn eu rôl ar ben blaen rhyngwladoldeb.
Fel y nodwyd gan un adroddiad papur newydd (1) ar Ddiwrnod y Daffodil Caerdydd 1925:
“the national flower of Wales had become the international flower of peace. The purchase and wearing of a daffodil in this way expresses both pride in the nation’s past, and hope for its future.”
Nid oedd y gwladgarwch hwn a oedd yn edrych tuag allan wedi’i gyfyngu i ganolfannau mawr fel Caerdydd. Ym 1924, cynhaliodd chwech ar hugain o drefi Cymru Ddiwrnod y Daffodil er mwyn cynorthwyo Cynghrair Cenhedloedd Cymru, ac eto roedd y nifer hwn wedi lluosi bron deg gwaith erbyn 1927, gyda 249 o Ddiwrnodau Daffodil yn cael eu cynnal ar draws Cymru.
Mewn dim ond ychydig flynyddoedd, roedd y Diwrnodau Daffodil nid yn unig wedi ‘blodeuo’ i fod yn ddigwyddiad diwylliannol cydnabyddedig, ond daeth yn amlwg yn gyflym bod rhaid ariannu Cynghrair Cenhedloedd Cymru, gan gyfrannu dros hanner incwm y Cyngor am y rhan fwyaf o’r cyfnod rhwng y ddau ryfel. Ym 1927 yn unig, cafodd gwerth £1,877 (16s 11d) o ddaffodiliau eu prynu gan bobl Cymru i helpu’r Undeb – sy’n cyfateb i tua 450,000 o ddaffodiliau cardfwrdd (2). Ffigur arbennig o drawiadol, o ystyried y cofnodwyd bod poblogaeth Cymru yn 2,656,000 yn y cyfrifiad diwethaf ym 1921.
Er mor bwysig oedd eu gwaith, yn sicr nid Diwrnodau Daffodil lleol oedd yr unig beth a ddeilliodd o’r traddodiad hwn. Bob blwyddyn, byddai Cynghrair Cenhedloedd Cymru yn rhoi stondin i fyny yn gwerthu’r blodau yn yr Eisteddfod Genedlaethol (3), ac yn ymddangos hefyd mewn digwyddiadau cenedlaethol eraill fel Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru hyd at 1939.
Roedd gemau rygbi, ar ben hynny, yn gyfle ar gyfer arddangosfa wirioneddol genedlaethol o ryngwladoldeb. Tynnir sylw at hyn mewn un adroddiad wrth sôn am yr awyrgylch yn y stadiwm genedlaethol ar 9 Ebrill 1927 – diwrnod cyntaf Cymru yn chwarae gartref ers pencampwriaeth y Pum Gwlad yn gynharach y flwyddyn honno:
‘Maybe it was because of the enthusiasm with which so good a Welsh Nationalist as Mr David Davies, M.P. has espoused the cause of the League of Nations Union – but whatever the cause, Wales has distinguished itself in its enthusiasm for the cause of world peace. That is why on Saturday in Cardiff everyone wore a daffodil as the insignia of the League of Nations’.
Erbyn diwedd y 1920au, roedd y Diwrnodau Daffodil wedi dod yn symbol hollbresennol mewn cymdeithas yng Nghymru – rhan sefydledig o’r diwylliant rhwng y ddau ryfel. Roeddent yn arwyddlun o ryngwladoldeb a oedd, yn bell o fod yn groes i hunaniaeth genedlaethol, wedi dod yn rhywbeth i’w wisgo fel arddangosfa o wladgarwch – yn gartrefol iawn mewn gêm rygbi ar ddydd Sadwrn.
Menywod fel Crewyr Heddwch ac Arweinwyr
Yn ogystal â’u harwyddocâd ymarferol a diwylliannol, mae’r Diwrnodau Daffodil yn nodedig hefyd, am y rôl amlwg a chwaraeodd menywod yn eu sefydliad. O waith Annie Hughes Griffiths a llwyddiant y ddeiseb heddwch i fenywod i America, i ymdrechion arloesol Winifred Coombe Tennant yng Nghynulliad Cynghrair y Cenhedloedd, daeth menywod Cymru yn gysylltiedig â gweithredu er heddwch. Nid oedd y Diwrnodau Daffodil yn eithriad.
Yn aml, roedd menywod lleol yn cymryd yr awenau wrth drefnu digwyddiadau yn eu hardal eu hunain, cydlynu gwirfoddolwyr a gweithredu fel cynrychiolydd y pentref wrth gyfathrebu â phencadlys Caerdydd. Yn y rôl hon, byddai menywod yn aml yn cadeirio pwyllgorau lleol a oedd yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, gan rhoi lefel nodedig o ddylanwad iddynt yn eu cymuned leol.
Yn sicr, nid oedd rôl menywod yn gyfyngedig i gymunedau lleol. Yn ystod y 1920au, roedd Diwrnodau Daffodil yn cael eu trefnu gan Bwyllgor Diwrnod Daffodil Cenedlaethol y Menywod, a oedd yn gyfrifol am gydlynu trefnwyr lleol a datrys yr heriau logistaidd oedd yn dod yn sgil anfon bocsys o ddaffodiliau i gymunedau anghysbell ar draws Cymru.
Wrth i amser fynd heibio, a phan gafodd cyfraniad menywod Cymru i Gynghrair y Cenhedloedd ei gydnabod yn fwy ffurfiol, cafodd y cyfrifoldeb dros y Diwrnodau Daffodil ei gymryd drosodd gan Bwyllgor Ymgynghorol y Menywod. Sefydlwyd y pwyllgor ym 1933. Roedd Pwyllgor Ymgynghorol y Menywod i Gynghrair Cenhedloedd Cymru yn gorff trefnu swyddogol a ymgymerodd â gwaith amrywiaeth o grwpiau
menywod a oedd yn cael eu cydnabod yn llai ffurfiol, gan gynnwys y Pwyllgor Diwrnodau Daffodil Cenedlaethol. Dan nawdd Annie Hughes Griffiths, byddai’r traddodiad Diwrnod y Daffodil yn mwynhau rhywfaint o’i flynyddoedd mwyaf poblogaidd, ond byddai hefyd yn wynebu ei heriau mwyaf aflonyddol.
Treialon, Gwydnwch ac Optimistiaeth Ddi-ildio yn y 1930au
Arweiniodd diwedd y ‘dauddegau gwyllt’, a dyfodiad y Dirwasgiad Mawr, at newidiadau dwfn i fywyd bob dydd ar draws Cymru a’r byd. Daeth incymau gwario i ben wrth i ddiweithdra godi, gan wasgu ar bocedi cefnogwyr y Gynghrair, a fu’n hael cyn hynny.
Ategwyd y dirywiad economaidd nid yn unig gan ostyngiad amlwg yn yr incwm cyfartalog a gynhyrchwyd gan bob diwrnod y daffodil, ond hefyd, gwelwyd gostyngiad sydyn yn nifer y trefi a oedd yn trefnu un o gwbl – yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol Morgannwg. Ond roedd penderfyniad pobl Cymru i gefnogi gwaith Cynghrair Cenhedloedd Cymru, fodd bynnag, yn parhau’n ddigyfnewid. Hyd yn oed yng nghanol y cythrwfl economaidd a oedd yn ennyn y genedl, roedd canghennau lleol yr Undeb yn dal i allu cydlynu 211 o Ddiwrnodau Daffodil yn llwyddiannus ar draws Cymru.
Mewn ardaloedd gogleddol fel Ynys Môn, cynyddodd nifer y Diwrnodau Daffodil a drefnwyd ym 1930 mewn ymgais i wrthsefyll colledion mewn mannau eraill, tra
cynhaliodd llawer o drefi cefn gwlad – er enghraifft Crucywel – eu Diwrnod Daffodil cyntaf erioed eleni. Yn amlwg felly, roedd gweithgareddau’r Gynghrair yn cael eu hystyried yn fwy na dim ond achos elusennol i gael ei gefnogi ar adegau o gyfoeth. Mae’r ffaith, hyd yn oed ym 1930, yng nghanol yr argyfwng economaidd, bod Cynghrair Cenhedloedd Cymru yn dal i allu gwerthu £1707 17 11d o stoc – sy’n gyfwerth â bron i 410,000 ceiniog o ddaffodiliau – yn dyst i ymrwymiad Cymru rhwng y ddau ryfel i ryngwladoldeb y Gynghrair.
Dros y blynyddoedd nesaf, canfu Cynghrair Cenhedloedd Cymru ffyrdd o godi proffil y Diwrnodau Daffodil. Mewn rhai ardaloedd, dechreuodd gwerthwyr wisgo gwisgoedd cenedlaethol traddodiadol Aelodau’r Gynghrair (4), gan dynnu sylw at gyffredinolrwydd gweithredu ar lawr gwlad mewn aelod-wledydd eraill, a thynnu sylw gweledol o’r gymuned ryngwladol roeddent yn ei chefnogi i’r bobl oedd yn gwisgo daffodil. Yng Nghaerdydd, cafodd cynlluniau eu rhoi ar waith (5) ar gyfer ‘Cae Gobaith’ – sef cae o ddaffodiliau wedi’u plannu ar y tir gwyrdd o amgylch y Castell – fel symbol o’r dyfodol i ategu’r gofeb i’r gorffennol a ddarparwyd gan y ‘Cae Coffa’. O ganlyniad, dechreuodd yr incwm o’r Diwrnodau Daffodiliau godi’n raddol.
Argyfwng Abyssinnia
Fodd bynnag, cafodd yr optimistiaeth a gafodd ei ysbrydoli gan arloesi o’r fath ei ysgwyd yn ddrwg gan argyfwng Abyssinia 1935. Mae methiant y Gynghrair i
weithredu’n bendant yn ystod yr argyfwng yn aml yn cael ei ystyried yn ddechrau’r diwedd i’r sefydliad, a arweiniodd at argyfwng byd-eang o ran hyder yn ei awdurdod dros gymuned o wledydd oedd yn troi eu sylw’n fwyfwy tuag i mewn wrth fynd ar drywydd buddiannau cenedlaethol unigol.
Fel y cadarnhaodd trefnwyr yr ohebiaeth wyllt rhwng y WLNU a threfnwyr lleol diwrnod y daffodil, nid oedd Cymru’n rhydd o’r patrwm hwn o ddadrithiad. Yn nodweddiadol o lythyrau o’r fath oedd yr hyn a anfonwyd gan y Cydlynydd ym Mrynmafonwyd, a ysgrifennodd i bencadlys Caerdydd ym 1936 (6) i’w hysbysu bod barn gyhoeddus ‘ yn sicr anffafriol ‘ y Gynghrair wedi ei orfodi i ohirio Diwrnod y Daffodil y flwyddyn honno, gan bod diffyg diddordeb ymarferol.’ Meddai trefnydd arall o Langynwyd (7) fod gwerthwyr daffodiliau lleol a oedd yn arfer bod yn frwdfrydig erbyn
hyn ‘yn llwyr wrthod cael unrhyw beth i’w wneud [â] gwerthu i’r Gynghrair oedd wedi methu â helpu pan oedd angen help ‘, gan ei gorfodi i ganslo Diwrnod y Daffodil y dref y flwyddyn honno. Hyd yn oed mewn trefi fel Wrecsam, a oedd yn cynnal Diwrnod y Daffodil ym 1936, gorfodwyd y trefnwyr i ymddiheuro am y symiau pitw a godwyd ganddynt (8), fel
‘the people blame the League for the fate of the Abyssinians’.
Nid dadrithiad gwirfoddolwyr oedd yr unig effeithiau a gafodd yr argyfwng Abyssinia ar draddodiad Diwrnod y Daffodil. Ym mis Medi 1935, gwrthododd Prif Gwnstabl Sir Forgannwg i Dredegar Newydd gynnal Diwrnod y Daffodil (9), ar y sail na ellid ei ystyried yn ‘ achos elusennol ‘; cyntaf yn hanes y traddodiad. Fel y nodwyd yn adroddiad mewnol Cynghrair Cenhedloedd Cymru, ni chafwyd unrhyw anhawster o gwbl i gael caniatâd ar gyfer Diwrnod y Daffodil tan fis Hydref 1935, ond yn sydyn, barnwyd bod yr achos yn rhy ddadleuol i godi arian ar ei gyfer. Ymunodd y Barri, Tonypandy, Aberdâr, ac eraill yn gyflym â’r rhestr o drefi y gwrthodwyd trwyddedau iddynt gan awdurdodau lleol ar y sail hon (10), gan i sefydliad Cynghrair y Cenhedloedd a’r ddelfryd o heddwch y byd symud ymhellach ar wahân yng nghanfyddiadau bobl gyffredin ar draws Cymru.
Mae’r problemau hyn a wynebir gan drefnwyr Diwrnod y Daffodil yng Nghymru yn dangos yn glir proses o wleidyddoli mater y Gynghrair oedd yn digwydd ym 1935. Nid oedd bod o blaid cydweithrediad rhyngwladol heddychlon bellach, o reidrwydd, yn gyfystyr â bod o blaid Cynghrair y Cenhedloedd, gan drawsnewid achos a fu’n un cyffredinol, yn fater dadleuol.
Yn ôl un trefnydd o Landudno, “The Geneva disappointment had shaken confidence in internationalism to its very core.”
Eto, er yr holl broblemau a oedd yn wynebu Cynghrair Cenhedloedd Cymru, roedd 1936 yn un o’r blynyddoedd mwyaf llwyddiannus ar gyfer y Diwrnodau Daffodil yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel. Mae adroddiad blynyddol 1936-7 yr Undeb yn rhestru dros 300 o ddiwrnodau a gynhaliwyd mewn trefi ar draws Cymru, tra bod llawer o ardaloedd nad oedd yn gallu trefnu digwyddiad swyddogol yn dal i lwyddo i godi arian drwy lobïo cefnogwyr y Gynghrair yn breifat. ‘ Llanharan does care ‘ oedd neges un trefnydd (11)-er bod llawer o bobl yng Nghymru wedi dadrithio â’r gynghrair, roedd llawer yn credu hefyd, bod yr argyfwng wedi bywiogi eu hawydd i weld y Gynghrair yn llwyddo: ‘ It rained almost all the day ‘ ar Ddiwrnod y Daffodil Llanharan, ond roedd y trefnydd yn dal i allu dweud yn falch ‘the sellers were splendid to stick it out’. Roedd llythyrau o anogaeth, fel yr un o Bencader (12) a lofnodwyd ‘ with best wishes for the success of the League’, yn parhau i orlifo i Gaerdydd, gyda llawer yn cynnwys addewidion y byddai Diwrnod y Daffodil nesaf yn cael ei gynnal gyda mwy fyth o egni i gefnogi Cynghrair Cenhedloedd Cymru.
Ym 1938, roedd agor y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghymru fel pencadlys newydd Cynghrair Cenhedloedd Cymru a ‘chartref ysbrydol ‘ i ryngwladolwyr ledled Cymru, yn cynnig moment o ddathlu mawr ei angen, ac adlewyrchiad ymysg amseroedd heriol. Cyfrannwyd dros £12,000 o danysgrifiadau cyhoeddus tuag at adeiladu’r gofeb flaengar hon i’r rheiny a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf; ac er nad yw WCIA wedi dod o
hyd i unrhyw gofnodion eto ar sut y casglwyd y tanysgrifiadau hyn, ymddengys yn debygol iawn fod y Diwrnodau Daffodil, a’r mudiad rhyngwladol Cymru gyfan a hwyluswyd ganddynt, yn rhan enfawr o greu’r etifeddiaeth hon.
Ar 23 Tach 1938, trodd Mrs Minnie James o Ddowlais allwedd euraidd symbolaidd i agor y Deml Heddwch, ar ran mamau oedd wedi bod trwy brofedigaeth yng Nghymru a’r byd. Mynegodd ei gobeithion y byddai’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i weithredu ar heddwch, ac i adeiladu gwell byd fel y ‘weithred derfynol o gofio’.
Roedd y teimlad Cymreig o ryngwladoldeb yn dal i fod yn flaenoriaeth – ac yn benderfynol o oroesi pa stormydd bynnag y byddai’r blynyddoedd nesaf yn esgor arnynt. Parhaodd Cynghrair Cenhedloedd Cymru i ymdrechu i gadw’r heddwch hyd at wrthdaro’r Ail Ryfel Byd. Er gwaetha’r rhyfel a oedd ar y gorwel, roedd 206 o drefi a phentrefi yn dal i drefnu Diwrnodau Daffodil yn ystod tymor yr haf 1939, gan godi dros £820 i’r Undeb yn y gobaith y gellid dal i stopio’r ymladd.
Ac wrth i heddwch lithro allan o afael y rheiny a ymdrechodd i’w gynnal, felly hefyd y diflannodd Diwrnodau’r Daffodil i mewn i hanes. Er bod un digwyddiad ynysig wedi cael ei gynnal ym 1940, nododd yr Ail Ryfel Byd ddiwedd “Diwrnod y Daffodil”; bod traddodiad diwylliannol Cymru wedi gwywo ond a rwymodd cenedligrwydd a rhyngwladoldeb yn un hunaniaeth drydanol am 15 mlynedd.
Roedd y Diwrnodau Daffodil yn symbol o obaith ar gyfer y dyfodol; cadarnhad o le Cymru ar flaen y cenhedloedd oedd yn ymdrechu i gymodi; datganiad bod ei phobl ar flaen y gad wrth geisio cael harmoni ar raddfa ryngwladol. Roedd Cymru yn genedl oedd yn gwrthod rhoi’r gorau i geisio heddwch; treftadaeth y mae stori Diwrnodau’r Daffodil yn dal i fod yn dyst iddi.
Diwrnod Heddwch y Byd a Gweithredu ar yr Hinsawdd heddiw
Y penwythnos hwn, wrth i’r byd ddathlu Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar 21 Medi, mae WCIA yn cario’r fflam hon o weithredu cymunedol rhyngwladol wrth ymuno â #ClimateStrike ar draws y wlad, ar y cyd ag #ExtinctionRebellion, plant a grwpiau ieuenctid o bob cwr o Gymru. Yr Argyfwng Hinsawdd bresennol yw achos ‘cenedlaethau’r dyfodol’ yn yr un modd ag ailadeiladu heddwch y byd oedd achos ‘Cenhedlaeth y Cenhedloedd Unedig’ ar ôl yr Ail Ryfel
Byd- y cafodd pob un ohonynt eu magu gyda Diwrnodau Daffodil yn rhan ddofn o draddodiad a hunaniaeth ryngwladol Cymru.
Wrth i Gymru wynebu’r her o ffurfio ei rôl ar ôl Brexit yn y byd, ymysg rhaniadau cymunedol dwfn a byd sy’n newid yn y DU, yn Ewropeaidd ac yn rhyngwladol, mae rôl y #Peacemakers i hyrwyddo anghenion cenedlaethau’r dyfodol – ac i ddysgu oddi wrth ein gorffennol ac yn wir, i gael ein hysbrydoli ganddo – yn parhau i fod mor fawr heddiw ag erioed.
Cyfeirnodau
[1] ‘International Emblem’ Western Mail, 3 Awst 1925, 9.
[2] Mae’r rhif hwn yn seiliedig ar werthu daffodiliau cardfwrdd am un geiniog yr un, ond mae’r ffigur gwirioneddol yn debygol o fod ychydig yn is, gan fod rhywfaint o ddaffodiliau a werthwyd yn flodau go iawn, a oedd yn gwerthu am dair ceiniog yr un.
[3] Am ohebiaeth ynghylch presenoldeb y Gynghrair yn yr Eisteddfod, gweler y dogfennau cysylltiedig yn ‘League of Nations Union and United Nations Association Records: Women’s National Daffodil day Committee, general correspondence, Feb. – Aug. 1928 [228]’, Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, B1/33.
[4] ‘Cardiff and the League of Nations’, Western Mail, 11 Ebrill 1927, 9.
[5] ‘Costumes of Many Lands’, Western Mail, 24 Gorffennaf 1930, 11.
[6] ‘League of Nations Union Daffodil Day Suggestion’, Western Mail, 13 Rhagfyr 1932, 9.
[7] Llythyr gan Beryl M. Griffiths (Brynmafonwyd) i David Samways, 12 Mai 1936, a ddarganfuwyd yn ‘League of Nations Union and United Nations Association Records: Daffodil Days-letters, flag days, carnivals, stalls, etc., 1935-9, 1946-7 [88]’, Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, B1/54(1).
[8] Llythyr gan Miss Olwen Evans (Llangynwyd) i David Samways, 8 Mai 1936, a ddarganfuwyd yn ‘League of Nations Union and United Nations Association Records: Daffodil Days-letters, flag days, carnivals, stalls, etc., 1935-9, 1946-7 [88]’, Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, B1/54(2).
[9] Llythyr gan Robert Jones (Wrecsam) i David Samways, 9 Medi 1936, a ddarganfuwyd yn ‘League of Nations Union and United Nations Association Records: Daffodil Days-letters, flag days, carnivals, stalls, etc., 1935-9, 1946-7 [88]’, Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, B1/54(2).
[10] Gohebiaeth gyda Phrif Gwnstabl Sir Forgannwg, 30 Medi 1935, a ddarganfuwyd yn ‘League of Nations Union and United Nations Association Records: Daffodil Days-letters, flag days, carnivals, stalls, etc., 1935-9, 1946-7 [88]’, Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, B1/54(1).
Adroddiad ‘Glamorgan Daffodil Days’ (1935), a ddarganfuwyd yn ‘League of Nations Union and United Nations Association Records: Daffodil Days-letters, flag days, carnivals, stalls, etc., 1935-9, 1946-7 [88]’, Aberystwyth, Lly
[12] Llythyr i James Brown (Llanharran) i David Samways, 24 Medi 1935, a ddarganfuwyd yn ‘League of Nations Union and United Nations Association Records: Daffodil Days-letters, flag days, carnivals, stalls, etc., 1935-9, 1946-7 [88]’, Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, B1/54(1).
[13] Er enghraifft, Llythyr gan Bryn Davies (Pencader) i David Samways, 23 Mehefin 1936, a ddarganfuwyd yn ‘League of Nations Union and United Nations Association Records: Daffodil Days-letters, flag days, carnivals, stalls, etc., 1935-9, 1946-7 [88]’, Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, B1/54(4).