Yn 1923 – ar ôl i erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf ysgogi cenhedlaeth gyfan yn erbyn gwrthdaro – trefnodd merched o Gymru ymgyrch heb ei hail dros heddwch rhyngwladol. Arwyddodd 390,296 o ferched ddeiseb drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (a nodwyd yn y wasg i fod dros 7 milltir o hyd), yn galw ar America i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd newydd – yn galw am ‘Gyfraith nid Rhyfel’. Dyma hanes yr em hon o gasgliadau archif Teml Heddwch ac Iechyd Cymru.
Deiseb Merched dros Heddwch Cymru i America yw un o’r straeon mwyaf ysbrydoledig sydd wedi dod i’r amlwg drwy’r rhaglen ‘Cymru dros Heddwch’a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri dros gyfnod canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf 2014-19. Dan arweiniad Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol, grwpiau cymunedol a channoedd o wirfoddlowyr, archwiliodd Cymru dros Heddwch sut, yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, yr oedd pobl wedi cyfrannu at yr ymgyrch dros heddwch: gan greu ‘stori genedlaethol’ am dreftadaeth heddwch gyfoethog Cymru. Wrth edrych i’r dyfodol, gan weithio ochr yn ochr â’r Academi Heddwch, bydd 2023-24 yn nodi canmlwyddiant ymgyrch Deiseb Merched dros Heddwch – cyfle i ddathlu a myfyrio ar rôl menywod Cymru fel hyrwyddwyr heddwch y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Cynnwys
- Hanes yr ‘Ailddarganfod’
- Merched, Rhyfel a Heddwch, 2017-20
- Stori’r Ymgyrch Deiseb Heddwch 1923
- Datganiad Heddwch
- Dirprwyaeth Heddwch Cymru – America
- Dyddiadur Annie
- Dyddiadur AnnieChwefror-Mawrth 1924: 7.1 Llundain – 7.2 Lerpwl – 7.3 Efrog Newydd – 7.4 Washington – 7.5 ‘Taith Heddwch’ o amgylch yr Unol Daleithiau – 7.6 Efrog Newydd – 7.7 Nodiadau
- Effaith Deiseb Heddwch y Merched – America
- Effaith Deiseb Heddwch y Merched – Cymru
- Canmlwyddiant Deiseb Merched dros Heddwch, 2023-24
Cysylltiadau
- Hafan Deiseb Heddwch y Merched a Threftadaeth y Deml Heddwch, WCIA
- Gweler Casgliad o luniau Deiseb Merched dros Heddwch Cymru ar Casgliad y Werin
- Gweler Casgliad o luniau ‘Merched, Rhyfel a Heddwch’ ar Flickr.
- Gweler y Gofeb wedi’i digideiddio yn Casgliad y Werin Cymru
- Darllenwch y testun llawn am apêl Cofeb y Merched .
- Gweler Pwyllgorau Trefnu Sirol o ferched a gydlynodd ymgyrch y ddeiseb heddwch yng Nghymru
- Gweler tudalennau wedi’u digideiddio o “Ddyddiadur Annie” – dyddiadur bach du Mrs Peter Hughes-Griffiths‘, a arweiniodd ddirprwyaeth heddwch y Merched i America yn 1924
- Gweler y Trawsgrifiad o “Ddyddiadur Annie” (gwaith ar y gweill – mae WCIA yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gwblhau’r gwaith hwn, gweler isod)
- Gweler Toriadau Papur Newydd o “Daith Heddwch Merched Cymru” o amgylch America, 1924
- Beth wnaethon nhw nesaf? Gweler Archifau’r Deml o Bwyllgor Merched WLNU (Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru)
- Gwybodaeth bellach am hanes Cynghrair y Cenhedloedd.
1. Hanes yr ‘Ailddarganfod’
Yn 2014, yn ystod y gwaith ymchwil o sefydlu’r prosiect ‘Cymru dros Heddwch’, roedd Prif Weithredwr WCIA Martin Pollard (sydd erbyn hyn yn Brif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru) yn archwilio hen gyfrolau yn llyfrgell Teml Heddwch ac Iechyd Cymru. Darganfyddodd rwymiad o Ledr Moroco ag arno arysgrif haen aur cyfareddol tu hwnt:
YR APÊL: ODDIWRTH FERCHED CYMRU A MYNWY AT FERCHED UNOL DALEITHIAU YR AMERICA
THE MEMORIAL FROM WALES SIGNED BY 390,296 WOMEN IN WALES AND MONMOUTHSHIRE,
TO THE WOMEN OF THE UNITED STATES OF AMERICA
Apêl Ferched Cymru 1923-24
Y tu mewn, ceir dim ond ychydig dudalennau o femrwn felwm wedi ei oliwio mewn llawysgrif arddull canoloesol o Inc India gyda datganiad o Heddwch ac Undod rhwng merched Cymru ac America – yn galw ar America i ymuno ac ymgymryd â rôl ryngwladol-flaenllaw yng Nghynghrair y Cenhedloedd i ffurfio ‘heddwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’ yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofiai Martin Pollard:
“It was a breathtaking moment… a Welsh peacebuilding movement of a scale beyond any in living memory. How could such a story have been forgotten to history? How was such a record forgotten in plain sight? Where were the signatures… and were they still around now? How was such a campaign coordinated? Who by… who to? What happened… what happened as a result? How could we discover the story behind the binding?”
Cynorthwyodd gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ledled Cymru yn y gwaith o ‘gasglu darnau’ yr hanes hwn am heddwch; stori am weithredu gan fenywod Cymru ar y llwyfan rhyngwaldol er mwyn creu byd gwell o lwch y Rhyfel Byd Cyntaf. Dylid ystyiried ymgyrch o’r fath yng nghyd-destun dechrau’r 1920au: yr oedd yr hawl i bleidleisio wedi’i ymestyn i gynnwys ‘menywod ag eiddo’ ym 1918, ond heb gyrraedd mwyafrif menywod Cymru tan 1928. Cynrychiola Deiseb Heddwch y Merched fudiad arwyddocaol a beiddgar i hyrwyddo cydraddoldeb drwy ddyrchafu lleisiau menywod i’r llwyfan rhyngwladol.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016 lansiodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ‘gais am hanesion cudd’ gyda’r erthygl ‘Cofio hyrwyddwyr heddwch benywaidd Cymru’/ ‘Remembering Wales’ women peace builders’. Datgelodd gwirfoddolwyr ddeunyddiau o fewn Archifau’r Deml Heddwch, o fewn archifau Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol, a hyd yn oed o fewn hen ffilm newyddion gan Path o Bererindod Heddwch Merched Gogledd Cymru ym 1926. Trwy gyfrwng blogiau, prosiectau lleol ac ymchwil gan fyfyrwyr, daethpwyd â’r digwyddiadau rhwng y ddau ryfel byd ynghyd i greu ‘llinell amser’ o Weithredu dros Heddwch gan Ferched yn ystod y cyfnod hwnnw (1918-39).
2. Merched, Rhyfel a Heddwch, 2017
Yn 2017, ymunodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru gyda ‘r Ffotonewyddiadurwr Rhyngwladol Lee Karen Stow i lwyfannu Arddangosfa ‘Merched, Rhyfel a Heddwch/ Women War & Peace’ Exhibition – a ddadorchuddiwyd yn y Senedd ym mis Awst 2017, i gyd-fynd â’r cerfluniau o Lundain, ‘Poppies: Weeping Window’. Nod yr arddangosfa oedd rhoi sylw blaenllaw yn y coffâd i straeon menywod drwy gyfrwng portreadau a chofnodion pwerus Lee (gan gynnwys cyfweliadau gyda nifer o weithredwyr heddwch Cymru heddiw); ac i amlygu hanesion cudd menywod fel hyrwyddwyr heddwch yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf – gan roi sylw canolog i rwymiad a datganiad Deiseb y Merched dros Heddwch yn y Deml Heddwch. Ymwelodd oddeutu 80,000 o bobl â’r arddangosfa yn ystod Haf 2017.
- Gweler Lansiad Arddangosfa Merched, Rhyfel a Heddwch
- Gweler Lansiad Pabis Caerdydd, 7 Awst 2017
Mae arddangosfa ‘Merched, Rhyfel a Heddwch’ (ynghyd â’r ddeiseb) wedi’u harddangos yn:
- Caffi Croesor, Porthmadog – ochr yn ochr â lansiad ‘Heddwch Nain Mamgu’
- Amgueddfa Lloyd George, Criccieth
- Canolfan Ddinesig Abertawe – ochr yn ochr â rhaglen ‘Nawr yr Arwr’ 14-18NOW
- Storiel, Bangor – ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019
- Y Deml Heddwch, Caerdydd – ar gyfer coffáu pedwar ugain mlynedd ers ei sefydlu (Temple80), a Chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf (WW100)
- Mae’r arddangosfa ar gael i’w benthyg o hyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
3. Stori’r Ymgyrch Deiseb Heddwch 1923
Mae ymchwilio i hanes ymgyrch Deiseb Heddwch y Merched 1923 wedi bod yn helfa drysor archifol ynddo’i hun, gyda gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol ac ymchwilwyr o bob cwr o Gymru ynghlwm wrtho.
Tarddiad y Syniad – 1922
Mae 3 ffynhonnell yn cofnodi tarddiad syniad gwreiddiol Deiseb Heddwch y Merched:
- Adrodddaiau Blynyddol Undeb Cynghrair Y Cenhedloedd Cymru (a ddigideiddiwyd yn ddiweddar gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru)
- Llythyr dyddiedig Gorffennaf 3ydd 1922 gan y Parch. Gwilym Davies, Trefnydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, at yr Arglwydd David Davies, Cadeirydd WLoNU, yn cynnig y syniad;
- ac erthygl yng nghylchgrawn ‘Welsh Outlook’ Tachwedd 1923, sy’n cofnodi:
“Trafodwyd y syniad o gychwyn mudiad heddwch ymysg merched Cymru am y tro cyntaf yn Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ym mis Awst 1922”
Cyfarfu “Cynhadledd Genedlaethol o Ferched” yn Aberystwyth ar Fai 23 1923 i gwblhau’r cynlluniau ar gyfer ymgyrch Cymru-gyfan, gan benodi dwy drefnydd: Mrs Huw Pritchard o Bwllheli (dros Ogledd Cymru a Sir Aberteifi) a Mrs E. E. Poole o Gaerdydd (dros Dde Cymru a Sir Fynwy). Apeliodd Mrs Peter Hughes Griffiths a’r Fonesig Llewellyn, fel Trysoryddion Anrhydeddus, am arian a chafwyd rhoddion tuag at gostau’r ymgyrch genedlaethol.
Cyd-drefnwyd yr ymgyrch yn ofalus drwy gyfrwng pwyllgorau trefnu sirol, gyda menywod (a rhai dynion) yn cynrychioli pob cymuned (o faint sylweddol ym mhob sir) yng Nghymru, gan arwain ymdrechion y cymunedau i gasglu llofnodion; eu bwydo i’r trefnwyr rhanbarthol ac i bencadlys newydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yng Nghaerdydd drwy ganghennau Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a’r cydlynwyr Sirol.
- Gweler Pwyllgorau Trefnu Sirol o ferched a gydlynodd ymgyrch y ddeiseb heddwch yng Nghymru.
Mae’r dull cyfranogol cenedlaethol hwn yn ymestyn y ffiniau ar gyfer haenau o ‘hanesion’, sy’n ‘gudd’ hyd yma, ynghylch sut y cyflawnwyd yr ymgyrch ar lefel leol, o Sir Fôn i Sir Fynwy a Dinbych y Pysgod.
Yn archifau Llyfrgell y Deml Heddwch erys copïau o daflenni cofrestru oedd wedi cael eu dosbarthu i aelwydydd; yn ogystal â chopïau o Ddatganiad Cofeb Deiseb Heddwch y Merched i’r llofnodwyr eu cadw a’u harddangos yn falch yn eu cartrefi, neu eu plygu yn eu papurau.
Mae Blwyddlyfr Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru 1924 yn cofnodi cynnydd yr ymgyrch yng Nghymru ac yn America (delweddau 10-12, tudalennau llawlyfr 16-20). Llofnodwyd y ddeiseb gan gyfanswm o 390,296 o ferched yng Nghymru a Sir Fynwy, a gynrychiolai 30% o’r boblogaeth fenywaidd (cyfanswm poblogaeth Cymru yng nghyfrifiad 1921 oedd 2,656,000).
4. Datganiad Heddwch
Mae’r Datganiad, sydd wedi’i gynnwys o fewn y Ddeiseb Goffa, yn sôn am y cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru ac America – ac apeliadau gan fenywod un genedl falch i’r llall, i “drosglwyddo i’r cenedlaethau sy’n ein dilyn dreftadaeth glodwiw o fyd heb ryfel.” Ceir dolenni ar gyfer cyfeiriadau o fewn y datganiad yn y testun a atgynhyrchwyd ar y dudalen nesaf.
“We, women of Wales, are proud to recall that there is between our little principality and the great country of the United States of America, a close historical tie in the quest for world peace.
It was an American citizen, Elihu Burritt, who inspired our fellow countryman Henry Richard to organise a series of international peace congresses in the middle years of the 19th century.
According to the plan of Elihu Burritt, the first Peace Conference was to have been held in Paris in the summer of 1848. So anxious was he about the task of international reconciliation that he proceeded alone to Paris in order to make the preliminary arrangements. He failed in Paris.
Then accompanied by Henry Richard, he went to Brussels, and a memorable conference was held here in September 1848, attended by 200 delegates from America and Great Britain. This, the work of building the ‘Temple of Peace’ was begun, through the united efforts of the American from Connecticut and the Welshman from Tregaron.
When, 66 years later, in 1914, the temple of peace was as it seemed to us shattered to its foundations, America was always in our thought; and it is no exaggeration to say that the thrill of joy was felt in many of our homes when the United States of America decided to enter the World War and make common sacrifice with us.
It is the recollection of the comradeship between an American citizen and a son of Wales in the course of peace, together with the knowledge of our joint sacrifice in the agony of war, that emboldens us to address to you this appeal.
We are not actuated by any political motives. We speak simply as the women of Wales – the daughters of a nation whose glory it has been to cherish no hatred towards any land or people, and whose desire is for the coming on earth of the reign of fellowship and goodwill.
We long for the day when the affairs of Nations shall be subject no longer to the verdict of the sword. And we feel that the dawn of the peace which shall endure would be hastened were it possible for America to take her place in the Council of the league of nations.
How that is to be done we do not know; but we do know that upon the two great peoples who did so much to decide the fortune of the war, rests largely the burden of winning that lasting peace without which all that is dear to us must perish.
We rejoice in the measure of cooperation which has already been achieved by America and Britain with other nations at Washington in the limitation of naval armaments, and at Geneva in the humanitarian measures to put an end to the detestable traffic in women and children; and also in the maturing of plans for combating the trade in opium and other noxious drugs.
And we hail with delight the movement now on foot to secure for America, with her noble traditions, direct participation in the functions of the Permanent Court of International Justice.
The future is big with hope if we as the women of this generation do our part. To us has come an opportunity as real as the responsibility is grave.
We would, therefore, appeal to you, women of the United States of America; “with malice towards none, with charity for all, with firmness in the right as God gives us to see the right,”
to aid in the effort to hand down to the generations which come after us, the proud heritage of a warless world.”
Celf Heddwch
Hyd yma, nid yw’n hysbys a oedd unrhyw unigolyn/unigolion penodol yn gyfrifol am lunio cynnwys ysgrifenedig y datganiad heddwch ei hun; er bod y goliwiad a’r galigraffeg ganoloesol eu eu harddull wedi’u creu gan Cecily West (1897-1977), merch yr arlunydd Joseph Walter West o Northwood, Middlesex.
Mae bron yn sicr fod y Gofeb ei hun – y rhwymiad lledr hardd a’r tudalennau felwm gyda goliwio yn arddull yr adfywiad canoloesol – wedi cael ei chynhyrchu yng Ngwasg Gregynog, oedd newydd ei sefydlu ac a agorwyd yn 1922 gan y chwiorydd Davies o Landinam, Gwendoline a Margaret. Eu brawd, David Davies, oedd sylfaenydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a fyddai hefyd yn mynd ymlaen i sylfaenu’r Deml Heddwch. Adroddir eu hanes anhygoel yng nghyfrol hyfryd Trevor Fishlock, A Gift of Sunlight – hanes y chwiorydd Davies o Gregynog gan Wasg Gomer. Mae Cofeb Heddwch y Merched mewn arddull a deunyddiau yr un fath â rhai eraill a gynhyrchwyd gan Wasg Gregynog.
Dyluniwyd cist dderw Gymreig fawr gan Mr J. A. Hallam (isod – engrafiad o Adoddiad Blynyddol Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, 1926) , i gludo’r nifer enfawr o ffurflenni llofnodi i America, gyda’r bwriad o gyflwyno’r gist i’r Amgueddfa Genedlaethol yn Washington – sy’n fwy adnabyddus ar draws y byd erbyn heddiw fel y Sefydliad Smithsonian.
Yn dilyn gohebiaeth rhwng WCIA a’r Smithsonian yn 2016, cadarnhawyd fod y gist yn dal ymhlith y casgliadau yno, ac yn 2018, cafodd Jill Evans ASE gyfle i ymweld â’r Smithsonian fel rhan o ddirprwyaeth wleidyddol, a gweld y taflenni llofnodi oedd yn dal yn y gist.
Yn ystod 2019-20, bu gohebu parhaus rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac amgueddfa’r Smithsonian – a hynny gyda chefnogaeth grŵp prosiect a gydlynwyd gan yr Academi Heddwch (gan gynnwys Canolfan Materion Rhyngwaldol Cymru, ‘Heddwch Nain,’ Archif Menywod Cymru ac eraill) – er mwyn archwilio’r posibilrwydd o drefnu Prosiect trawswladol Cymru-America i nodi canmlwyddiant Ymgyrch Deiseb Heddwch y Merched yn 2023-24: gan ddigideiddio llofnodion y ddeiseb, yn y gobaith o aduno’r gist a’r llofnodion a gedwir yn America gyda’r Rhwymiad Coffa a gedwir yn Neml Heddwch Cymru.
5. Dirprwyaeth Heddwch Cymru – America
“Mrs ‘Peter Hughes Griffiths’, cadeirydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (WLNU)
Gan ymddangos yn rheolaidd mewn cofnodion a gohebiaeth yn ymwneud â chreu’r ddeiseb, Mrs Hughes-Griffiths oedd Cadeirydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yng nghanol y 1920au. Yn ôl confensiwn y 1920au fodd bynnag, cyfeirir ati mewn cofnodion swyddogol gan enw ei gŵr, y Parch. Peter Hughes Griffiths (1871-1937), oedd yn Weinidog Methodistaidd Calfinaidd uchel ei barch o Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod rhaglen Ben blwydd y Deml yn 80 ym mis Tachwedd 2018, dywedodd Martin Pollard, awdur a phensaer gwreiddiol cais prosiect Cymru dros Heddwch, mai Mrs Hughes Griffiths y byddai ef yn ei henwebu fel ‘Adeiladwr Heddwch Mwyaf Ysbrydoledig Cymru’:
“To choose one individual story of Wales’ peace builders that really stands out (from the hundreds gathered by Wales for Peace), I would have to choose Mrs Peter Hughes Griffiths. That she is known to history only by her husband’s name (so far), rather than as a woman of clearly exceptional leadership and inspiration to thousands – a woman who was Chairman of the Welsh League of Nations Union, and oversaw the organisation of 390,296 women in signing the Peace Petition to America – is not only astonishing today, but a reminder of the journey that Welsh women have been led towards championing equality and having a voice – not just on equality issues, but on international affairs.” Martin Pollard, (yn gwneud sylwadau cyn i Ddyddiadur Annie gael ei ddarganfod).
Wedi’i chrybwyll mewn nifer o frasluniau bywgraffyddol, a chyda thros 71 o gyfeiriadau ac 20 o restrau pwnc yn Archifdy LlGC, erbyn heddiw ymddengys bod Annie Jane Hughes Griffiths yn llawn haeddu ei bywgraffiad ei hun!
Wedi’i geni yn Annie Jane Davies yn 1873 yn Llangeitho, Sir Gaerfyrddin, bu’n weithgar ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru o oedran cynnar. Yn 1898 fe briododd â Thomas Edward Ellis (1859-99) o’r Bala, yr AS Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd (1886-99), un o’r rhai cyntaf i gynnig Cynulliad datganoledig deddfwriaethol i Gymru, a Phrif Chwip y Blaid Ryddfrydol (1894-95) yn ystod y cyfnod pontio rhwng Gladstone a Rosebery (gweler papurau T.E.Ellis, LlGC).
Fodd bynnag, roedd iechyd Tom Ellis yn fregus, ar ôl datblygu deiffoid ar daith i’r Aifft ym 1890, ac yn drasig bu farw flwyddyn ar ôl iddynt briodi – dim ond 40 oed – yn Cannes, Ffrainc; 8 mis cyn i’w mab gael ei eni. Fe’i enwyd yn Tom, ar ôl ei dad; ac fe’i gelwid hithau yn Annie Jane Ellis (neu Mrs Thomas Edward Ellis) yn y cyfnod rhwng 1898 ac 1916.
Roedd ganddynt un mab, Thomas Iorwerth Ellis (1899-1970), a ddaeth yn addysgwr amlwg, yn awdur ac yn ysgrifennydd Undeb Cymru Fydd rhwng 1943-67.
Magodd Annie ei mab Tom yn fam sengl weddw, tan ar 24 Hydref 1916 ailbriododd y Parchedig Peter Hughes Griffiths (1871-1937) o Ferryside, Sir Gaerfyrddin, a Geinidog Methodistiaidd yn Charing Cross, Llundain.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Annie Hughes-Griffiths yn ymwneud yn helaeth ag ymdrechion adeiladu heddwch rhyngwladol trwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (a sefydlwyd yn 1922), gan ddod yn Gadeirydd yr undeb yn 1923 ac yn Llywydd Pwyllgor Merched WLoNU.
O fis Mai 1923, aeth ati i arwain ymgyrch Cymru-gyfan, gan gydlynu’r Ddeiseb Merched dros Heddwch Cymru a’r Gofeb i America. Ym mis Mawrth 1924, fe arweiniodd ‘ddirprwyaeth heddwch’ o dair dynes o Gymru i America: Mrs Annie-Jane Hughes Griffiths, Mrs Mary Ellis a Miss Eluned Prys.
Hyd at 2020, mae llawer o hanes Deiseb Merched Cymru dros Heddwch wedi canolbwyntio ar stori Annie Hughes-Griffiths, yn bennaf o ddarganfod ei dyddiadur anhygoel – perspectif unigryw a phersonol ar Daith y Merched Drwy America. Fodd bynnag, mae cyfle mawr o hyd i archwilio safbwyntiau aelodau eraill y ddirprwyaeth o fenywod:
Mary Ellis
Yn wreiddiol o Ddolgellau yng Ngwynedd, Mrs Mary Elizabeth Ellis (sy’n ymddangos o archifau Annie i fod yn gyfaill agos hirsefydlog), oedd yr ail fenyw i gael ei phenodi yn Arolygydd Ysgolion yng Nghymru, ac roedd yn addysgwraig flaenllaw fyd-eang. Heblaw am y Ddeiseb Heddwch, mae Mary yn ymddangos mewn nifer o gofnodion o weithgareddau Undeb Cynghrair y Cenhedlaoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel – roedd yn rhyng-genedlaetholwraig yn ei rhinwedd ei hun.
Yn ystod 2020 daeth ymchwil pellach i’r amlwg sy’n nodi mai Mary mewn gwirionedd a drefnodd llawer o’r daith i America ar gyfer ymweliad Dirprwyaeth Heddwch Cymru – wedi teithio yno ymlaen llaw ym mis Rhagfyr 1923 i greu cysylltiadau a rhoi trefniadau ar waith. Yn dilyn cyflwyno’r ddeiseb yn Washington, credir iddi ddychwelyd i Gymru i ymgymryd â’i hymrwymiadau o ran ei gwaith addysgol.
Ar Ionawr 24 1942, priododd Mary â Gwilym Davies – Cyfarwyddwr Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (a sylfaenydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru). Er gwaethaf yr Ail Ryfel Byd a chyfyngiadau’r oes, rhoddywd caniatâd iddi briodi, a chadwodd ei swydd tan y flwyddyn 1943. Buont yn byw yn 8 Marine Terrace yn Aberystwyth. Yn dilyn marwolaeth Gwilym ym 1955, parhaodd Mary i hyrwyddo’u hachosion.
Elined Prys (1895-1983)
Gwneir ymchwil pellach i waith addysgol Mary gan Sian Rhiannon Williams o Brifysgol Mertopolitan Caerdydd / Archif Menywod Cymru
Yn wreiddiol o Drebecca, Talgarth yn Sir Faesyfed, mae Miss Elined Prys – a gaiff ei hadnabod yn well fel Elined Prys Kotschnig (mae’r sillafiad yn amrywio mewn cofnodion gan gynnwys Eluned / Elined, Prys / Pryce ac ambell gamsillafiad o Kotschnig) yn amlwg yn nyddiadur Annie am iddi briodi tua diwedd eu taith i America gyda Deiseb y Merched Dros Heddwch… a hynny “ag Iarll o Awstria!”
Ar ôl graddio mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, galwyd arni ym 1920 i arwain gwaith rhyddhad Mudiad Cristnogol Myfyrwyr y Byd, World Student Christian Movement, gyda ffoaduriaid o’r Rhyfel Byd Cyntaf, lle cyfarfu â Walter Kotschnig yn Fienna. Yr oedd ef ‘wedi gwella o dderbyn gofal’ ar gyfer y diciâu gan wirfoddolwyr Cynghrair y Cenhedloedd yn yr Iseldiroedd. Aeth Walter Maria Kotschnig yn ei flaen i fod yn un o sylfaenwyr y Cenhedloedd Unedig yn Dumbarton Oaks ym 1945, ac yn Ddirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol yr Unol Daleithiau.
Yn dilyn deiseb heddwch y merched, ymgartrefodd y ddau yng Ngenefa yn y flwyddyn 1924, cyn allfudo i’r Unol Daleithiau (Massachussets) ym 1936. Roedd Eluned yn Grynwr amlwg ac yn Seicolegydd blaenllaw, roedd yn gydnabod i Carl Jung, ac aeth yn ei blaen i fod yn ddylanwadol ym maes astudiaethau seicoleg a chrefydd. Sefydlodd Friends Conference on Religion and Psychology sy’n parhau i fod yn weithredol hyd heddiw.
6. Dyddiadur Annie
Ym mis Ebrill 2019, roedd Pennaeth Cymru dros Heddwch, Craig Owen, yn datblygu adnodd cyfeiriadau ar gyfer Archifau Heddwch a gedwir yn Llyfrgell Cenedlaethol Cymru pan ddaeth ar draws gyfeiriad at ‘Ddyddiadur Americanaidd’ Mrs Ellis , gyda’r tag “Cymdeithasau Heddwch”, a gedwir yn archifau “Papurau T I Ellis” (Thomas Iorwerth Ellis, 1899-1970, mab Annie-Jane Hughes Griffiths).
Yn ddiddorol iawn, mae’r rhestr yn crynhoi…
SCOPE AND CONTENT: “Journal, February-March 1924, of Annie J. Hughes-Griffiths, recording her trip to America as part of the Welsh Women’s Peace Memorial, including the outward and return voyages. The journal contains references to Leila Mégane, including the part played by Hughes-Griffiths in Megane’s wedding to T. Osborne Roberts on 21 March 1924.”
Archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Hyd yn hyn, roedd ffynonellau a gwybodaeth ynghylch tarddiadau a threfniant Deiseb y Merched dros Heddwch wedi bod yn gyfyngedig iawn – er enghraifft, hyd yma dim ond drwy enw ei gŵr yr oedd modd darganfod ‘Mrs Peter Hughes Griffiths’ – felly cydnabyddwyd yn gyflym iawn werth y dyddiadur hwn fel ffynhonnell wreiddiol.
Cafodd y tudalennau eu digideiddio gyda’r nod o drawsgrifio a datgelu stori’r ymweliad ag America – er mwyn dod i ddeall mwy am y ddeiseb ei hun, a’r ymgyrch y tu ôl iddi. Apeliodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatgelu ‘stori Dyddiadur Annie’.
‘Clwb Llyfrau’ yn cysylltu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol
Ym Mehefin 2019, cynhaliwyd noson ‘Clwb Darllen’ yn y Deml Heddwch, ag iddo ‘genhadaeth hanesyddol’. Cytunodd pob un o’r cyfranogwyr i drawsgrifio pennod, dethol uchafbwyntiau o adroddiadau Annie, ac ymchwilio’n gryno i gyfeiriadau hanesyddol y gallent ddod o hyd iddynt ar-lein. Wrth i bob un ohonynt rannu adran, datgelwyd hanes Annie – yn deimladwy yn ei “llais” ei hun gan bod y grŵp cyfan yn darllen y geiriau yr oedd hi wedi’u hysgrifennu, ac yn profi’r daith gyda hi.
Gan ddod at ei gilydd, rhannodd pob gwirfoddolwr ‘ei r(h)an’ a datgelwyd stori taith Annie drwy America – a hynny yn llais Annie ei hun, megis profi’r daith gyda hi. Nodwyd rhai ‘tudalennau coll’ ac fe’u hail-ddigideiddiwyd fel dilyniant
Ffilmiwyd y sesiwn gan Tracy Pallant ac Amy Peckham o Celfyddydau Cymunedol Cwm a Bro, gan greu clip fideo byr ym mis Awst o “Hanes Annie”.
Yn ogystal â hyn, defnyddiodd Ysgol Gynradd Alaw y Rhondda Cynon Taf y dyddiadur yn sail i brosiect trawsgwricwlaidd, ‘Ysgolion Heddwch’, a ffilimwyd hefyd er mwyn ysbrydoli ysgolion eraill.
Mae angen diolch yn fawr i gyfranogwyr y ‘Tîm Trawsgrifio’ / y Clwb Llyfrau a wirfoddolodd oriau lawer dros gyfnod byr i drawsgrifio a rhannu Dyddiadur Annie:
- Craig Owen, WCIA
- Ffion Fielding, Amgueddfa Cymru
- Fi Fenton, Amgueddfa Cymru
- Martin Pollard, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
- Jane Harries, WCIA
- Katy Watson, Ysgol Bod Alaw
- Jenny Fletcher, Hub Cymru Africa
- Stuart Booker, Prifysgol Abertawe
- Meinir Harries, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Tracy Pallant, Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro
- Amy Peckham, Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro
“It was quite emotional journey… with not already knowing each other’s sections, Annie’s journey literally unfolded for us like a live re-enactment of her own experiences. It was a lot of fun – her hugely understated writing style, observations and insights into the norms of the time, were captivating. She might reference “a lovely meal, with a pleasant group of people listening supportively”; and then you’d find via other sources she’d actually addressed a crowd of 500 American society leaders for over an hour. Then on a following page, a eulogy to the American Cafeteria. Annie’s Diary is a very personal insight into a time of huge hope and change.”
Ffion Fielding, National Museum of Wales
Ffynonellau ar ffurf Ddigidol
- Tudalennau wedi’u digideiddio o “Ddyddiadur Annie” – dyddiadur bach du Mrs Peter Hughes-Griffiths‘, a arweiniodd ddirprwyaeth heddwch y Merched i America yn 1924 (Flickr)
- Trawsgrifiad o “Ddyddiadur Annie” (Diweddariad Ionawr 2021)
- Gwyliwch ffilm fer ‘Dyddiadur Annie: Stori’r Deiseb Merched dros Heddwch i America’
Y Daith o Ailddarganfod
Mae WCIA yn ddiolchgar dros ben i Tracy Pallant ac Amy Peckham, o Gelfyddydau Cymunedol Cwm a Bro / Oasis, am greu ffilm fer am brofiad ein gwirfoddolwyr o ddatgelu’r hanes a geir yn Nyddiadur Annie, ac y gellir ei gweld ar YouTube.
Mae’r athrawes Katy Watson wedi defnyddio’r dyddiadur i ysbrydoli plant yn Ysgol Gynradd Alaw, y Rhondda, trwy brosiectau trawsgwricwlaidd ar Hanes, Daearyddiaeth, Saesneg a Mathemateg, fel peilot ar gyfer Cynllun Ysgolion Heddwch WCIA. Gwrandewch ar sut y gall Hanes Annie ddal i ysbrydoli ein ‘Heddychwyr y Dyfodol’ heddiw… 100 mlynedd yn ddiweddarach!
7. Dyddiadur Annie: Chwefror-Mawrth 1924
7.1 ‘Y Ffarweliad’ yn Llundain, 5 Chwefror
Mrs. Boyd Robson presented me with a beautiful bouquet of yellow daffodils tied with yellow shot green ribbon…
“A Saloon Carriage had been reserved for us through the extreme kindness of Mr Glynnne Roberts of Euston Station, & this was no ordinary saloon, but a Drawing Room with comfortable easy chairs, table…Reporters were busy taking own notes, and several photos were taken by the Press Association. Mr. Goronwy Owen spoke a few words, summarising the gesture which was being dissipated between Wales and America, and wishing us God speed. I said a few words in reply, and fried thank them all adequately and fittingly. We then got aboard the train.
(research suggests he may have procured them a carriage from the stock of the Royal Train, by the then newly formed London Midland and Scottish Railway).
Mae Annie hefyd yn rhestru llawer o ‘hoelion wyth’ y gymdeithas Gymreig ac arweinwyr gwleidyddol a ddaeth i Orsaf Euston i ddymuno’n dda i’r ddirprwyaeth ar eu taith.
“Mrs Boyd Robson presented me with a beautiful bouquet of yellow daffodils tied with yellow shot green ribbon…”
(Daeth y cennin Pedr prydferth hyn yn symbol o ymddangosiadau Annie ar y daith, gan oroesi’r holl ffordd i Washington ‘mewn cyflwr perffaith’!)
7.2 Y Fordaith i America
(In Liverpool) we got on the boat, the SS Cedric, And a representative of the White Star Line company made himself known to me and told me that the oak case containing the 390,296 signatures was safely in the hold. Miss Prys, Mr Davis and myself were photographed several times.”
Their return voyage to Liverpool incidentally would be on the RMS Olympic – sister ship to Titanic, which had sunk only 12 years earlier.
Leila Megane and her fiance Osborne Roberts also going on this boat – she goes 1st class, he 2nd class… the line between 1st and 2nd is severely observed on the boat. (Leila Megane was a Welsh opera singer then at the height of her career; Annie would later play a role at their wedding).
All our friends, our ‘farewell friends’, had to leave the boat about 3:15 and we left soon after 3:30 p.m. It was a dull day; but not wet. We steamed down the river and soon had tea. I found at the purser’s office about 15 telegrams, and just as many letters wishing me luck.
Mae Annie yn mynd ymlaen i ddisgrifio’r daith ar draws yr Iwerydd, o Chwefror yr 2il hyd at Chwefror yr 11eg – nad oedd yn fordaith esmwyth.
“Felt sick and needy and did not go on deck at all. Heavy rolling of boat. Took no meals in saloon, just sat about and slept and read novels. Had very little zest for anything“. However, by 10th Feb, “Had (Sunday) service in 1st Class Saloon. Leila Megane sang ‘O Fryniau Caersalem’ as a solo, & a few of us sang it over again as a chorus. After the service was over, a gentleman came & asked us if we were a Welsh choir on tour in the States… very tickled at this as our singing was truly atrocious.”
Ychydig a wyddai Annie ar y pryd y byddai, ymhen deufis, yn hebrwng Leila Megane yn ei phriodas ei hun ag Osborne Roberts! Gweler tudalen 18.
7.3 Cyrraedd Efrog Newydd: Merched Cymru ac America yn Uno
“The Cedric took ten boats to push her up the river thro’ the ice’. Saw Statue of Liberty glowing in the sunlight. Bitterly cold wind, bright sunshine. Waited about until 12 – had hurried lunch. When at lunch, a press man came to me and said ‘Mrs Griffiths, I am from the press’. ‘I have nothing to say’, I said. ‘Oh!’ Said he – ‘we know your story of the Women of Wales Movement – but we want to take some photos – will you come to the top deck when you have finished?’ Agreed said I. So Elined & I trotted up to the top deck 1st class – where we found four ranks of photographers awaiting us. There we were photographed quite twenty times – in different positions… and back again to 2nd class to await the coming of the Immigration Officers.
We went on Deck & had seen Marg Ellis, Mrs Tuttle, Miss Belle Bauch & other American ladies, who had come down to meet the deputation in the Customs Shed awaiting us. Eventually they got on board and there was much hand shaking & welcoming us. The ladies all wore daffodils – I had had the daffodil bouquet (from Euston) put in cold storage when I got on the Cedric & it was beautifully fresh for our arrival in New York, so I carried it in my hand and wore my best costume and hat to greet the American ladies.
My impressions of the American women I have met today is that they are genuine & sincere in their efforts to give the Movement all the support they can. Their reception of us was so spontaneous so natural & without any of the snide and affectation of English women. They accepted us at our highest value, as Ambassadors of Peace. They did not quiz and criticise us first and ‘gradually thaw’.
Rather a blizzard when we got to New York, but better weather towards evening. After dinner we went to the Ambassador’s Hotel. The Club is very comfortable but very warm; still one gets used to the warm atmosphere & dresses accordingly.
Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi cipolwg ar ddyddiau cyntaf Annie yn Efrog Newydd, gyda chyfweliadau â’r wasg, archebu tocynnau a threfniadau teithio, cyfarfodydd a chinawau, a llawer o arsylwadau hynod ddiddorol ar eu hargraffiadau o America – megis rhyfeddod Annie o brofiad y ‘Cafeaterea’. Ar Chwefror 18fed, croesawyd y ddirprwyaeth i ginio canol dydd mawr a drefnwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Bleidlais i Ferched yn America ynghyd â 9 sefydliad (yn cynrychioli 5 miliwn o ferched America) – a fyddai’n mynd ymlaen i weithio gyda’i gilydd i ffurfio’r Gynhadledd ar Achos a Gwellhad Rhyfel gyntaf. Yno, cyflwynwyd y gist dderw yn cynnwys y 390,296 llofnod gan y ddirprwyaeth Gymreig, i ferched America:
“After the luncheon we had speeches. Mrs Ruth Morgan introduced the delegation – & I gave them an address on the links that bind Wales & America together, & our act of memorial. It seemed to be appreciated. Then we three went up to the chest which had been placed on a dais & padlocks were unlocked, & we gave up the padlocks & the memorial to Mrs Ruth Morgan. Then the chest was inspected and the first question I was asked concering it was “Oes yma enwau o Sir Feirionydd” (where are the signatories from Merioneth?). Miss Sue [?] Harvard sang ‘Gwlad y Delyn‘ & ‘Hen Wlad fy Nhadau’ & thus ended one chapter in the history of the Memorial.
“Roedd yn gynulliad gwirioneddol wefreiddiol, ar raddfa gynhwysfawr y tu hwnt i unrhyw beth y gallem fod wedi ei ddychmygu.”
Toriadau’r Wasg – Efrog Newydd 1924
7.4 Washington: Deisebu’r Arlywydd
From Penn Rail Road Station… Got on the 12.10 train for Washington – had lunch on the train – passed thro’ Baltimore, Philadelphia & other places. An un-interesting journey: Except for the two rivers that we crossed, houses all detached & wide acres of flat country partly covered by snow. Had a comfortable journey. Met at Washington station by Mrs Eastman & her car – & drove to the American Assoc of University Women’s Clubs.
Yn dilyn deuddydd yn crwydro o amgylch Washington – yn ymweld â Chofeb Lincoln, ac yn talu teyrnged i’r cyn-Arlywydd Woodrow Wilson, pensaer Cynghrair y Cenhedloedd, a fu farw ar Chwefror 3ydd 1924, bythefnos cyn eu hymweliad – ar Chwefror 21ain 1924, cyfarfu Dirprwyaeth Heddwch Merched Cymru ac America gydag Arlywydd UDA, Calvin Coolidge. Y canlynol yw adroddiad (hynod wylaidd a chynnil) Annie o’u cyfarfyddiad â’r degfed Arlywydd ar hugain:
We drove to the office of the League of Women Voters, where we were photographed. Then in charge of Mrs Morgan & Mrs Swiggelt, we all walked across to White House for an interview with President Coolidge. On entering we found the hall filled with people, reporters, photographers & others. We saw a man in charge – in plain clothes –no uniform here . . .We saw on his list of President’s Engagements for the day Feb 21st 1924: 12.15 – Mrs Hughes-Griffiths, Mrs Mary Ellis and Miss Pryce – we were shown into another room & waited there awhile with several other people, while the President’s secretary came out. Mr Sterns by name. He opened the door leading into the room where Mr Coolidge stood standing, awaiting our arrival – & we were introduced to him by Mrs Morgan.
He said words to this effect “ You are from Wales”.
I: Yes
He: And I have Welsh blood in my veins, having for an ancestor Nathaniel Davies. So you can’t get away from home.
I: We are proud to own you as a fellow countryman.
He: Thank you, I am very glad to see you.
I: Producing the copy of the Memorial & showing it to him together with photograph of oak chest. “This is the copy of the memorial we have brought over from Women of Wales to the Women of America, and the chest containing the signatures. We hope you will allow the chest to be placed in the Smithsonian Institute for all time.”
He: I will do what I can to help you. I do not see what reason there is for it not to be placed there – I was the President of the Institute.
We then left the room, after being cordially pleasantly welcomed by the President, a quiet dignified man of middle height. Straight nose with the crease in his trousers a pleasant manner and voice. We went outside the White House & were besieged by an army of photographers – 9 in all. Were taken many many times. Shots have reached us this evening which are exceedingly good.
Yn ystod y dydd yn Washington, yn dilyn y cyfarfod gyda’r Arlywydd Coolidge:
“We started for Arlington (Cemetery), a place about 4 miles from Washington, where sleep the silent hosts who died in the war for the Union. Then we drove back past the Lincoln Memorial where Eluned took some photos. From here we went to the Photographers who took our photos outside White House. I ordered some large ones & post cards.”
Bu farw’r wythfed Arlywydd ar hugain, Woodrow Wilson, a negododd Gytundeb Versailles 1918 a Phroses Heddwch Paris a ddaeth â’r Ail Ryfel Byd i ben, 18 niwrnod yn unig cyn eu hymweliad.
Thence to Washington Cathedral where we saw Woodrow Wilson’s tomb with the simple inscription: Woodrow Wilson,1856-1924.
A beautiful building in process of building – the money to be procured before continuing to build. From there back to Club lunch – where we were entertained by the alumni of Radcliffe College, the female part of Harvard University. Made a short speech after lunch, Mrs Doyle presided.
Car to Smithsonian Institute where we decided – !! – on a spot where the oak chest should be placed. Had very jolly drive – back to Club. Thence to Mr. & Mrs. La Follette’s– a Senator likely to be new President & lead new party (the US Progressive Party, 1924-34) a very nice couple.
George Washington Day– cherry flavour (cyfeiriad at ‘dartennau ceirios’, a gysylltir yn draddodiadol â’r Gwyliau Cenedlaethol sy’n dathlu pen blwydd yr Arlywydd 1af) – large crowd Senators’ ladies standing in a row receiving the said. The best part of this house was the great sympathy with Peace movement – “we are all interested in it, but we have different ways of setting about it.” Went to George Washington Anniversary meeting in Memorial Hall.
7.5 ‘Taith Heddwch’ o amgylch yr Unol Daleithiau: Mis o Ledaenu Neges Cymru, 22 Chwefror – 22 Mawrth 1924
Ar Ddydd Sadwrn, Chwefror 22ain 1924, ffarweliwyd ag Annie a’i chymdeithion o Washington ar ‘Daith Heddwch Merched Cymru’ ar draws yr Unol Daleithiau i gyd dros gyfnod o 4 wythnos.
Mrs. Ruth Morgan came to bid us goodbye, her last message being as follows:
“Mae ein mudiad, y Cyngor Cenedlaethol er mwyn Atal Rhyfel, yn ceisio gwneud un peth pendant ac yn trefnu Ymgyrch weithredol i geisio caniatâd y Senedd i gael mynediad i’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol Parhaol. Mae eich ymweliad â ni wedi ysgogi llawer iawn o ddiddordeb newydd, a bydd yn gymorth mawr wrth hybu ein hymgyrch, oherwydd mae llwyddiant ymgyrch o’r fath yn dibynnu yn gyfan gwbl ar ddiddordeb poblogaidd, ac mae eich neges i ni wedi ychwanegu’r cyffyrddiad hwnnw o ddrama sydd ei angen er mwyn ennyn y diddordeb hwnnw”
Darganfyddwch pa effaith y cafodd y ‘datganiad o fwriad’ hwn ar fudiadau Heddwch Merched America yn y pen draw, ar dudalen 26.
Chicago
Mrs. Thomas & I had been invited to meet the Deans of Women’s Colleges by Mrs. Kerr… Got to the 2nd floor where the guests, about 400 women, were assembled – but the most awful Babel of voices it has ever been my lot to hear. Prof. Merriam of Chicago University; a Dr. (Agnes) Wells, a woman of great distinction & President of the Assoc. of Women Deans, gave her report. Then Frau Schreibe gave an account of the need for brotherhood, being one of 35 members of the Reichstag 15 of which were school teachers. Then I was called upon to speak of the Memorial, did so for 15 minutes. Got home by 10.30. Very glad the ordeal was over… Mrs. Thomas said I did alright.
Colorado
Mae dyddiadur Annie, yn enwedig wrth sôn am eu taith mis o hyd o amgylch America, yn hynod ddiddorol, nid yn unig am ei sylwebaeth gymdeithasol ar fudiad rhyngwladol y merched, ymgyrch heddwch a gwleidyddiaeth y cyfnod, ond hefyd am ei harsylwadau ar yr amgylchedd naturiol, y tirluniau a’r diwylliannau.
We now got to the Land of Canyons. Most wonderfully formed rocks of bright red colour. Most wonderful formation. Sphynx like in shape, formidable in appearance. Came to quite the most well-kept station on the (rail) road… ‘Morgan’ written in white stones on the station level… We hired a car & hied us to the Ogden Canyon, a distance of 11 miles. Our drive was an exceedingly well set up. Young man in knee breeches, & in passing thro the town called at his garage for his overcoat & splendid crown & yellow check coat. We drove up through the ravine or pass or canyon, thro’ snow covered rocks & hills, with here & there the hot steam appearing from the hot water springs higher up.
Salt Lake City
Mr John James is British Vice-Consul, a native of Swansea, born in Haverfordwest… Mr James told me we ought to have been at the St David’s Day Celebrations the previous evening. He wanted to see us take our message to the women of Utah: It was arranged that we two were to go… to the Mormon Temple grounds. Soon Mr Williams a Welshman from Brechfa, Carmarthenshire – the State Senator – arrived with his wife and son, in a fine motorcar… I had to tell the W.O.W. (women of Wales’) story… We went as far as the University on the hill, where one had a most splendid view of the city beneath the clearly cut snow clad mountains, like white icing so smooth and straight in appearance – a fine mist rising from the Lake in the distance was a most impressive picture.
San Francisco
We drove on to Stanford University which stands in its own grounds of 8000 acres. The buildings are of buff sandstone and they are grouped around open courts or quadrangles and are connected by continuous open arcades of arches and pillars. The no. of students at present is about 2500 – 2000 men, and 500 women…. Mr. Salisbury Williams from the harbour commission Presided, and there was singing and recitations and speeches. I spoke for about 20 minutes, and at close of meeting met Mr. & Mrs. Dunn. Mrs. Dunn is an old Aber student from Pontypool, knew me in Aber. Has been out in S F Since August. Very homesick when I spoke to her.
Los Angeles
Almost as soon as I got into the (Gates) Hotel, a lady accosted me being anxious to have an interview with me for the Los Angeles Times. I sat and and talked with her and told her of our message, and of our visit to the Presidents Tomb in Washington. I announced that I was to speak in the evening service. The interview appeared in Monday’s paper, quite a nice article.
…through South Pasadena to 212 Brauch street. Chapel crowded. Mr. Jones’s son commenced the service very earnestly and prayerfully. Dr John Davis introduced me by questioning Sara and John Saunders, and brother john & myself. I then spoke for 40 minutes – without one note! – of our mission.
Went to office to get reservations and then drove to Hollywood. Went to West Coast Production studio, to Beverly Hills Hotel where they were shooting pictures in the garden… Then Santa Monica Ocean Park, Venice, where we went to a Chinese restaurant. Had Chow Mein and Tea in the Chinese-style. I didn’t enjoy it.
Grand Canyon / Arizona
The Grand Canyon is beyond description in formation colour and effect… We went to a Morie Lecture given by 2 brothers, who had travelled through the Canyon from Colorado River right through the Gulf of Mexico, a distance of 217 miles. We saw pictures of their wonderful experiences in 2 flat bottomed boats, and the many escapades they injured and narrow escapes they had. We went over to Hopi House (the Indian Centre), saw the Indians dance. And shook hands with the chief – who had a University training. He told us he had already 4 wives, but he was still on the market.
Rhaeadr Niagara… a Dyweddïad
Mae Dyddiadur Annie yn cynnwys dwy dudalen yn adrodd hanes y wefr o gael eu tywys o dan Raeadr Niagara trwy dwneli, ac ar gwch – cipolwg diddorol iawn ar dwristiaeth y 1920au! Ond roedd gan Annie a Mary hefyd bethau pwysig ar eu meddwl yn Niagara: rhyw bryd yn ystod eu teithiau, roedd eu cydymaith Eluned Prys (a oedd gyda nhw yn Washington) wedi cymryd llwybr tra gwahanol – gyda datblygiad diddorol tu hwnt…!
We got off the train (at Niagara) and went into the station; and began wondering what we had better do about getting in touch with Eluned Prys, who had arranged to meet us at Buffalo that day. As Buffalo was 23 miles beyond Niagara, we decided to get off there and get in touch with Eluned at Lennox Hotel Buffalo – the place arranged for our meeting (They then explore Niagara Falls).
By that evening: “She was not there…. We then sent a long wire to Eluned.” By the following lunchtime: “No sign of Eluned.” Finally, they decide to continue their onward train journey without her: “3.42pm when we left by train for Utica, leaving Georgette alone on the platform. We had a pleasant trip by train to Utica: passing through Buffalo, Rochester, Syracuse – where Miss Carver and her brother in law came to see us pass through. Miss Carver looked well and bonnie and was very cheery and told us the news of Eluned’s engagement to an Austrian Count!! She told us she intended sailing for home on April 5th.”
The diary shows they do finally succeed in reuniting with Eluned on Thursday March 20th, at the Women’s University Club in New York.
7.6 Efrog Newydd… a Phriodas
Ar ôl dychwelyd i Efrog Newydd, o Ddydd Mercher y 19eg o Fawrth 1924, gwnaethant ailgysylltu â’u cydymgyrchwyr o Gymdeithas Genedlaethol y Bleidlais i Ferched yn America
Mrs (Ruth) Morgan spoke of messages which should be sent by women of America to Women of Wales in reply to their message. These replies were (to be) provided for the Annual Meeting of the Welsh Council of the League of Nations Union – in Whit week. (view here the reply as it was published in Wales).
We had some telephone calls to see to, including one from Leila Megane, who had decided to get married the following day, and wished me to give her away! We then dressed ourselves in our evening clothes, and … went to the League of Nations Nou Panhsa Dinner at the Baltimore Hotel. I was put to sit at the speakers table between Mr Frank Emerson and Mrs James Neal. After speeches by Mrs Vanderlip, Mrs Little and Mr Levenmore, I was called up to give a 2 mins speech . It was a case of “Play up Wales”.
In the morning we went down to White Star Offices and got our tickets stamped (for the RMS Olympic).
After a very nice lunch, French looking, we four and Mr Schang, the best man, went in a taxi to the Welsh Chapel 120th Street. (Leila) Megane dressed in a covent courting costume, light fawn with felt hat to match. (Megane got the flowers meant for Eluned). Rev Jospeh Evans performed the ceremony in Welsh, and I gave the bride away. There were a few spectators – including Mr and Mrs Mrs Hughes, and Mrs Cobinga Bright and her little girl. At 5.30pm the bride and groom arrived and we had a sumptuous dinner.
We then all went along to the Welsh Church where a reception had been arranged in our honour – Dr Keigwhi Dr Keigwhi presided the Minister of one of the Presbyterian Churches in New York – Addresses of welcome were delivered by Rev. Josepth Evans on behalf of the Welsh Churches of the city, by ladies representing different societies. I spoke for about 25 minutes, giving the message.
Hon oedd ‘neges heddwch’ olaf Annie oddi wrth ferched Cymru i ferched America, gan gwblhau eu taith o amgylch yr Unol Daleithiau.
Y bore trannoeth, cychwynasant ar eu mordaith 7 diwrnod adref i Lerpwl, ar yr RMS OIympic, chwaer-long i’r RMS Titanic – oedd wedi suddo gwta ddeuddeg mlynedd yngynt, ar ei mordaith gyntaf yn 1912 o Southampton i Efrog Newydd.
Mae cofnodion dyddiadur Annie o’r daith adref dros yr Iwerydd yn gorffen gyda’r myfyrdod:
“Rhyfeddol mor dda mae Duw wedi bod i ni heb na hap na damwain…Diolch lddo!“
7.7 Tudalen Nodiadau
Mae tudalennau cefn dyddiadur Annie yn cynnwys nodiadau a brasluniau o’i theithiau, rhai ohonynt i’w gweld yn sôn am areithiau yr oedd yn eu hoffi. Roedd un nodyn o’r fath yn ymwneud â’r Arlywydd o’r Unol Daleithiau a fu farw’n ddiweddar, oedd wedi sylfaenu Cynghrair y Cenhedloedd 4 blynedd yn unig ynghynt:
Roedd Woodrow Wilson yn ddelfrydwr, a ddioddefodd dynged y rhan fwyaf o ddelfrydwyr gyda balchder:
“Byddai’n well gennyf fethu mewn achos y gwn a fydd yn fuddugol rhyw ddydd, nag ennill mewn achos y gwn a fydd yn methu rhyw ddydd”
Mae ei nodiadau hefyd yn cynnwys myfyrdodau personol tu hwnt o ddiddorol am ei hargraffiadau o rai o ‘Ddinasoedd Mawrion’ America:
- Efrog Newydd … dinas o uchderau
- Washington… dinas o adeiladau hardd
- Chicago … dinas o hydoedd – Michigan Avenue yn 60 milltir o hyd!
- Utica … dinas o rodfeydd hardd
- Salt Lake City… dinas o Formoniaid
- San Francisco… dinas o fryniau
- Los Angeles … dinas o faestrefi hardd
8. Effaith Deiseb Heddwch y Merched – America
Roedd Adroddiad Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru ar 1925, ‘Heddwch i Gymru a’r Byd’ yn canmol ymdrechion Dirprwyaeth Heddwch y Merched, a hefyd yn cynnwys ‘llythyr o ymateb’ (delwedd 8 mewn sgan / tudalen 12 o’r blwyddlyfr) oddi wrth Mrs Carrie Chapman Catt, Arlywydd Cymdeithas Genedlaethol y Bleidlais i Ferched yn America, yn dilyn eu Cynhadledd ar Achos a Gwellhad Rhyfel gyntaf.
Wedi’i chynnal yn 1925 gan 9 sefydliad (yn cynrychioli 5 miliwn o ferched America) a ddygwyd ynghyd i ddechrau ar gyfer ymweliad dirprwyaeth Deiseb Merched dros Heddwch Cymru, roedd cynhadledd gyntaf CCCW mor llwyddiannus, fe’u cynhaliwyd bob blwyddyn hyd at 1941. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, parhaodd gwaith CCCW fel y ‘Pwyllgor Addysg ar Heddwch Parhaol’.
Yn y pen draw, ni ymunodd America â Chynghrair y Cenhedloedd; a chydnabyddir bod y Gynghrair wedi methu i raddau helaeth oherwydd diffyg cefnogaeth gan bwerau byd hanfodol (fel America, yr Almaen a Japan), ac am i lywodraethau aelodau ‘beidio â chwarae yn ôl eu rheolau eu hunain’ (fel Ffrainc, Gwlad Belg, yr Almaen, Rwsia a’r Eidal). Gosodwyd y llwyfan ar gyfer yr Ail Ryfel Byd gan Argyfyngau Manshwria ac Abysinia yn y 1930au, ac esgyniad Hitler yn yr Almaen Natsïaidd, a fu’n gwegian yn sgil atgyweiriadau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Fodd bynnag, cafodd gwersi’r Gynghrair – a’r weledigaeth a fynegwyd gan fudiadau merched Cymru ac America yn 1923-6 – eu gwireddu o’r diwedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig, sefydliad y mae America wedi chwarae rôl flaenllaw ynddo trwy hanes (er bod ymneilltuadau diweddar gan Weinyddiaeth Trump yn tanseilio cynnydd o ran heddwch, hawliau dynol a newid yn yr hinsawdd).
9. Yr Effaith yng Nghymru: Gweithredu gan Ferched Dros Heddwch Rhwng y Ddau Ryfel Byd
· Ym 1918 – Sicrhaodd Mudiad y Bleidlais i Fenywod yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ehangach ‘Deddf Cynrychiolaeth y Bobl’, gan ymestyn yr hawl i bleidleisio i fenywod dros 30 oed oedd ag eiddo. Cynyddodd nifer y pleidleiswyr yng Nghymru o 430,000 i 1,172,000.
· O 1919 ymlaen – Arallgyfeiriodd llawer o sefydliadau’r hawl i bleidleisio i feysydd ymgyrchu newydd – gan gynnwys hyrwyddo heddwch yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf.
· Ym 1922 – Crëwyd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, a chynigwyd y syniad o Apêl Merched Cymru am Heddwch fel ymgyrch yn Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod (ym mis Awst 1922).
· Ym 1922 – Canfu’r Chwiorydd Davies o Landinam Gwasg Gregynog er mwyn hyrwyddo’r celfyddydau ac addysg – a oedd hefyd yn ganolbwynt ar gyfer mudiadau addysg drwy Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru (WEAC), y mae eu cynadleddau blynyddol a’u rhaglenni ‘Athrawon a Heddwch Byd-eang’ wedi’u hwyluso gan Gregynog.
· Ym 1923 – Yn dilyn ‘Cynhadledd Genedlaethol i Fenywod’ yn Aberystwyth (ym mis Mai 1923), casglodd ymgyrch Apêl y Merched am Heddwch 390,296 o lofnodion ar draws cymunedau ledled Cymru drwy rwydwaith o Bwyllgorau Trefnu Sirol.
o Cyflwynodd Lowri Ifor ei ei hymchwil i Ddeiseb Merched dros Heddwch (ac i Bererindod Heddwch 1926) yn ‘Penwythnos y Cofio’ Cymdeithas y Cymod yng Nghaernarfon fis Tachwedd 2017, yng Nghynhadledd Heddwch Cymru i nodi Diwrnod Heddwch y Cenhedloedd Unedig ar Fedi’r 21ain 2018, ac yng nghynhadledd ‘Hyrwyddwyr Heddwch y Rhyfel Byd Cyntaf′ ym Mlaenau Ffestiniog ar gyfer penwythnos Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf (WW100) ym mis Tachwedd 2018.
· Ym 1924 – Cyflwynwyd Deiseb Menywod Cymru Dros Heddwch i America ym mis Mawrth 1924 gan ddirprwyaeth o fenywod Cymru lle, gyda rhwydweithiau menywod America, y cyflwynwyd y Datganiad Coffa i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, i’w arddangos yn amgueddfa y Smithsonian ‘hyd byth’, ochr yn ochr â chist o 390,296 o lofnodion.
· Ym 1925 – Cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol, y ‘National Conference on the Cause and Cure of War’, y gyntaf o’i bath, gan fudiadau menywod America a ddygwyd ynghyd gan ymweliad y Cymry ym 1924, gan ddangos cydgefnogaeth i Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru.
· Ym 1925 – Cyflwynwyd Deiseb Arweinwyr Crefyddol yng Nghymru i America gan y Parchedig Gwilym Davies yng nghynhadledd flynyddol cyngor ffederal eglwysi America (ym mis Rhagfyr 1925), gan ddilyn esiampl Deiseb Merched Dros Heddwch.
· Ym 1926 – Dygwyd mwy na 2,000 o fenywod Gwynedd at ei gilydd gan Bererindod Heddwch Menywod Gogledd Cymru, a gychwynnodd ym Mhenygroes Sir Gaernarfon, gan alw am ‘gyfraith nid rhyfel’. Aeth yr orymdaith rhagddi drwy gestyll arfordir Gogledd Cymru – Caernarfon, Conwy, Caer – ac yn ei blaen i rali o 10,000 yn Hyde Park. Sefydlwyd Cyngor Heddwch Menywod Gogledd Cymru yn fuan wedyn.
o ‘Those Marvellous Women’ gan Gwenllian Jones, gwirfoddolwr Canolfan Materion Rhynwladol Cymru, Mehefin 2016.
o North Wales Women’s Peace March of 1926 gan Stephen Thomas, gwirfoddolwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Mehefin 2016.
· Ym 1926 – Croesawodd Cymru Cyngres Heddwch Byd-eang flynyddol (International Federation of League of Nations Societies, IFLNS) yn Aberystwyth (Gorffennaf 1926 – gweler ar y dde ddarn o’r South Wales Argus, Gorffennaf 1af 1926).
· Ym 1928 – Ymestynnodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yr hawl i bleidleisio i bob menyw.
· Ym 1928 – Ymgysylltodd Cyngor Heddwch Menywod Gogledd Cymru â WILPF (Women’s International League for Peace & Freedom).
· Ym 1928 – Ymgyrchodd WILPF, Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a mudiadau menywod Cymru dros Gytundeb Kellogg (Cytuniad ar gyfer Ymwrthod â Rhyfel fel offeryn polisi cenedlaethol), a chroesawodd cymunedau yng Nghymru Miss Balch o Massachussets o gyngres American Women’s International League.
· Ym 1929 – Wedi datblygu ‘cwricwlwm addysg heddwch’ cyntaf y byd, cyhoeddodd Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru ‘Athrawon a Heddwch Byd-eang’ a ddylanwadodd ar Etholiad Cyffredinol 1929.
· Ym 1929 – Pwysodd Ymgyrch Heddwch y Menywod ar bob ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol i ddatgan yn gyhoeddus eu barn am heddwch, er mwyn creu ‘Senedd o Hyrwyddwyr Heddwch’. Etholwyd yr Ymgyrchydd Heddwch, Margaret Bondfield, a ddaeth yn aelod cabinet benywaidd cyntaf y Deyrnas Unedig; daeth Megan Lloyd George yn Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru.
· Ym 1930 – Sefydlwyd Pwyllgor Ymgynghorol Menywod drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, fel fforwm ar gyfer cydgysylltu heddwch a materion rhyngwaldol rhwng mudiadau menywod ledled Cymru.
· Ym 1932 – Heriodd menywod gynhadledd World Disarmament Conference – casglodd deiseb WILPF 6 miliwn o lofnodion ar draws y DU, gydag ymateb arbennig o gryf o Ogledd Cymru. Arweiniodd hyn at gyfyngiadau ar ddiwydiannau arfau gan yr Unol Daleithiau a Phrydain, er bod trafodaethau wedi chwalu erbyn mis Hydref 1933 gydag ymadawiad yr Almaen.
· Ym 1935- O dan arweiniad Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (yn bennaf drwy gyfrwng actifyddion benywaidd mewn cymunedau lleol), casglodd Y Bleidlais Heddwch yng Nghymru fwy nag 1 miliwn o ymatebion i 5 cwestiwn allweddol ynghylch sut y dylid bwrw ymlaen â’r gwaith o gynnal heddwch – a hynny yng Nghymru yn unig.
· Ym 1937 – Cydlynwyd ymgyrch gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a’r Lleng Brydeinig drwy gyfrwng y cyfryngau Cymreig a rhyngwladol i amlygu straeon Mamau’r Rhyfel gan eirioli dros heddwch, a hynny wrth i gymylau duon grynhoi ar y gorwel Ewropeaidd.
· Ym 1938 – ‘Minnie James a Mamau Dros Heddwch’ – arweiniodd mamau’r Rhyfel Byd Cyntaf seremoni agoriadol Teml Heddwch ac Iechyd Cymru ym mis Tachwedd 1938, gyda Minnie James o Ferthyr Tudful yn perfformio’r seremoni (Gweler Gwahoddiad Annie uchod).
· Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, datblygodd hanes actifiaeth menywod Cymru dros heddwch mewn cyfeiriadau gwahanol drwy’r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear Cymru, (CND) Cymru – gan gyrraedd uchafbwynt gyda gorymdaith ‘Women for Life on Earth’ ym 1981 o Abertawe i Berkshire, a esblygodd yn Wersyll Heddwch Merched Comin Greenham, Greenham Common Women’s Peace Camp – hon oedd y brotest heddwch hiraf mewn hanes diweddar, gan ymestyn o 1981 i 2000.
10. Canmlwyddiant Deiseb Merched dros Heddwch, 2023-24
Wrth i’r Academi Heddwch, a sefydlwyd yn ddiweddar, gydlynu ac arwain y gwaith, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gobeithio datblygu’r gwaith hwn ochr yn ochr â Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, amgueddfa y Smithsonian, Heddwch Nain Mamgu, a phartneriaid a gwirfoddolwyr eraill er mwyn nodi canmlwyddiant Deiseb Menywod dros Heddwch 2023-24 – gyda’r nod o rannu’r stori ac yn y gobaith o ysbrydoli ‘cenhedlaeth newydd o fenywod rhyngwladol’ ledled Cymru.
Os gallwch gyfrannu at y prosiect ysbrydoledig hwn – drwy ymchwilio, drwy wirfoddoli, drwy ddigideiddio / trawsgrifio, drwy brosiectau cymunedol neu brosiectau ysgolion, neu drwy noddi / cyfrannu tuag at achos nodi’r Canmlwyddiant – cysylltwch os gwelwch yn dda â heritage@wcia.org.uk
Cyfeiriadau
- Hafan Deiseb Heddwch y Merched a Threftadaeth y Deml Heddwch, WCIA
- Gweler Casgliad o luniau Deiseb Merched dros Heddwch Cymru ar Casgliad y Werin
- Gweler Casgliad o luniau ‘Merched, Rhyfel a Heddwch’ ar Flickr.
- Gweler y Gofeb wedi’i digideiddio yn Casgliad y Werin Cymru
- Darllenwch y testun llawn am apêl Cofeb y Merched .
- Gweler Pwyllgorau Trefnu Sirol o ferched a gydlynodd ymgyrch y ddeiseb heddwch yng Nghymru
- Gweler tudalennau wedi’u digideiddio o “Ddyddiadur Annie” – dyddiadur bach du Mrs Peter Hughes-Griffiths‘, a arweiniodd ddirprwyaeth heddwch y Merched i America yn 1924
- Gweler y Trawsgrifiad o “Ddyddiadur Annie” (gwaith ar y gweill – mae WCIA yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gwblhau’r gwaith hwn, gweler isod)
- Gweler Toriadau Papur Newydd o “Daith Heddwch Merched Cymru” o amgylch America, 1924.
- Beth wnaethon nhw nesaf? Gweler Archifau’r Deml o Bwyllgor Merched WLNU (Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru)
- Gwybodaeth bellach am hanes Cynghrair y Cenhedloedd.