Oxfam
Y tu ôl i’r bwyd rydyn ni’n ei brynu, mae miliynau o bobl yn ei dyfu, ei ddal a’i brosesu, ac yn ei drosglwyddo ar hyd y gadwyn gyflenwi nes ei fod yn diweddu fyny yn ein cartrefi. Ond mewn diwydiant bwyd byd-eang sy’n werth triliynau o ddoleri, mae gormod o lawer o fenywod a dynion y tu ôl i’n bwyd yn cael eu gorfodi i fyw bywydau o galedi a dioddefaint, ac o orfod gweithio oriau hir mewn amgylchiadau annymunol am braidd dim arian.
Adroddiad Oxfam – “Ripe for Change” 2018
Ymchwil
Adroddiad “Ripe for Change”: https://www.oxfam.org/en/research/ripe-change
Prif ganfyddiadau:
- Dioddefaint dynol eang ymysg menywod a dynion sy’n cynhyrchu bwyd ar gyfer archfarchnadoedd o gwmpas y byd: sy’n cynnwys – llafur gorfodol, derbyn cyflog ond byw mewn tlodi, a newyn gan weithwyr.
- Mae pŵer cynyddol archfarchnadoedd yn arwain at ddirywiad ym mhŵer ffermwyr sydd â ffermydd bychain a’u gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi bwyd
Dioddefaint dynol y tu ôl i’r bwyd môr yn ein marchnadoedd: https://www.oxfam.org/en/behind-price/behind-seafood-our-markets-stories-human-suffering
Link
Gofynion yr Ymgyrch
- Edrychwch, rhannwch a dewch yn ymwybodol o’r cerdyn sgorio.