Cenedl Noddfa?

Gan adeiladu ar dreftadaeth heddwch Cymru o gynnig lloches i ffoaduriaid dros y can mlynedd diwethaf, sefydlodd Cymdeithas Sifil Cymru fudiadau ‘dinasoedd noddfa’ – lle mae pobl a chymunedau lleol yn cydweithio i wneud eu dinasoedd yn lleoedd sy’n croesawu ffoaduriaid newydd, lle gallant deimlo’n ddiogel rhag rhyfel ac erledigaeth. Abertawe oedd ail Ddinas Noddfa gwledydd Prydain yn 2010, a daeth Caerdydd yn ddinas noddfa yn 2014.

Cymru – Ymgyrch Cenedl Noddfa

Mae grwpiau cymdeithas sifil wedi dod at ei gilydd i ymgyrchu dros gydnabod Cymru yn ‘genedl noddfa’ gynta’r byd. Gweler Briff Gweithredu Cenedl Noddfa.

Grwpiau Lloches a Chefnogi Ffoaduriaid Lleol

Adnoddau a Dolenni

A yw Cymru heddiw yn fan o heddwch i’r rheiny sy’n ffoi rhag gwrthdaro? A beth a ddaw o ryngwladoldeb Cymru a symudedd yn Ewrop mewn byd ar ôl Brexit, ac ar gyfer y cenedlaethau a ddaw?