Asylum Matters
Mae Asylum Matters, ar y cyd â mwy nag 80 o elusennau eraill, tanciau meddwl, grwpiau ffydd, busnesau ac undebau llafur, wedi lansio’r ymgyrch ‘Lift the Ban’, sydd yn galw ar y Llywodraeth i ganiatáu’r hawl i weithio i bobl sy’n ceisio lloches, heb eu rhwystro gan y Rhestr Galwedigaethau â Phrinder.
Research
Mae’r ymgyrch hon wedi’i seilio ar ymchwil ddiweddar a gynhaliwyd gan “Asylum Matters”. Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgyrch yma.
Yn bennaf, mae’r ymchwil yn tynnu sylw at y ffaith y byddai newid polisi yn cyflwyno manteision fel:
• Cryfhau cyfleoedd pobl i allu integreiddio yn eu cymunedau newydd
• Caniatáu i bobl sy’n ceisio lloches i fyw mewn urddas ac i ofalu amdanyn nhw eu hunain a’u teuluoedd
• Rhoi’r cyfle i bobl ddefnyddio eu sgiliau a gwneud y gorau o’u potensial
• Gwella iechyd meddwl pawb yn y system lloches
• Helpu i herio llafur gorfodol, ecsbloetiaeth a chaethwasiaeth fodern.
Mae’r ymchwil yn dod i’r casgliad bod lefel gryf o gefnogaeth gyhoeddus ar gyfer y newidiadau polisi hyn.
Sut i gymryd rha
• Cymerwch ran yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #LiftTheBan, a rhannwch yr adnoddau uchod gyda’ch rhwydweithiau.
• Arwyddwch y ddeiseb yn galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i godi’r gwaharddiad
• Lawrlwythwch Becyn Gweithredu Lift the Ban