Ymunodd 10 gwirfoddolwr tymor hir â ni yn y Deml Heddwch i gymryd rhan mewn hyfforddiant tru diwrnod. Grŵp amrywiol o bobl ifanc o bob rhan o Ewrop sy’n gwirfoddoli ar benrhyn Gŵyr, ac yn Sir Fynwy a Sir Benfro ydy’r rhain. Ar wahân i gyfle gwych i ddod i adnabod gwirfoddolwyr eraill a threulio ychydig ddyddiau gyda’i gilydd yng Nghaerdydd, dysgodd y bobl ifanc am ddiwylliant Cymru a Phrydain, a gwerthfawrogi gwahaniaeth mewn diwylliannau eraill, rhywfaint o awgrymiadau allweddol o fywyd yng Nghymru, a llawer mwy. Roeddent yn ddigon ffodus hefyd i gael taith o amgylch y Senedd, a chael cipolwg diddorol ar wleidyddiaeth Cymru. Hoffai pawb yn WCIA ddymuno’r gorau iddynt ar gyfer gweddill eu Lleoliad ESC.