‘Mae pobl ifanc yn ffyrnig o wleidyddol’ – Gweinidog Addysg yn canmol myfyrwyr yn ystod cynhadledd ddigidol
Mae’r Gynhadledd Flasu ddigidol gyntaf, sef Dyfodol Llwyddiannus drwy Ddysgu Byd-eang, a gynhaliwyd gan Gynghrair Dysgu Byd-eang Cymru, wedi bod yn llwyddiant, gyda chyfanswm o 109 o bobl yn cymryd rhan.
O dan gadeiryddiaeth WCIA, canolbwyntiodd y gynhadledd ar ddysgu byd-eang, a’i nod oedd cefnogi addysgwyr i gyflawni pedwar diben Cwricwlwm newydd Cymru, ac i ysgolion unedig, llunwyr polisi a swyddogion y llywodraeth ganolbwyntio ar rôl dysgu byd-eang wrth fynd i’r afael â chydraddoldeb hiliol yn y cwricwlwm newydd.
Cymerodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, ran mewn sesiwn holi ac ateb byw, lle gofynnodd cyfranogwyr gwestiynau am gyfleoedd hyfforddi i addysgwyr, yn ogystal â chymorth i athrawon dan hyfforddiant sydd yn gobeithio cyflawni eu safonau Statws Athro Cymwysedig eleni.
Pan ofynnwyd sut rydym yn sicrhau bod dysgu byd-eang ac addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth o ystyried y pwysau presennol mae ysgolion yn eu hwynebu, meddai’r Gweinidog:
“Rwy’n credu bod y cwricwlwm newydd yn diogelu’r flaenoriaeth honno, oherwydd rhoddir statws cyfartal i bob un o’r meysydd dysgu a phrofiad yn y cwricwlwm. Yn y bil cwricwlwm ac asesu newydd, y cyfrifoldeb cyfreithiol yn yr ysgol a’r corff llywodraethu fydd i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys i ddisgyblion tan eu bod nhw’n 16 oed, a bydd angen i ddisgyblion gymryd rhan ym mhob un o’r meysydd dysgu a phrofiad a chael cyfleoedd i gymryd rhan, hyd yn oed os nad ydynt yn mynd i sefyll cymhwyster ffurfiol yn y maes penodol hwnnw.
“O wrando ar blant a phobl ifanc, maen nhw’n deall mwy nag erioed bod Saesneg a mathemateg yn bwysig, ond yr hyn sydd ei angen arnynt ydy’r cwricwlwm eang a chytbwys hwnnw, ac maen nhw eisiau cymryd rhan yn y materion hyn. Pan rwyf yn siarad gyda phobl ifanc, maen nhw’n wleidyddol iawn mewn ffordd sydd ddim yn wleidyddol, ac maen nhw’n poeni’n fawr am ba faterion sy’n digwydd yn eu cymuned ac yn y byd o’u cwmpas. Maen nhw eisiau cael y cyfle yn yr ysgol i gymryd rhan yn y pynciau hynny.”
Gwrandewch ar araith ac atebion Kirsty William yma;
Cyflwynwyd astudiaeth achos ysgol y sesiwn gan fyfyrwyr Ysgol Bro Dinefwr, Millie a Charlotte. Rhannodd y pâr newyddion am brosiect eu hysgol fel rhan o’r prosiect ‘Walk the Global Walk’
Millie a Charlotte (ar y dde) yw dau o’r pump o ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn y prosiect Gôl-geidwaid yn eu hysgol, ac mae’r tîm eisoes wedi cynnal gwasanaethau ysgol i godi ymwybyddiaeth ynghylch newid yn yr hinsawdd a sut y gall myfyrwyr weithredu.
Dywedont:” Mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi i weithio gydag ysgolion, disgyblion ac athrawon eraill yng Nghymru ac o wledydd eraill. Mae’n sicr wedi cynyddu ein hyder, ac rydym wedi mwynhau bod yn rhan ohono’n fawr. Bydd Gôl-geidwaid newydd yn yr ysgolion y flwyddyn nesaf, a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr eraill gymryd rhan, ond rydym yn gobeithio y gallwn barhau i weithio ar ein prosiectau a’n syniadau hirdymor y flwyddyn nesaf. “
Gallwch ddysgu mwy am y prosiect Gôl-geidwaid yn eu hysgol yma- https://vimeo.com/402870418
Cymerodd gyfranogwyr ran mewn gweithgarwch grŵp hefyd, a oedd yn ystyried awgrymiadau ymarferol ar gyfer defnyddio meddwl beirniadol a safbwyntiau niferus yn yr ystafell ddosbarth.
Gallwch ddod o hyd i’r prif bwyntiau o’r gweithgaredd, yn ogystal ag adnoddau defnyddiol a rhagor o wybodaeth o’r gynhadledd yma – Adnoddau a gwybodaeth ar-lein