Arddangosfa Merched, Rhyfel a Heddwch ym Mangor ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2019

Mae’n bosib gweld arddangosfa Merched, Rhyfel a Heddwch yn Storiel, Bangor o 1 Mawrth – 27 Ebrill 2019

Trwy gydol mis Mawrth a mis Ebrill 2019, gan gynnwys ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched #IWD2019 ar 8 Mawrth, bydd Storiel ym Mangor yn gartref i ‘Merched, Rhyfel a Heddwch’ – arddangosfa emosiynol gan y ffoto-newyddiadurwraig enwog Lee Karen Stow gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA).

  • Ifanwy Williams – actifydd heddwch drwy gydol ei hoes o Borthmadog. Fe’i ganwyd dim ond 3 blynedd wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Reiko Hada – goroesodd y bom atomig a laddodd 80,000 o bobl yn Nagasaki, ac athrawes heddwch drwy gydol ei hoes.
  • Krystyna Kosiba – ffodd o ddinas Warsaw a gafodd ei meddiannu gan y Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd a chafodd noddfa yng Nghymuned Bwylaidd Penrhos ym Mhen Llŷn. 
  • Francess Ngaboh-Smart – goroesodd yr hil-laddiad pan oedd yn ei harddegau yn Sierra Leone, cyn gweithio i Lys Arbennig y Cenhedloedd Unedig gan ddal y rheiny a oedd yn gyfrifol am droseddau rhyfel. 
  • Hazar Almahmoud – ffodd o Syria yn 2014 gyda’i merch ifanc. A hithau wedi cael cynnig noddfa yng Nghasnewydd, bellach mae Hazar yn gwirfoddoli gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru.

Mae ‘Merched, Rhyfel a Heddwch’ yn archwilio effaith rhyfel ar fywydau merched yng Nghymru ac ar draws y byd, trwy eu darluniau a’u straeon personol – wrth ystyried hefyd sut mae merched Cymru wedi ysbrydoli’r ymchwil am heddwch yn y 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys nifer o ferched ysbrydoledig Cymreig sydd â gwahanol bersbectifau ar ryfel a heddwch – o ymgyrchwyr heddwch i bersonél milwrol sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, a ffoaduriaid sydd wedi dianc rhag gwrthdaro diweddar i ddod o hyd i noddfa yng Nghymru. Mae gwaith Lee yn tynnu ar straeon a phrofiadau merched o bob cwr o’r byd, o Fietnam i Balesteina.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2019 yw #CydbwyseddErGwell – galwad i gyflymu cydbwysedd rhwng y rhywiau. Mae arddangosfa Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cyflwyno nid yn unig effaith anghymesur rhyfel ar ferched yn fyd-eang- yn aml, effaith nad yw’n cael sylw, ond hefyd y rôl bwysig mae llawer o ferched wedi’i chwarae wrth arwain ac ysbrydoli ymdrechion i sicrhau heddwch yn lleol ac yn fyd-eang.

Ar 8 Mawrth (Diwrnod Rhyngwladol y Merched) ei hun, o 12.30 bydd Storiel yn cynnal darlith am ddim amser cinio gan Annie Williams yn cyflwyno ‘Pleidleisiau i Ferched – Swffragwyr Bangor’ – yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac yn lansio arddangosfa Merched, Rhyfel a Heddwch yn ffurfiol. Bydd côr yn canu ‘Anthem Pankhurst’ am 1.40pm.

I gyd-fynd â darluniau Lee, bydd dogfen unigryw o archif Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn Nheml Heddwch ac Iechyd Cymru, ‘Apêl y Merched i America’ yn 1923. A honno wedi’i llofnodi gan 390,296 o ferched ar draws Cymru wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, a’i chyflwyno i Arlywydd UDA, Calvin Coolidge, yn Washington gan 4 o ferched Cymru, roedd y ddeiseb i gynghreiriau merched America yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd a’i harwain, fel modd i ddod â diwedd ar bob rhyfel. Yn ddiweddarach, ym 1926, ymunodd dros 2,000 o ferched ym Mhererindod Heddwch Gogledd Cymru o Benygroes, Sir Gaernarfon, i Hyde Park yn Llundain, yn galw am ‘Gyfraith yn lle rhyfel’ i setlo anghydfodau rhyngwladol – gan alw ar Brydain i arwain cynhadledd ddiarfogi Ewropeaidd.

95 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r straeon hyn a fu’n gudd cyn hyn – a dadorchuddiwyd gan brosiect ‘Cymru dros Heddwch’ Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri – wedi ysbrydoli ymgyrch a arweinir gan ferched yng Ngwynedd, ‘Heddwch Nain Mamgu’ i ailgynnau gweledigaeth y genhedlaeth a oroesodd y Rhyfel Byd Cyntaf, am fyd heb ryfel.

Ymhlith darluniau trawiadol Lee Stow, mae Ifanwy Williams sy’n 97 mlwydd oed o Borthmadog sef un o aelodau sefydlu Heddwch Nain/Mam-gu, ac mae wedi bod yn ymgyrchydd heddwch drwy gydol ei hoes gyda Chymdeithas y Cymod a sefydlwyd ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ac mae ffilm fer yn dangos Iona Price o Danygrisiau, a ddywedodd “Fy ymateb cyntaf i’r ddeiseb anhygoel hon oedd sioc ac anghrediniaeth nad oeddwn erioed wedi clywed amdani o’r blaen. Mae grŵp ohonom wedi dod ynghyd i wneud yn siŵr nad ydym byth yn anghofio lleisiau’r merched hyn – ac na ddylid byth tawelu’r ble am heddwch a byd heb ryfel.”

Ffilm fer o lansiad ‘Heddwch Nain Mam-gu’ yn 2018  

Fel rhan o’r arddangosiad, gall ymwelwyr â Storiel chwarae eu rhan nhw mewn hanes drwy lofnodi deiseb newydd am fyd heb ryfel, a grëwyd gan Heddwch Nain fel ymateb cyfoes i’w chyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig yn 2023-4 – 100 mlynedd ar ôl y gwreiddiol. Ers ei lansiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2018, mae eisoes wedi casglu 3,500 o lofnodion.

Lee Karen StowDywedodd y ffoto-newyddiadurwraig Lee Karen Stow – y mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn lleoliadau o Amgueddfa Horniman a’r Amgueddfa Caethwasiaeth Rhyngwladol i Bencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd – “Pan ddechreuais adrodd straeon rhyfel merched bron i 20 mlynedd yn ôl, dywedwyd wrthyf – os nad ydyw wedi’i ddogfennu, yna yn llygaid y byd nid yw’n bodoli. Wel, mae’r merched hyn yn bodoli, mae eu profiadau yn wir. Gall eu straeon fod wedi’u colli mewn hanes, neu amser, petaent heb eu cofnodi. Ond gall y merched hyn ein hysbrydoli ni i gyd heddiw i weithio tuag at fyd gwell.”

Susie Ventris-Field

Ychwanegodd Susie Ventris-Field, a ddaeth y ferch gyntaf i fod yn bennaeth ar Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn y Deml Heddwch yn ddiweddar, “Mae gan Gymru dreftadaeth anhygoel o gymunedau’n gweithredu ar faterion byd-eang, o gefnogi i greu Cynghrair y Cenhedloedd 100 mlynedd yn ôl wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, i adeiladu cysylltiadau effeillio rhwng trefi a’r wlad neu ddod yn Genedl Fasnach Deg. Rydym yn hynod falch o fod wedi gweithio gyda Lee i ddod â straeon rhai o’r merched hyn a effeithiwyd gan ryfel a heddwch yn fyw – i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o rhyng-genedlaetholwyr i siapio rôl Cymru yn y byd, i siapio’r dyfodol y maent eisiau ei weld.”

Ymwelwch ag arddangosfa Merched, Rhyfel a Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn Storiel o 2il Mawrth hyd at 27ain Ebrill 2019.