Gwahoddwyd tîm Gweithredu Byd-eang WCIA i Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn Llandudno. Mae’r gwobrau’n gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith rhagorol ieuenctid, gweithwyr ieuenctid a’r rhai sy’n ymwneud â Gwaith Ieuenctid ar draws Cymru.
Mae Gwaith Ieuenctid yn creu amgylchedd y gall pobl ifanc ymlacio ynddo a chael hwyl, gan deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. Drwy gyfleoedd dysgu heb fod yn ffurfiol a chyfleoedd dysgu anffurfiol, mae gwaith ieuenctid yn helpu ac yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.
Cafodd yr enillwyr eu dewis o’r categorïau canlynol: Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol, Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel ranbarthol neu genedlaethol, Arloesi digidol, Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn lleoliad gwaith ieuenctid, gweithiwr ieuenctid rhagorol, Gwirfoddolwr rhagorol mewn lleoliad gwaith ieuenctid, Seren y dyfodol ac arloesedd yn y Gymraeg.
Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gafodd eu henwebu am wobr, mae eich gwaith yn ysbrydoli pab ar draws Cymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac sy’n eu cefnogi.