Wythnos Ffoaduriaid Cymru 2022

Refugees Welcome

Gan ddechrau ar yr 20fed o Fehefin gyda dathlu Diwrnod Ffoaduriaid y Byd, a gorffen ar y 26ain, am saith diwrnod, bu Cymru’n dathlu Wythnos Ffoaduriaid 2022. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar draws y wlad, gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa y mae llawer o bobl y dyddiau hyn yn darganfod eu hunain yn gaeth iddi. O ystyried datblygiadau diweddar mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a chenedlaethol fel pasio’r Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau, y rhyfel yn yr Wcráin neu lywodraeth y DU yn torri cyfraith ryngwladol ac yn anfon ffoaduriaid i Rwanda… Canolbwyntiodd Wythnos Ffoaduriaid eleni ar roi llais i’r rheini sydd â’r angen mwyaf, mewn ymgais i sbarduno gweithredu ac atal triniaeth annheg ac annynol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.  Edrychwch ar y gwahanol ddigwyddiadau a gynhaliwyd, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cyfresi’r dyfodol drwy ein dilyn ar ein cyfryngau cymdeithasol neu edrych ar ein tudalen we!